Hyfforddwr Diogelu Arweiniol Llawn Amser

Location
Cardiff, Cardiff (Caerdydd)
Salary
Gradd D £28,104 - £31,797 (De Cymru)
Posted
16 Jan 2019
Closes
28 Jan 2019
Sectors
Public Sector
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Mae Athrofa Padarn Sant yn rhan annatod o’r Eglwys yng Nghymru a chanddi weledigaeth o ffurfiant a hyfforddiant eithriadol wedi’u seilio ar genhadu i holl bobl Duw.

Rydym yn awyddus i benodi

Hyfforddwr Diogelu Arweiniol Llawn Amser

Gradd D £28,104 - £31,797 (De Cymru)

Bydd yr Hyfforddwr Diogelu Arweiniol yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddiogelu yn yr Eglwys yng Nghymru trwy ddarparu hyfforddiant diogelu rhagorol ac arwain y broses o ddatblygu hyfforddiant priodol.  

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda chydweithwyr fel rhan o dîm Padarn Sant i helpu i ddarparu profiad dysgu rhagorol sy’n sicrhau bod pobl yn deall polisi diogelu’r Eglwys yng Nghymru a sut i’w roi ar waith.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y canlynol:

  • Dealltwriaeth o faterion diogelu mewn sefydliad gwirfoddolwyr/ cymunedol.
  • Profiad a gallu ym maes trefnu a hwyluso addysg oedolion.
  • Profiad ym maes datblygu deunyddiau hyfforddi.
  • Y gallu i weithio yn annibynnol ac yn hyblyg, gan gynnwys teithio ledled Cymru a gweithio gyda’r nos / ar y penwythnos.
  • Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â’i drafnidiaeth ei hun.

Mae Tiwtor Padarn Sant ar gyfer Llandaf a Hyfforddiant Diogelu yn hapus iawn i gael sgwrs anffurfiol dros y ffôn gyda darpar ymgeiswyr. I drefnu hyn, cysylltwch â: 

Veronica Cottam yn Veronica.cottam@stpadarns.ac.uk; 029 2083 8005.

Cynhelir cyfweliadau dros ddau ddiwrnod ar 6 a 7 Chwefror 2019 yng Nghaerdydd.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan yr Eglwys yng Nghymru https://cym.eglwysyngnghymru.org.uk/work-with-us-welsh/

I ymgeisio am y swydd, e-bostiwch hr@churchinwales.org.uk erbyn dydd Llun 28 Ionawr 2019 am hanner dydd.

 

More searches like this