Cyfarwyddwr Cynllunio a Chyfeiriad y Parc

Recruiter
Pembrokeshire Coast National Park Authority
Location
Pembroke Dock, Pembrokeshire (Sir Benfro)
Salary
£62,440 Plus Benefits
Posted
17 Apr 2019
Closes
09 May 2019
Ref
DirPPD1
Sectors
Public Sector
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Cyfarwyddwr Cynllunio a Chyfeiriad y Parc 
Llawn Amser – 37 awr yr wythnos 

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw’r unig Barc Cenedlaethol yn y DU sydd wedi dynodi’n bennaf oherwydd ei arfordir ac mae’n brolio rhai o’r golygfeydd mwyaf ysblennydd a’r bywyd gwyllt mwyaf amrywiol ym Mhrydain gan gynnwys gwarchodfeydd natur o bwysigrwydd rhyngwladol, daeareg ac archaeoleg. 

Cyflwyniad; 

Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n ffynnu mewn rôl sydd â ffocws cryf ar bobl a lleoedd, ac sy’n medru gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid ar draws Sir Benfro, Cymru a thu hwnt i sicrhau cadwraeth o nodweddion arbennig y Parc Cenedlaethol tra’n cefnogi cymunedau cynaliadwy lleol. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu llunio, ac yn cyfrannu at, bolisïau a rhaglenni corfforaethol yr Awdurdod, ac o fewn cyd-destun Cymreig ehangach. Yn hollbwysig, byddwch yn rhoi’r arweiniad i gyflawni swyddogaeth gynllunio statudol yr Awdurdod yn ogystal â’i swyddogaethau eraill megis cadwraeth, iechyd a lles, a rheoli hawliau tramwy cyhoeddus, gan gynnwys Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro. 

Bydd disgwyl i chi deithio, a bod yn eiriolwr i’n gweledigaeth, a gwella ein delwedd a chanfyddiad drwy eich gwaith, a’ch presenoldeb. 

Pwrpas y Swydd; 

Fel rhan o’r Tîm o Uwch Reolwyr, cyfarwyddo gweithgareddau strategol a gweithredol yr Awdurdod a sicrhau eu bod yn cyflawni gweledigaeth a blaenoriaethau’r Awdurdod yn unol â’n gwerthoedd, dibenion statudol a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, ac adnoddau’r Awdurdod. 

Prif Gyfrifoldebau; 

- yn darparu arweinyddiaeth effeithiol, yn cyfleu gweledigaeth rymus i’r Awdurdod; 
- yn sefydlu blaenoriaethau a rhaglenni strategol corfforaethol ac i’r gwasanaeth; 
- yn sicrhau diwylliant cadarn o berfformiad uchel, gyda systemau priodol i gyflawni a monitro perfformiad gan gynnwys rheoli risg; 
- yn sicrhau bod yr Awdurdod yn datblygu ac yn cynnal diwylliant sy’n rhoi’r cwsmer/dinesydd yn ganolog; 
- yn arwain ac yn cyfarwyddo’r swyddogaeth gynllunio statudol; 
- yn datblygu ac yn cynnal safle’r Awdurdod o ran rheoli, llywodraethu a bod yn broffesiynol; 
- yn datblygu ac yn hyrwyddo gwerthoedd ac egwyddorion yr Awdurdod fel cyflogwr; 
- yn cynrychioli’r Awdurdod yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, a chyfrannu at waith Parciau Cenedlaethol Cymru/ Parciau Cenedlaethol y DU/ EUROPARC yn ôl y gofyn, gan fod yn ddylanwadwr allweddol ar ran y Parciau Cenedlaethol a’r Awdurdod; ac 
- yn sicrhau bod penderfyniadau perthnasol yr Awdurdod yn cael eu rhoi ar waith, yn cynghori ac yn ymgynghori ag Aelodau’r Awdurdod ar faterion polisi, yn cynnal cysylltiadau gwaith effeithiol, ac yn dirprwyo ar ran y Prif Weithredwr yn ôl y gofyn. 

Fe fydd yr ymgeisydd delfrydol; 

- wedi’i addysgu/haddysgu hyd at lefel gradd neu’r cyfatebol, gydag aelodaeth lawn o RTPI neu broffesiwn berthnasol, gyda thystiolaeth o ddysgu a datblygu dulliau rheoli; 
- gyda phrofiad o reoli staff mewn sefydliadau cymhleth, newidiol, mewn amgylchedd sy’n rhoi’r cwsmer yn ganolog, gyda phrofiad o weithio ar lefel uwch reolwr gydag Aelodau etholedig a phenodedig a’r gymuned; 
- Yn brofiadol mewn cynllunio a llywodraethu corfforaethol gyda dealltwriaeth o’r cyd-destun gwleidyddol Cymreig, yn arbennig effaith y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a’r heriau a wynebir gan newid yn yr hinsawdd a chreu economi carbon isel; 
- Yn deall sut mae’r system o gynllunio defnydd tir yn gweithio yng Nghymru a’r materion a wynebir yn y dyfodol; ac 
- Yn deall a gwerthfawrogi diwylliant, cymeriad, ieithoedd ac amgylchedd Sir Benfro a Chymru. 

Cyflog a Buddion; 

Cyflog sylfaenol i fyny at £62,440, 30 diwrnod o wyliau yn ogystal â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn llywodraeth leol, darpariaethau gweithio oriau hyblyg, cyfleon datblygu gyrfa. 

Lleolir y swydd ym Mhencadlys yr Awdurdod yn Noc Penfro, sy’n hygyrch gyda digon o lefydd parcio am ddim. 

Bydd yr Awdurdod yn cyfrannu at gostau adleoli i’r ymgeisydd cywir. 

Dyddiad cau; 09/05/19

More searches like this