Dirprwy Bennaeth - Ysgol Gymraeg Bro Ogwr

Recruiter
BRIDGEND COUNTY BOROUGH COUNCIL
Location
The Vale of Glamorgan (Bro Morgannwg)
Salary
11.00 - 15.00 GBP Annual
Posted
05 Jan 2019
Closes
28 Jan 2019
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Ar gyfer mis Medi 2019

Mae Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn ysgol Gymraeg hapus a chyfeillgar ym Mhen-y-bont ar Ogwr, de Cymru ger Cyffordd 36 yr M4. Mae gennym tua 440 o ddisgyblion ar y gofrestr ystod oedran 3-11 oed.

Yn sgil dyrchafu'r Dirprwy Bennaeth presennol, mae Llywodraethwyr yr ysgol lwyddiannus hon yn awyddus i benodi athro/athrawes ddynamig, brwdfrydig ac arloesol a chanddo/chanddi sgiliau rheoli a rhyngbersonol gwych i gynorthwyo'r Pennaeth wrth arwain tim o staff addysgu a chymorth ymroddedig i gam nesaf datblygiad yr ysgol. Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo wrth arwain yr ysgol ochr yn ochr ag ymrwymiad addysgu 3 diwrnod.

Dylech fod yn:

* ymarferydd rhagorol sy'n ymrwymedig i godi cyrhaeddiad a gwella'r ysgol;

* yn frwd dros addysg ac yn meddu ar yr ymrwymiad a'r ysgogiad i arwain datblygiadau cwricwlwm sy'n galluogi i'r holl blant lwyddo yn eu dysgu;

* unigolyn sy'n meddu ar y sgiliau rhyngbersonol a threfnu angenrheidiol i symbylu ac ysgogi mentrau drwy ddefnyddio sgiliau'r tim mawr o staff;

* unigolyn sydd a'r bersonoliaeth, yr ysgogiad a'r brwdfrydedd i gynorthwyo'r Pennaeth a'r Llywodraethwyr wrth arwain a rheoli'r ysgol.

Ym Mro Ogwr, rydym yn ymrwymedig i ddatblygu proffesiynol o ansawdd uchel, ac yn cynnig dysgwyr brwdfrydig a fydd yn herio eich ffordd o feddwl. Rydym yn gymuned hapus, groesawgar a gweithgar o staff, rhieni, llywodraethwyr a disgyblion sy'n frwdfrydig am brofiad addysgol o ansawdd.

Hysbyseb yn dechrau / Ymweliad a Bro Ogwr / Dyddiad cau / Llunio'r rhestr fer / Dyddiad y Cyfweliad . Nodwch y dylai'r datganiadau cefnogi fod yn ddwyieithog.

Mae'r swydd hon yn ei gwneud yn ofynnol cael gwiriad cofnodi troseddol drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Dyddiad Cau: Dydd Mercher 30 Ionawr 2019

Clicwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person

I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch 'Ymgeisio Ar-lein'