Appointment of Independent Member ICT

Blaenau Gwent, Caerphilly, Monmouthshire, Newport, Torfaen.
£15,936 per annum
05 Oct 2020
02 Nov 2020
Permanent
Part Time

Aneurin Bevan University Health Board

Appointment of Independent Member ICT

Remuneration of £15,936 with time commitment of 4 days per months

We have an exciting opportunity for an individual to help shape the future of health care in the Gwent area and in NHS Wales through undertaking the role of an Independent Member at Aneurin Bevan University Health Board. 

We are looking for a dynamic individual to undertake the role of an Independent Member ICT at Aneurin Bevan University Health Board. The role will actively contribute to meeting the challenge of making a contribution to health and social care provision in line with the strategic direction of NHS Wales in the areas of Blaenau Gwent, Caerphilly, Monmouthshire, Newport, Torfaen.

As Independent Member ICT, you will have specialist ICT knowledge, organisational experience, knowledge of local community issues and priorities and a citizen focused approach to championing the board’s purpose in serving the public, which will benefit the Health Board moving forward. Appointees will play a full and active role in the corporate and clinical governance of the health board, work closely with other public, private and third sector organisations and contribute to the good governance of the Health Board ensuring its openness and honesty by contributing fully to the Board’s decision making processes. 

This appointment will be made on merit, although consideration will be given to the need to establish a balanced skills mix on the Board.

The Independent Member will be appointed for up to a four (4) year period. The posts of the Independent Members are based on notional time commitments of a minimum of four (4) days per month subject to organisational demands, but these are often higher than the minimum requirement. 

Meetings of the Health Board are usually held at Health Board Headquarters, St Cadoc’s Hospital, Caerleon, but could be held at venues across the Health Board area.

If you have a genuine desire to play a full and active role in the governance of a Health Board and to make a real difference to the lives of the people of Gwent and Wales, we would like to hear from you.

It is the policy of the Welsh Government to promote and integrate equality of opportunity into all aspects of its business including appointments to public bodies.  Applications are welcomed and encouraged from all groups and we ensure that no eligible candidate for public office receives less favourable treatment on the grounds of age, disability, gender, marital status, sexual orientation, gender reassignment, race, religion or belief, or pregnancy and maternity. The principles of fair and open competition will apply and appointments will be made on merit.

 

The closing date for receipt of applications is 06/11/2020 at 4pm

Application forms received after this date will not be considered.

It is expected to hold interviews during w/c 11/01/2021.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Penodi Aelod Annibynnol - TGCh

Tâl cydnabyddiaeth o £15,936 gydag ymrwymiad amser o 4 diwrnod y mis.

Mae gennym gyfle cyffrous i unigolyn helpu i siapio dyfodol gofal iechyd yn ardal Gwent a Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru drwy ymgymryd â rôl Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Rydym yn edrych am unigolyn dynamig i ymgymryd â rôl Aelod Annibynnol - TGCh o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu'n weithredol i ymateb i’r her o gyfrannu at ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn unol â chyfeiriad strategol GIG Cymru yn ardaloedd Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.

Fel Aelod Annibynnol - TGCh, bydd gennych wybodaeth arbenigol am TGCh, profiad o weithio mewn sefydliad, dealltwriaeth o faterion a blaenoriaethau cymunedol lleol a'r gallu i ddefnyddio dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dinesydd i hybu diben y Bwrdd Iechyd o ran gwasanaethu'r cyhoedd, a fydd o fudd i’r Bwrdd Iechyd yn y dyfodol. Bydd y sawl a benodir yn chwarae rhan lawn a gweithgar yng ngwaith llywodraethu corfforaethol a chlinigol y Bwrdd Iechyd, yn cydweithio'n agos â sefydliadau eraill yn y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector ac yn cyfrannu at weithgarwch llywodraethu da y Bwrdd Iechyd gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest drwy gyfrannu'n llawn at brosesau'r Bwrdd ar gyfer gwneud penderfyniadau. 

Gwneir y penodiad ar sail teilyngdod ond rhoddir ystyriaeth i'r angen i gael amrywiaeth gytbwys o sgiliau ar y Bwrdd.

Penodir yr Aelod Annibynnol am gyfnod o hyd at bedair (4) blynedd. Mae swyddi Aelodau Annibynnol yn seiliedig ar ymrwymiad amser tybiedig o bedwar (4) diwrnod y mis o leiaf, ond bydd hynny'n amodol ar ofynion y sefydliad ac mae hynny’n aml yn fwy na'r isafswm gofynnol.

Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd Iechyd ym Mhencadlys y Bwrdd Iechyd, Ysbyty Sant Cadog, Caerllion fel arfer ond gellir eu cynnal mewn lleoliadau ledled ardal y Bwrdd Iechyd.

Os ydych yn wirioneddol awyddus i chwarae rhan lawn a gweithgar yn y gwaith o lywodraethu Bwrdd Iechyd, ac i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl Gwent a Chymru, hoffem glywed gennych.

Mae'n bolisi gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo cyfle cyfartal a'i ymgorffori ym mhob agwedd ar ei gwaith, gan gynnwys penodiadau i gyrff cyhoeddus. Croesewir ac anogir ceisiadau gan bob grŵp ac rydym yn sicrhau na fydd unrhyw ymgeisydd cymwys am swydd gyhoeddus yn cael ei drin yn llai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn cael eu parchu, a phenodir ar sail teilyngdod.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 06/11/2020 am 4pm.

Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Rhagwelir y bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos yn dechrau 11/01/2021.