Board Members

Location
Cardiff, Cardiff (Caerdydd)
Salary
£282 per day
Posted
23 Apr 2019
Closes
22 May 2019
Sectors
Public Sector
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

SPORT Wales 

Appointment of up to four Board Members

  • Sport and physical activity are part of the fabric of Wales - from grassroots participants in our diverse communities, to our sporting superstars standing proudly on medal podiums.
  • The impact it can have is at the very heart of why we hold sport with such affection. From the obvious health benefits, to the sense of achievement.  From teamwork and togetherness, to building resilience and having fun.
  • We need people to make a real difference to sport in Wales and help us create an active, healthy and successful nation for everyone.

Sport Wales is therefore seeking to appoint four new Board Members, with effect from 1 September 2019, one of which will be Welsh essential. A minimum time commitment of 2 days per month at £282 per day is expected (reasonable expenses for care, travel and subsistence are available).

  • Do you have a drive and a passion to help harness the power of sport and physical activity to help increase levels of participation across Wales’ diverse communities?
  • Are you committed to ensure that future generations live healthy lives? 
  • Are you ambitious in your thinking, determined to make an impact and committed to taking action to ensure everyone in Wales can enjoy the benefits of sport?
  • If this sounds like you, then you could become part of an organisation that is delivering these things for the people of Wales.

As a Board Member you will contribute to the overall role of Sport Wales and help define, develop and scrutinise Sport Wales’ plans and achievements. You will have a good understanding of the role and impact sport can have from a cultural, health or economic perspective. Importantly, you will have a drive to make a difference and use your skills and experience to place sport and physical activity at the forefront of a future Wales.

All Board Members have individual and collective responsibility to the Welsh Government through the Deputy Minister for Culture, Sport and Tourism.

Sport Wales has a gender parity commitment and is signed up to Welsh Government’s 50:50 by 2020 pledge to have an equal representation of male and females represented on its Board.  

The Welsh Government and Sport Wales believe that public bodies should have board members who reflect Welsh society - people from all walks of life - to help them understand people's needs and make better decisions.  This is why the Welsh Government is encouraging a wide and diverse range of individuals to apply for appointments to public bodies.  Applications are particularly welcome from all under-represented groups including women, people under 30 years of age, black, Asian and minority ethnic people, disabled people, lesbian, gay, bisexual and transgender people.

The closing date for receipt of applications is 22 May 2019. 

Application forms received after this date will not be considered. Interviews are expected to be held between10-12 July 2019.

CHWARAEON CYMRU

Penodi hyd at bedwar Aelod o'r Bwrdd

  • Mae byd y campau a gweithgarwch corfforol yn rhan annatod o wead Cymru - o'r bobl hynny yn ein cymunedau amrywiol sy'n cymryd rhan ar lawr gwlad, i'n sêr disglair sy'n cyrraedd yr entrychion ar lwyfan rhyngwladol.
  • Mae'r effaith y gall ei chael arnom wrth wraidd yr angerdd a deimlwn am chwaraeon. O'r buddiannau iechyd amlwg, i'r ymdeimlad o gyflawni.  O waith tîm a dod ynghyd, i feithrin gwydnwch a chael hwyl.
  • Mae angen pobl arnom i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i chwaraeon yng Nghymru a'n helpu i greu cenedl weithgar, iach a llwyddiannus i bawb.

Felly, mae Chwaraeon Cymru yn awyddus i benodi pedwar Aelod newydd o'r Bwrdd, yn weithredol o 1 Medi 2019, a bydd angen i un o'r unigolion hyn fod yn siaradwr Cymraeg. Disgwylir ymrwymiad o ddeuddydd y mis o leiaf am £282 y diwrnod (telir treuliau rhesymol am ofal, teithio a chynhaliaeth).

  • Oes gennych chi'r angerdd a'r brwdfrydedd i ddefnyddio grym chwaraeon a gweithgarwch corfforol i helpu i gynyddu lefelau cyfranogi ledled cymunedau amrywiol Cymru?
  • Ydych chi'n ymrwymedig i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn byw bywydau iach? 
  • Oes gennych chi syniadau uchelgeisiol, ac a ydych chi'n benderfynol o gael effaith ac yn ymrwymedig i weithredu er mwyn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael y cyfle i fwynhau'r hyn sydd gan fyd y campau i'w gynnig?
  • Os felly, gallech ddod yn rhan o sefydliad sy'n cyflawni'r pethau hyn i bobl Cymru.

Fel Aelod o'r Bwrdd byddwch yn cyfrannu at rôl gyffredinol Chwaraeon Cymru ac yn helpu i ddiffinio, datblygu a chraffu ar gynlluniau a chyflawniadau Chwaraeon Cymru. Bydd gennych ddealltwriaeth dda o rôl ac effaith bosibl chwaraeon o safbwynt diwylliannol, iechyd neu economaidd. Yn bwysig, byddwch am wneud gwahaniaeth a defnyddio eich sgiliau a'ch profiad i sicrhau bod chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar frig yr agenda wrth feddwl am Gymru yfory.

Bydd holl Aelodau'r Bwrdd, yn unigol a gyda'i gilydd, yn atebol i Lywodraeth Cymru drwy'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

Mae Chwaraeon Cymru yn ymrwymedig i gydraddoldeb rhywiol ac mae wedi ymrwymo i addewid 50:50 erbyn 2020 Llywodraeth Cymru i sicrhau bod nifer gyfartal o ddynion a merched ar ei Fwrdd.  

Mae Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru yn credu y dylai fod gan gyrff cyhoeddus aelodau ar eu bwrdd sy'n adlewyrchu cymdeithas yng Nghymru - pobl o bob cefndir - i'w helpu i ddeall anghenion pobl a gwneud penderfyniadau gwell.  Dyma pam mae Llywodraeth Cymru yn annog ystod eang ac amrywiol o unigolion i wneud cais i gael eu penodi i gyrff cyhoeddus.  Rydym yn croesawu yn arbennig felly geisiadau gan bob grŵp nad yw wedi'i gynrychioli'n ddigonol gan gynnwys merched, pobl o dan 30 oed, pobl dduon ac Asiaidd ac aelodau o leiafrifoedd ethnig, pobl anabl a phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 22 Mai 2019. 

Ni chaiff ffurflenni cais a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn eu hystyried. Disgwylir cynnal cyfweliadau rhwng 10 a 12 Gorffennaf 2019.

More searches like this