Lecturer in Mechanical Engineering

Recruiter
Coleg Cambria
Location
Wrexham, Wales
Salary
£23626 - £39401 per annum
Posted
30 Sep 2019
Closes
28 Oct 2019
Ref
CC/1130
Contact
Coleg Cambria
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Lecturer in Mechanical Engineering

Bersham

Salary £23,626 - £39,401 per annum, based on a salary assessment and relevant experience

We are looking for a self-confident, creative and imaginative individual to join us as Lecturer in Mechanical Engineering at our Bersham campus.

Displaying energy and enthusiasm in the learning environment, you will perform scheduled teaching, prepare learning materials, mark students' work, liaise with awarding bodies and exam invigilation as required. Providing educational guidance, support and counselling for all students, you will liaise with tutors from other business areas with regard to resources, curriculum development, student reports and other related matters, and complete and produce documentation such as registers, schemes of work, records of work, course review, course analysis documentation and student reports.

We're looking for an individual who is qualified to at least Level 4 in an Engineering related specialist subject area and who possesses, or is willing to work towards a teaching qualification such as Cert Ed, PGCE or City & Guilds 7407. Able to prepare effective written and visual teaching materials, you will be able to identify, interpret and apply specific knowledge to practice and be a dedicated team player who can establish effective working relationships.

With an awareness of the importance of quality standards within teaching, you will have knowledge of a broad range of learning needs and how to support these needs within a learning environment and demonstrate and understanding of current developments within your own specialist area. You should be open and responsive to the needs of others and be able to adapt quickly to changing circumstances and new ideas.

The ability to speak fluent Welsh is desirable.

A DBS Disclosure will be requested from the successful applicant being offered the position and you will also be required to register with the Education Workforce Council.

Closing Date: 22/10/2019

Please be aware that Coleg Cambria reserve the right to close any vacancy earlier then the listed date if we have received a high level of applications. We would recommend that if you do wish to be considered that you complete the application as promptly as possible.

Darlithydd Peirianneg Fecanyddol

Ffordd y Bers

Cyflog £23,626 - £39,401 y flwyddyn yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol

Rydym yn chwilio am unigolyn hunanhyderus, creadigol a llawn dychymyg i ymuno â ni fel Darlithydd Peirianneg Fecanyddol ar ein safle Ffordd y Bers.

Gan ddangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu, byddwch yn addysgu yn ôl yr amserlen, paratoi deunyddiau dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, cysylltu â chyrff dyfarnu cymwysterau, a goruchwylio arholiadau yn ôl y galw. Byddwch yn rhoi arweiniad addysgol, cymorth a chyngor i bob myfyriwr. Byddwch hefyd yn cysylltu â thiwtoriaid meysydd busnes eraill i drafod materion fel adnoddau, datblygu'r cwricwlwm, adroddiadau myfyrwyr a materion cysylltiedig eraill. Bydd gofyn i chi gynhyrchu a chwblhau dogfennau fel cofrestri, cynlluniau gwaith, cofnodion gwaith, adolygiadau cyrsiau, dogfennau dadansoddi cyrsiau ac adroddiadau myfyrwyr.

Rydym yn chwilio am unigolyn gyda chymhwyster Lefel 4 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol sy'n gysylltiedig â Pheirianneg, yn ogystal â chymhwyster addysgu fel Tystysgrif Addysg, TAR neu City & Guilds 7407, neu'n fodlon gweithio tuag at ennill cymhwyster addysgu. Byddwch yn gallu paratoi deunyddiau addysgu ysgrifenedig a gweledol effeithiol, ac yn gallu canfod, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol i'w chyflwyno. Byddwch yn aelod ymroddedig o dîm gyda'r gallu i feithrin perthnasau gwaith effeithiol.

Byddwch yn gwybod am bwysigrwydd safonau ansawdd mewn addysgu. Byddwch hefyd yn gwybod am yr ystod eang o anghenion dysgu a sut i gynorthwyo gyda'r anghenion hynny mewn amgylchedd dysgu. Byddwch yn gallu dangos eich bod yn deall datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun. Dylech fod yn agored ac yn ymatebol i anghenion pobl eraill ac yn gallu addasu'n gyflym i amgylchiadau newidiol a syniadau newydd.

Byddai'n ddymunol petaech yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl.

Byddwn yn gofyn am ddatgeliad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Bydd gofyn i chi gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg hefyd.

Dyddiad Cau: 22/10/2019

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd, os byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell i chi gwblhau'r cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried.