Health and Wellbeing Support Worker
- Recruiter
- ANTUR WAUNFAWR
- Location
- Waunfawr, Caernarfon and / or Penygroes
- Salary
- £16,009.00 (£8.21 yr awr) y flwyddyn (pro rata)
- Posted
- 08 Jul 2019
- Closes
- 01 Aug 2019
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Full Time
Mae Antur Waunfawr yn cynnig cyfleoedd hamdden i hyrwyddo Iechyd a Lles yn ogystal â chyfleoedd gwaith i oedolion ag anableddau dysgu ac eraill dan anfantais yn y gymuned. Er mwyn sicrhau gwasanaeth o’r ansawdd uchaf rydym yn chwilio am unigolion blaengar i ymuno â’r Cwmni.
ER MWYN CEFNOGI GWASANAETH SY’N EHANGU RYDYM YN CHWILIO AM
WEITHIWR/WRAIG CEFNOGOL IECHYD A LLESIANT
(GWASANAETH DYDD/PRESWYL)
Swydd i weithio 120 awr y mis (Llun – Sul)
Cytundeb: Blwyddyn yn y lle cyntaf gyda phosibilrwydd o estyniad
Cyflog: £16,009.00 (£8.21 yr awr) y flwyddyn (pro rata)
Lwfans Cysgu i Mewn: £69.78 y noson Lleoliad: Waunfawr, Caernarfon a/neu Penygroes
Byddwch yn aelod allweddol o dîm sy’n sicrhau bod y gwasanaethau yn ymateb i ofynion amrywiol yr unigolion a’r teuluoedd/gofalwyr. Mae’n hanfodol i’r holl ymgeiswyr fod yn awyddus i weithio efo pobl ag anabledd dysgu mewn rôl sy’n galluogi’r unigolyn i fyw bywyd i’w llawn botensial. Bydd deilydd y swyddi yn cefnogi’r unigolion sy’n derbyn y gwasanaeth i ddatblygu eu sgiliau byw, gwaith, hamdden a chymdeithasol.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Stephen Goodwin, Uwch-Reolwr Gwasanaeth Dydd a Phreswyl
drwy ffonio 01286 650721 neu drwy e-bost stephen@anturwaunfawr.cymru. Am becyn swydd cysyllter â’r Adran Adnoddau Dynol ar 01286 650721 neu drwy e-bost swyddi@anturwaunfawr.cymru. Gallwch hefyd lawrlwytho pecyn swydd ar www.anturwaunfawr.cymru
Bydd yn ofynnol i’r unigolion llwyddiannus gael trwydded yrru lawn ac yn berchen car.
Mae’r penodiadau uchod yn amodol i archwiliad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Dyddiad Cau ar gyfer y swydd: Dydd Iau 1 Awst 2019
(This advertisement is for Health and Wellbeing Support Worker (Day/Residential) and Relief Support Workers
posts for which fluency in Welsh and English is essential.)