Community Employment Mentor x 5

Recruiter
Gwent Association of Voluntary Organisations
Location
Ebbw Vale
Salary
£24175 - £28486 per annum
Posted
23 Sep 2020
Closes
06 Oct 2020
Ref
ACANR0610/SG
Contract Type
Contract
Hours
Full Time

COMMUNITY EMPLOYMENT MENTOR x 5
Salary Scp 27 – 32 £24,175 - £28,486pa
Actual Starting Salary Scp 27 £24,175 pa
1 Post x 18.5 hours per week Based in Ebbw Fach South
4 Posts x 37 hours per week Based Ebbw Fach North and South, Tredegar and Ebbw Fawr
Funded until 31st March 2021

The Welsh Government’s Communities for Work Plus programme will provide the infrastructure to support the ongoing delivery of Communities for Work. It will take forward the learning from the Lift Programme, and enable Lead Delivery Bodies to enhance their employment focused support for those, often with complex barriers, who are furthest from the labour market.

The programme will support individuals who are in or at risk of poverty, consistent with the obligations under the Well-Being of Future Generations (Wales) Act. It will work with key stakeholders such as Families First, Flying Start and Supporting People in providing pathways between programmes in order to provide interventions and support to prevent worklessness and economic inactivity. It will provide support for participants who fall outside the currently tightly defined geographical boundaries and eligibility criteria of Communities for Work and other ESF funded programmes.

The role of the Community Employment Mentor will be to provide intensive one to one mentoring to participants to help them identify and take practical steps to overcome barriers preventing them taking up identified training and employment. The postholder will support a caseload of participants by developing and implementing individual action plans.

The Community Employment Mentor will empower, motivate and support participants to move into and, most importantly, sustain employment, as well as supporting participants to progress while in work.

An Enhanced DBS check is required. No CVs accepted. Applicants will only be contacted if they are successful in securing an interview. Please clearly state on the form which post you are applying for: 37 hours with the area(s) stated or the 18½ hour post (Ebbw Fach South).

Closing date for applications: Tuesday 6th October 2020 at 10am
Interview date: Week Commencing 19th October 2020

MENTOR CYFLOGAETH CYMUNEDOL x 5
Cyflog Scp 27 – 32 £24,175 - £28,486 y flwyddyn
Gwir Gyflog yn dechrau ar Scp 27 £24,175 y flwyddyn
1 Swydd x 18.5 awr yr wythnos yn Ne Ebwy Fach
4 Swydd x 37 awr yr wythnos Yng Ngogledd a De Ebwy Fach, Tredegar ac Ebwy Fawr
Wedi’i gyllido hyd at 31 Mawrth 2021

Bydd rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru yn darparu’r seilwaith i gefnogi’r ddarpariaeth barhaus o Gymunedau am Waith. Bydd yn defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn y Rhaglen Esgyn, ac yn galluogi Cyrff Cyflawni Arweiniol i wella’r cymorth sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth ar gyfer y rhai, sy'n aml â rhwystrau cymhleth, sydd bellaf o’r farchnad lafur.

Bydd y rhaglen yn cefnogi unigolion mewn tlodi neu sydd â risg o fod mewn tlodi, yn gyson â’r rhwymedigaethau dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Bydd yn gweithio â rhanddeiliaid allweddol fel Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau'n Deg a Chefnogi Pobl er mwyn darparu llwybrau rhwng rhaglenni er mwyn darparu ymyriadau a chefnogaeth i atal diweithdra ac anweithgarwch economaidd. Bydd yn darparu cymorth i gyfranogwyr sydd y tu allan i'r ffiniau daearyddol a’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer Cymunedau am Waith a rhaglenni eraill sy’n cael eu hariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, sydd wedi’u diffinio’n fanwl iawn ar hyn o bryd.

Rôl y Mentor Cyflogaeth Cymunedol fydd darparu mentora dwys un i un i gyfranogwyr i'w helpu nhw i ddod o hyd i gamau ymarferol i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag ymgymryd â hyfforddiant a chyflogaeth a nodwyd, ac i weithredu ar y camau hynny. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi llwyth achos o gyfranogwyr trwy ddatblygu a gweithredu cynlluniau gweithredu unigol.

Bydd y Mentor Cyflogaeth Cymunedol yn grymuso, yn cymell ac yn cefnogi cyfranogwyr i gael swyddi, ac yn bwysicaf oll, i gadw swyddi, yn ogystal â chefnogi cyfranogwyr i ddatblygu yn eu swyddi.

Bydd gofyn cael archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Ni dderbynnir CVs. Dim ond yr ymgeiswyr hynny sy’n llwyddo i gael cyfweliad y byddwn yn cysylltu â nhw. Nodwch yn glir ar y ffurflen pa swydd rydych chi’n gwneud cais amdani: 37 awr gyda’r ardal neu ardaloedd wedi’u nodi neu’r swydd 18½ (De Ebwy Fach).

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mawrth 6 Hydref am 10am
Dyddiad y cyfweliad: Wythnos yn Cychwyn 19eg Hydref 2020

More searches like this