Swyddog Gwybodaeth

Location
Cardiff, Cardiff (Caerdydd)
Salary
Gradd C - Cyflog £23,732 - £26,851
Posted
07 Jun 2019
Closes
28 Jun 2019
Sectors
Public Sector
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Swyddog Gwybodaeth

Gradd C - Cyflog £23,732 - £26,851

I ymuno â’n tîm yng nghanol dinas Caerdydd bydd gofyn i chi gael profiad o weithio â data ac ystadegau a’r gallu i gyflawni’r holl dasgau sy’n gysylltiedig â chasglu a mewnbynnu data. Mae’r swydd hon yn fwy na chofnodi data yn unig ac yn gofyn am y ddealltwriaeth sydd ei hangen i ddehongli’r data hwnnw ac i lunio adroddiadau ac ystadegau am amrywiaeth eang o’n gweithgareddau.

Mae hon yn swydd ddiddorol ac amrywiol, a fydd yn eich rhoi mewn cysylltiad â phobl o’r sefydliad ac aelodau’r cyhoedd. Byddwch yn rhan o’r tîm sy’n gyfrifol am drefnu cyfarfodydd chwe misol y Corff Llywodraethol, cynhadledd breswyl sy’n cynnwys dros 140 o aelodau, ac yn mynychu’r rhain.

Byddwch yn drefnus ac yn gallu cynllunio ymlaen llaw. Mae hyblygrwydd yn hanfodol ynghyd â sgiliau trin pobl rhagorol a chydymdeimlad ag ethos yr Eglwys yng Nghymru.

Byddai’r gallu i siarad Cymru yn fanteisiol.

Os ydych yn chwilio am her amrywiol a hyblyg yn eich gwaith, mae ffurflen gais a manylion pellach ar gael ar wefan yr Eglwys yng Nghymru:

https://cym.eglwysyngnghymru.org.uk/work-with-us-welsh/

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch:

Yr Adran Adnoddau Dynol

Ffôn: 029 2034 8200

Gellir cyflwyno ceisiadau ar e-bost i hr@churchinwales.org.uk

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Gwener 28 Mehefin 2019 am hanner dydd.

Cynhelir cyfweliadau ddydd Mercher 17 Gorffennaf 2019.

More searches like this