Aelodau'r Cyngor
- Recruiter
- General Medical Council
- Location
- London
- Salary
- £18,000 per year
- Posted
- 06 Jul 2018
- Closes
- 01 Aug 2018
- Sectors
- Public Sector
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Part Time
Swyddi gwag ar Gyngor y GMC ar gyfer dau aelod o’r Cyngor
Rydym am benodi un aelod lleyg ac un aelod meddygol ar gyfer ein Cyngor* llywodraethol.
Byddwch yn ymuno â ni ar adeg dyngedfennol yn ein perthynas ni â meddygon ac â phedair llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Mae ein strategaeth gorfforaethol newydd – uchelgais dros newid – yn newid pwyslais ein gwaith o weithredu pan fydd rhywbeth wedi mynd o’i le, i gefnogi ein holl feddygon i ddarparu’r safonau gorau posibl o ofal. Dyma’r ffordd orau o gadw cleifion a meddygon yn ddiogel.
Rydym yn gyfrifol am bennu’r safonau ar gyfer myfyrwyr meddygol a meddygon, am eu cefnogi nhw i wireddu a rhagori ar y safonau hynny, ac am weithredu pan fydd methiant i fodloni’r safonau hyn.
Rydym yn gweithio’n galed i hyrwyddo proffesiynoldeb a diwylliant o ddysgu. Ond nid ar gyfer meddygon yn unig yw dysgu a deall – mae’n berthnasol i ni hefyd, ac mae’n sail i bopeth a wnawn i fod yn rheoleiddiwr mwy gweithredol a chymesur. Mae’r ddeddfwriaeth wedi dyddio bellach ac rydym wedi’i gwthio i’r pen yn y pum mlynedd diwethaf wrth i ni ddangos ein parodrwydd i adnabod problemau ac ymwneud â’r proffesiwn er mwyn i ni ddeall yn well ym mha gyd-destun y bydd meddygon yn gweithio a’r pwysau maen nhw’n eu hwynebu.
Mae gan ein Cyngor 12 aelod (6 lleyg a 6 meddygol). Mae’n gyfrifol am bennu ein strategaeth, am ddiffinio ein polisïau lefel uchel, ac am sicrhau ein bod yn gwireddu ein dibenion statudol ac elusennol. Mae’r ddwy swydd ar agor i ymgeiswyr o unrhyw un o bedair gwlad y Deyrnas Gyfunol.
Rhaid i’r ymgeiswyr ar gyfer y swyddi hyn allu cyfrannu at bennu strategaeth, at gymryd gorolwg ac at sicrhau llywodraethiant corfforaethol effeithiol. Rydym yn chwilio am wybodaeth a sgiliau dymunol ychwanegol eraill mewn meysydd penodol, gan gynnwys profiad o gadeirio ar lefel uchel, o arwain sefydliadau ac o brofiad llywodraethu; crebwyll masnachol; rheolaeth ariannol/busnes; creu incwm o fuddsoddi; systemau gwybodaeth a thechnoleg cyfathrebu; y sector cyfreithiol; cyfryngau newydd a chyfathrebu.
Mae’r ymrwymiad amser ar gyfer y rôl yn golygu hyd at dri diwrnod y mis gyda thâl o £18,000 y flwyddyn. Disgwylir i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddechrau ar eu gwaith o 1 Ionawr 2019.
Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud cais, ewch i www.gmccouncilmembers.com a chysylltwch ag un o’n hymgynghorwyr am gyngor a thrafodaeth gyfrinachol anffurfiol, sef Katrina Paget neu Duncan Ewart yn GatenbySanderson ar 0207 426 3994.
Dyddiad cau: 12.00 hanner dydd, Ddydd Mercher 1 Awst 2018
*Bydd y broses sy’n mynd rhagddi i benodi Cadeirydd newydd i ddechrau ar 1 Ionawr 2019 yn pennu a fydd angen dau aelod meddygol neu un aelod meddygol ac un aelod lleyg ar gyfer y swyddi gwag ar y Cyngor. Os bydd y darpar Gadeirydd newydd yn benodiad lleyg, byddwn yn penodi dau aelod meddygol i’r Cyngor.
Mae’r GMC yn rhoi pwys mawr ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac mae’n ymrwymedig i brosesau a gweithdrefnau teg, gwrthrychol ac agored sy’n rhydd o ragfarn a gwahaniaethu anghyfreithlon. Mae’r GMC yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (1089278) ac yn yr Alban (SC037750).