Communications And Engagement Officer

Recruiter
Adra
Location
North Wales
Salary
Competitive
Posted
28 Oct 2019
Closes
14 Nov 2019
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

SWYDDOG CYFATHREBU AC YMGYSYLLTU

Ni yw Adra. Darparwr cartrefi o safon yng ngogledd Cymru.

Rydym yn gofalu am dros 6,300 o gartrefi ac yn cynnig gwasanaethau i dros 14,000 o gwsmeriaid. Ein nôd yw fod rhain yn fforddiadwy a dibynadwy.

Mae gwella lles ein cymunedau yn flaenoriaeth i ni a byddwn yn gwneud hyn drwy eu gwarchod, eu hyrwyddo a’u cynorthwyo i ddatblygu. Rydym yn cydweithio i gynnig sgiliau, hyfforddiant a chyfleoedd i’r bobl sy’n byw yma.

Mae treftadaeth a diwylliant ein cymunedau hefyd yn bwysig iawn i ni, yn enwedig ein gwaith i hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Fel cwmni uchelgeisiol a hyblyg rydym yn gweithredu gyda meddwl masnachol a chalon gymunedol.

Mae ein holl arian yn cael ei fuddsoddi yn ein cymunedau a dydyn ni ddim yn gwneud elw. Rydym yn dîm o dros 300 o staff proffesiynol ac ymroddedig iawn sy’n rhoi’r cwsmer yng nghanol popeth yr ydym yn ei wneud.

Fel Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu byddwch yn cyfrannu tuag at lwyddiant hyrwyddo Adra fel brand sy’n brif ddarparwr tai fforddiadwy, yn gyflogwr a phartner o ddewis, gan ddefnyddio’r dulliau creadigol cyfathrebu ac ymgysylltu mwyaf addas a diweddar.

Byddwch yn cyflenwi gwasanaethau cyfathrebu, ymgysylltu a marchnata i’n timau gwasanaethol, a phrif arweinwyr y cwmni.

Chi fydd y prif bwynt cyswllt rhwng Adra a’r cyfryngau, gan ddelio hefo ymholiadau adweithiol a gwaith rhyngweithiol i reoli risgiau i’n henw da, a datblygu ymwybyddiaeth a pherthynas da hefo newyddiadurwyr a golygyddion y cyfryngau lleol, rhanbarthol a’r sector.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg, yn hanfodol yn y swydd hon.

Am fwy o wybodaeth, ac i lawrlwytho ffurflen gais, ewch i’n wefan www.adra.co.uk

*******************************************************************************************

COMMUNICATIONS AND ENGAGEMENT OFFICER

We are Adra. We provide quality homes in north Wales.

Our goal is to have affordable and reliable homes. We look after over 6,300 homes and offer services to over 14,000 local customers.

We aim to promote the health, environment and safety of our communities and work together to offer skills, training and opportunities for the people who live here.

The heritage and safety of our communities is very important to us, particularly our work to promote the Welsh language. We are ambitious and flexible with a commercial mind and a social heart

We are a not-for-profit organisation, so all the money is invested back into our communities. We have over 300 very professional and dedicated staff who put the customer at the centre of everything we do.

As a Communications and Engagement Officer you’ll contribute towards the successful promotion of Adra as a brand that is a main provider of affordable housing, an employer and partner of choice, using the latest creative and communication and engagement methods.

You’ll provide inspiring communications, engagement and marketing support to our service teams and senior leaders across the company

You’ll be the main point of contact between Adra and the media, dealing with reactive media enquiries and proactive work to manage reputational risk, and develop a good knowledge and relationship with both local and national and trade journalists and editors.

The ability to speak and write Welsh and English fluently is essential in this role.

Click apply below for further information and to download an application pack.