Pennaeth Stiwardiaeth Tir

Location
Cardiff, Cardiff (Caerdydd)
Salary
£60,508 a £65,068
Posted
01 Mar 2019
Closes
01 Apr 2019
Sectors
Public Sector
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Cyfoeth Naturiol Cymru

Pennaeth Stiwardiaeth Tir

Bydd y cyflog rhwng £60,508 a £65,068

Gall y rôl hon gael ei lleoli'n hyblyg o fewn Cymru, ac mae teithio rheolaidd ledled Cymru yn hanfodol

Mae amgylchedd naturiol Cymru yn rhagorol ac yn ysbrydoledig. Mae'n sylfaen i'n hiechyd, ein llesiant a'n ffyniant. Mae'n darparu'r aer rydym yn ei anadlu, y dŵr rydym yn ei yfed, a'r bwyd rydym yn ei fwyta. Mae'n rhoi egni a deunyddiau craidd. Mae'n hanfodol i'n ffordd o fyw – yn cynnig swyddi, cyfleoedd hamdden ac ymlacio, a lleoliadau deniadol i fyw, gweithio a'u mwynhau. Mae'n rhan o'n diwylliant, ein hanes a'n dyfodol. Mae cyfleoedd anferthol i wella bywydau pawb – ond mae hyn ond yn bosibl os yw'r amgylchedd naturiol yn cael ei reoli'n gynaliadwy a'i gydnabod am y buddion y mae'n eu darparu.

Ni yw'r Corff mwyaf a Noddir gan Lywodraeth Cymru, gyda 1,750 o aelodau staff dawnus ac ymroddedig yn gweithio ledled Cymru. Rydym yn cynghori Llywodraeth Cymru, diwydiant, y cyhoedd ehangach a sectorau gwirfoddol ar faterion sy'n ymwneud â'r amgylchedd a'i adnoddau naturiol. Mae ein gwaith yn amrywiol ac mae'n bwysig – rydym yn ymateb i 9,000 o ddigwyddiadau amgylcheddol bob blwyddyn, yn rheoli saith y cant o arwynebedd tir Cymru, ac yn diogelu pobl a'r amgylchedd drwy ein gwaith rheoleiddiol sy'n cwmpasu'r diwydiannau morol, coedwigaeth a gwastraff.

Y mae hwn yn gyfnod cyffrous i Cyfoeth Naturiol Cymru, ac rydym wrthi’n ceisio am arweinydd ysbrydoledig sy'n canolbwyntio ar atebion ac sydd â hanes o ddatblygu cyfeiriad strategol i ymuno â ni fel ein Pennaeth Stiwardiaeth Tir newydd. Bydd y swydd arweinyddiaeth uwch hon yn arwain ar strategaeth a chynllunio amgylcheddol, gan bennu’r cyfeiriad a chael trosolwg ar draws y tir a berchnogir ac a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn galluogi’r buddiannau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol i lifo ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Fel arbenigwr mewn rheoli tir â ffocws penodol ar goedwigaeth, byddwch yn rhywun sy’n meddwl yn greadigol ac yn gallu gweithio gyda rhanddeiliaid lluosog ar y lefelau uchaf a dylanwadu arnynt.  Bydd cael cydsyniad pobl ar y daith hon yn hanfodol a byddwch yn amlygu'ch hun drwy eich sgiliau arwain wrth i chi ddylanwadu ar draws y sefydliad ac o fewn y sector coedwigaeth ehangach.  Byddwch yn agored i ddulliau newydd – ac yn annog eraill i’w derbyn hefyd – er mwyn ymgorffori rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol. Fodd bynnag, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud hyn gyda chefnogaeth ein partneriaid a'n rhanddeiliaid, felly bydd gwerthfawrogiad o'r amgylchedd yr ydym yn gweithredu ynddo yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgymryd â'i waith hanfodol mewn tirwedd rhanddeiliaid gymhleth a llawn, a bydd creu perthnasau gweithio cadarnhaol gyda Llywodraethau Cymru a Llywodraeth y DU, cyrff achredu, ac eraill sy'n gyfrifol am stiwardiaeth tir a’i reoli yn hanfodol.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ac ymgeisio, ewch i www.gatenbysanderson.com/job/GSe51912/, neu os hoffech gael sgwrs gyfrinachol ynglŷn â'r rôl, cysylltwch â Jemima Dalgliesh ar 07393 013 066 neu Olivia Robinson ar 0113 205 6298.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 1 Ebrill 2019 am 5pm.

Mae croeso i ymgeiswyr wneud cais am y swydd yn Gymraeg

More searches like this