Natural Resources Wales*

Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

Location
Gellir lleoli'r rôl yn hyblyg, gyda theithio rheolaidd ledled Cymru yn hanfodol
Salary
£70,913 - £78,000
Posted
01 Nov 2018
Closes
26 Nov 2018
Sectors
Management
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu Corfforaethol Cyflog

£70,913 - £78,000

Gellir lleoli'r rôl yn hyblyg, gyda theithio rheolaidd ledled Cymru yn hanfodol

Mae amgylchedd naturiol Cymru yn rhagorol ac yn ysbrydoledig. Mae'n sylfaen i'n hiechyd, ein llesiant a'n ffyniant. Mae'n darparu'r aer rydym yn ei anadlu, y dŵr rydym yn ei yfed, a'r bwyd rydym yn ei fwyta. Mae'n rhoi egni a deunyddiau craidd. Mae'n hanfodol i'n ffordd o fyw – yn cynnig swyddi, cyfleoedd hamdden ac ymlacio, a lleoliadau deniadol i fyw, gweithio a'u mwynhau. Mae'n rhan o'n diwylliant, ein hanes a'n dyfodol. Mae cyfleoedd anferthol i wella bywydau pawb – ond mae hyn ond yn bosibl os yw'r amgylchedd naturiol yn cael ei reoli'n gynaliadwy a'i gydnabod am y buddion y mae'n eu darparu.

Ni yw'r Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru mwyaf, gyda 1,900 o aelodau staff dawnus ac ymroddedig yn gweithio ledled Cymru. Rydym yn cynghori Llywodraeth Cymru, diwydiant, y cyhoedd ehangach a sectorau gwirfoddol ar faterion sy'n ymwneud â'r amgylchedd a'i adnoddau naturiol. Mae ein gwaith yn amrywiol ac mae'n bwysig – rydym yn ymateb i 9,000 o ddigwyddiadau amgylcheddol bob blwyddyn, yn rheoli 7 y cant o arwynebedd tir Cymru, ac yn diogelu pobl a'r amgylchedd drwy ein gwaith rheoleiddiol sy'n cwmpasu'r diwydiannau morol, coedwigaeth a gwastraff.

Rydym wedi adeiladu sylfaen gref ers cael ein sefydlu; ein nod yn awr yw arwain y sefydliad o fod yn dda i ragorol, a bydd ein Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu Corfforaethol newydd yn chwarae rhan allweddol wrth wireddu'r uchelgais honno. Byddwch yn adrodd yn uniongyrchol i'r Prif Weithredwr, a bydd eich pedair blaenoriaeth allweddol yn cynnwys: cynllunio a datblygu sefydliadol, datblygu strategol lefel uchel dros y tymor hir, llywodraethu corfforaethol a rheoli risg effeithiol, a rheoli rhanddeiliaid. Byddwch yn cael effaith ar ystod lawn ein cylch gwaith amrywiol ac yn llunio a dylanwadu ar ein sefydliad a'i waith yng Nghymru, ar hyn o bryd ac am flynyddoedd lawer i ddod.

Mae'r swydd newydd hon yn mynnu arweinydd sy'n gallu troi polisi’n strategaeth hirdymor a darpariaeth weithredol. Bydd meistroli sgiliau ein tîm medrus ac angerddol i adeiladu ar y sylfeini cryf sydd eisoes ar waith yn allweddol i lwyddiant. Byddwch yn dod â sgiliau strategol a phrofiad rhagorol, ynghyd â'r gallu i ymgyfarwyddo'n gyflym â'r agweddau sy’n rhan o’r her hon, boed yn rhai sy’n ymwneud â phobl neu rai sy’n ymwneud â chynllun y sefydliad. Bydd cyd-destun y sector cyhoeddus yn gyfarwydd i chi, ond bydd eich gweledigaeth, arloesedd a meddylfryd creadigol yn eich gwneud yn wahanol i’r gweddill.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gatenbysanderson.com/job/GSe45113, neu os hoffech gael sgwrs gyfrinachol ynglŷn â'r rôl, cysylltwch â Michael Dobson ar 020 7426 3968, neu Jemima Dalgliesh ar 07393 013 066.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 26 Tachwedd 2018 am 5pm.

More searches like this