HSE Technician

Location
Holyhead, Isle of Anglesey (Sir Ynys Mon)
Salary
Competitive
Posted
02 Oct 2019
Closes
25 Oct 2019
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Vacancy:  HSE Technician

POSITION:

HSE Technician

EMPLOYER:

Minesto UK Ltd, a fully owned subsidiary of Minesto AB

LOCATION:

Holyhead, Isle of Anglesey

REPORTING TO:

Chief Operating Officer

CLOSING DATE FOR APPLICATIONS:

Friday 25th October 2019

Please email your CV and Cover Letter

The Company

Minesto is a leading marine energy technology company with the mission to minimise the global carbon footprint of the energy industry by enabling commercial power production from the ocean.

Minesto’s award winning and patented product, Deep Green, is the only verified marine power plant that operates cost efficiently in areas with low-flow tidal streams and ocean currents.

With more than €40 million of awarded funding from the European Regional Development Fund through the Welsh European Funding Office, European Innovation Council and InnoEnergy, Minesto is the European Union’s largest investment in marine energy to date.

Minesto was founded in 2007 as a spin-off from aircraft manufacturer Saab. Today, listed on the Nasdaq First North stock exchange with more than 50 employees and operations in Sweden, Wales, Northern Ireland and Taiwan, Minesto is a driving force in the creation of an emerging renewable energy industry.

Minesto is an Equal Opportunities employer.

The Role

We require a Health and Safety Technician to be based in our Holyhead offices who can support the work activity in Wales and in Portaferry, Northern Ireland.

You would be working under the direction of the incumbent Minesto Health and Safety Manager whilst gaining experience and training to eventually manage the Health & safety within the company.

You will provide guidance and information on all aspects of health, safety and environment matters to all levels of the company; ensuring that all staff are fully competent and receive continuous HSE development and training.

You will ensure that the Minesto Health and Safety Management System (HSMS) is implemented across the business and assist staff in utilising this system.

You will provide HSE support for onshore workshop activity, office and quayside assembly areas. You will be required to work offshore on vessels installing and recovering our tidal turbine devices. You will also support work on the construction of the offshore and onshore infrastructure.

You will help the continuous improvement process across all sites’ and HSE performance based on site inspections and audits. You will help ensure that all personnel working at Minesto have adequate training and guidance to carry out their work safely and to ensure the safety of others, i.e. ensuring best practice throughout the business and to actively monitor and improve on the practices. The role offers you an opportunity to develop your competence in marine renewable energy, become part of a strong and international team in a pioneering industry.

Responsibilities

Your overall responsibility is to advise on HSE issues and improve all HSE activities at Minesto.

Key Responsibilities

  • Responsible for advising staff on all aspects of HSE affecting Minesto’s on and offshore operations
  • Assisting in the development and implementation of the HSMS and HSE procedures in line with industry standards ISO9001, ISO14001, ISO 45001
  • Manage risk registers for offshore operations
  • Coaching of onsite personnel to align to company policies and procedures
  • Raise safety awareness and ensure continuous improvement of the company’s safety culture
  • Highlight any adverse safety trends and ensure adequate safety campaigns are implemented to mitigate them.
  • Ensure Minesto always abides with EU and UK health and safety and environmental regulations  

Your Profile, Experience and Qualifications

We are looking for a technician holding a qualification in Health and Safety at NEBOSH general certificate level who wants to develop their career to a managerial level. We seek someone with good leadership and interpersonal skills who can work alone and under the direction of a senior manager. You will be able to handle complex tasks through thorough and precise communication and planning.

Key Qualifications

  • Have a NEBOSH or similar level General Certificate or qualification
  • Associate Member of a suitable professional body
  • knowledge and awareness of HSE legislation, regulation and industry standards.

Desirable

  • Flexible working approach and ability to fit into a growing team in an innovative technological Industry
  • Experience of HSE in offshore as well as onshore engineering environments
  • Experience of HSE in UK renewable energy, offshore wind, a large civil contractor, a major energy utility, or another relevant industry.
  • The ability to communicate in Welsh

 

 

Swydd Wag:  Technegydd HSE

SWYDD:

Technegydd HSE

CYFLOGWR:

Minesto UK Ltd, is-gwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr Minesto AB

LLEOLIAD:

Caergybi, Ynys Môn

YN ADRODD I:

Y Prif Swyddog Gweithredu

DYDDIAD CAU AR GYFER CEISIADAU:

Dydd Gwener 25ain Hydref 2019

Anfonwch neges e-bost i apply@minesto.com gan atodi eich CV a Llythyr Eglurhaol

CWESTIYNAU:

I Louise Marsden: Ffôn: 01407 762907

Y Cwmni

 Mae Minesto yn gwmni technoleg ynni morol gyda’r nod o leihau ôl troed carbon y diwydiant ynni gan ganiatáu cynhyrchiant pŵer masnachol o’r môr.

Deep Green, cynnyrch arobryn wedi ei batentu gan Minesto, yw’r unig orsaf ynni morol dilys sydd yn gweithredu’n gost effeithiol mewn ardaloedd gyda ffrwd lanwol isel a cherhyntau morol.

Gyda mwy na €40 miliwn o gyllid wedi ei ganiatáu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Cyngor Arloesedd Ewrop ac InnoEnergy, Minesto sydd wedi derbyn y buddsoddiad mwyaf gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer ynni morol hyd heddiw.

Sefydlwyd Minesto yn 2007, ac mae'n deillio o’r gweithgynhyrchwr awyrennau, Saab. Heddiw, wedi ei restru ar gyfnewidfa stoc Nasdaq First North a gyda mwy na 50 o weithwyr a gweithrediadau yn Sweden, Cymru, Gogledd Iwerddon a Taiwan, mae Minesto ar flaen y gad wrth greu diwydiant ynni adnewyddadwy newydd.

 Mae Minesto yn gyflogwr Cyfle Cyfartal.

Y Swydd

Rydym angen Technegydd Iechyd a Diogelwch wedi'i leoli yn ein swyddfeydd yng Nghaergybi a all gefnogi'r gweithgarwch gwaith yng Nghymru ac yn Portaferry, Gogledd Iwerddon.

Byddech yn gweithio dan gyfarwyddyd Rheolwr Iechyd a Diogelwch Minesto wrth ennill profiad a hyfforddiant i reoli Iechyd a Diogelwch y cwmni yn y pendraw.

Byddwch yn darparu cyfarwyddyd a gwybodaeth ar bob agwedd ar faterion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol i bob lefel o'r cwmni; gan sicrhau bod yr holl staff yn gwbl gymwys ac yn derbyn datblygiad a hyfforddiant Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol parhaus.

Byddwch yn sicrhau bod System Reoli Iechyd a Diogelwch Minesto (HSMS) yn cael ei gweithredu ar draws y busnes ac yn cynorthwyo staff i ddefnyddio'r system hon.

Byddwch yn darparu cymorth Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol ar gyfer gweithgarwch gweithdy ar y tir, yn y swyddfa ac mewn mannau ymgynnull ger y cei. Bydd gofyn i chi weithio ar y môr ar longau yn mewnosod ac adfer ein dyfeisiau tyrbinau llanw. Byddwch hefyd yn cynorthwyo gyda gwaith adeiladu'r isadeiledd ar y môr ac ar y tir.

Byddwch yn helpu gyda'r broses gwelliant parhaus ar draws yr holl safleoedd a pherfformiad Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol ar sail arolygon ac archwiliadau ar safleoedd. Byddwch yn helpu i sicrhau bod yr holl aelodau o staff sy'n gweithio yn Minesto yn meddu ar hyfforddiant a chyfarwyddyd digonol i wneud eu gwaith yn ddiogel ac i sicrhau diogelwch pobl eraill, h.y. sicrhau arfer orau ar draws y busnes a monitro a gwella'r arferion yn weithredol. Mae'r swydd yn cynnig y cyfle i chi ddatblygu eich cymhwysedd mewn ynni adnewyddadwy morol, a dod yn rhan o dîm cryf a rhyngwladol mewn diwydiant arloesol.

Cyfrifoldebau

Eich prif gyfrifoldeb yw cynnig cyngor ar faterion Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol a gwella'r holl weithgareddau Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol yn Minesto.

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Cyfrifol am gynghori staff ar bob agwedd ar Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol sy'n effeithio ar weithrediadau Minesto ar y tir ac ar y môr
  • Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu System Reoli Iechyd a Diogelwch a gweithdrefnau Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol yn unol â safonau'r diwydiant ISO9001, ISO14001, ISO 45001
  • Rheoli cofrestriadau risg ar gyfer gweithredoedd ar y môr
  • Hyfforddi staff ar y safle i lynu at bolisïau a gweithdrefnau'r cwmni
  • Codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch a sicrhau gwelliant parhaus yn niwylliant diogelwch y cwmni
  • Tynnu sylw at unrhyw dueddiadau diogelwch niweidiol a sicrhau bod ymgyrchoedd diogelwch digonol wedi'u rhoi ar waith i'w lliniaru nhw.
  • Sicrhau bod Minesto yn glynu at reoliadau iechyd a diogelwch ac amgylcheddol yr UE a'r DU bob amser 

Eich Proffil, Profiad a Chymwysterau

Rydym yn chwilio am dechnegydd sy'n meddu ar gymhwyster mewn Iechyd a Diogelwch ar lefel dystysgrif gyffredinol NEBOSH sy'n awyddus i ddatblygu ei yrfa i lefel reolaethol. Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau arwain a rhyngbersonol da a all weithio'n unigol a dan gyfarwyddyd uwch reolwr. Byddwch yn gallu mynd i'r afael â thasgau cymhleth drwy gyfathrebu a chynllunio'n drylwyr a manwl gywir.

Cymwysterau Allweddol

  • Meddu ar gymhwyster NEBOSH neu Dystysgrif Gyffredinol ar lefel gyffelyb
  • Aelod cyswllt o gorff proffesiynol addas
  • Gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth, rheolau a safonau diwydiant Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd.

Dymunol

  • Agwedd hyblyg at waith a'r gallu i gydweithio fel rhan o dîm sy'n tyfu mewn Diwydiant technolegol arloesol
  • Profiad o Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd mewn amgylcheddau peirianneg ar y môr yn ogystal ag ar y tir
  • Profiad o Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd mewn ynni adnewyddadwy yn y DU, ffermydd gwynt ar y môr, contractwr sifil mawr, cwmni cyfleustodau ynni mawr, neu ddiwydiant perthnasol arall.
  • Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg