Non-Executive Director (Local Authority)

Cardiff, Wales
£9,360
16 Nov 2021
03 Dec 2021
Permanent
Part Time

Remuneration - £9,360 per year, plus travel and other reasonable expenses within reasonable limits for minimum of four (4) days per month.

Public Health Wales is the National Public Health Institute in Wales. Its vision is Working to achieve a healthier future for Wales and, in delivering this vision, it plays a pivotal role in driving improvements in population health and wellbeing, reducing health inequalities, improving healthcare outcomes, protecting the public and supporting the development of health in all policies across Wales.

The organisation works closely with communities, NHS organisations, local authorities, ministers and officials and a wide range of partners including the voluntary sector, housing, education and the police and criminal justice system. It also has an increasing role in supporting public health internationally as a World Health Organization Collaborating Centre and through its many relationships with international partners including the International Association of National Public Health Institutes.

Public Health Wales is also an NHS Trust and is seeking to appoint a new Independent Member to its Board. This is an exciting time for the organisation as it sets about implementing a new long-term strategy, this is a significant opportunity to use your skills and experience to make a contribution to its vision: Working to achieve a healthier future for Wales.

Public Health Wales works in strategic partnership with local authorities across Wales, this partnership being pivotal to the achievement of our mission and vision to improve the health and well-boing of the people of Wales. It is important that we maintain effective links and maximise our combined efforts with all Local Authorities via both formal and informal networks. We are therefore seeking applications from people with past or present knowledge and experience of working with, or within, local authorities in Wales, to bring this vital perspective to the Board table.

 

Knowledge & Experience

  • A knowledge and understanding of the role of a local authority/ies in Wales;

  • Ability to apply your knowledge and understanding of local authority matters, in relation to public health and the wider determinants of health, in a strategic Board environment;

  • An understanding of the issues affecting Local Authorities nationally and the ability to work in partnership to achieve joint / desired outcomes;

  • Experience of working at a senior executive or Board level.


 

 

Desirable Criteria

 

  • You will have ideally served in a non-executive or trustee role, at a national level.



 

For an informal discussion, please contact Helen Bushell, Board Secretary and Head of Board Business Unit


 

Deadline for Applications: 3 December 2021

Interview date: 11 or 12 January 2022


 

Cyfarwyddwr Anweithredol (Awdurdod Lleol)
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cymru
tua 4 diwrnod y mis
Gyda thâl


Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Sefydliad Iechyd y Cyhoedd cenedlaethol Cymru. Ei weledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru ac, wrth gyflawni'r weledigaeth hon, mae'n chwarae rhan ganolog mewn ysgogi gwelliannau o ran iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.

Mae'r sefydliad yn gweithio'n agos gyda chymunedau, sefydliadau'r GIG, awdurdodau lleol, gweinidogion a swyddogion ac ystod eang o bartneriaid gan gynnwys y sector gwirfoddol, tai, addysg a'r heddlu a'r system cyfiawnder troseddol. Mae ganddo hefyd rôl gynyddol wrth gefnogi iechyd y cyhoedd yn rhyngwladol fel Canolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd a thrwy ei nifer o berthnasoedd â phartneriaid rhyngwladol gan gynnwys Cymdeithas Ryngwladol Sefydliadau Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn Ymddiriedolaeth GIG ac yn ceisio penodi Aelod Annibynnol newydd i'w Fwrdd. Mae hwn yn amser cyffrous i Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth i ni gychwyn ar strategaeth hirdymor newydd ac mae'n gyfle gwych i ddefnyddio'ch sgiliau a'ch profiad i gyfrannu at ein gweledigaeth: Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio mewn partneriaeth strategol gydag awdurdodau lleol ledled Cymru. Mae'r bartneriaeth hon yn ganolog wrth gyflawni ein cenhadaeth a'n gweledigaeth i wella iechyd a llesiant pobl Cymru. Mae'n bwysig ein bod yn cynnal cysylltiadau effeithiol ac yn gwneud y mwyaf o'n hymdrechion gyda'r holl Awdurdodau Lleol trwy rwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol. Felly rydym yn ceisio ceisiadau gan bobl sydd â gwybodaeth a phrofiad yn y gorffennol neu'r presennol o weithio o fewn, neu gydag, awdurdodau lleol yng Nghymru, i ddod â'r persbectif hanfodol hwn i fwrdd y Bwrdd.

 

Gwybodaeth a Phrofiad

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o rôl awdurdod(au) lleol yng Nghymru;

  • Y gallu i gymhwyso'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o faterion awdurdodau lleol mewn perthynas ag iechyd y cyhoedd, a phenderfynyddion ehangach iechyd mewn amgylchedd Bwrdd strategol;

  • Dealltwriaeth o'r materion sy'n effeithio ar Awdurdodau Lleol yn genedlaethol a'r gallu i weithio mewn partneriaeth i gyflawni'r canlyniadau ar y cyd / a ddymunir;

  • Profiad o weithio ar lefel uwch weithredwr neu Fwrdd.


 

 

Meini Prawf Dymunol

  • Yn ddelfrydol, byddwch wedi gwasanaethu mewn rôl anweithredol neu ymddiriedolwr, ar lefel genedlaethol.

     


 

Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Helen Bushell, Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd.

 

Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 3 Rhagfyr 2021

Dyddiad cyfweliad: 11 neu 12 Ionawr 2022