Rheolwr Cymraeg Gwaith
- Recruiter
- Blue Octopus
- Location
- Glannau Dyfrdwy a Wrecsam
- Salary
- Cyflog £39,119 - £41,676 y flwyddyn yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol
- Posted
- 13 Jun 2018
- Closes
- 04 Jul 2018
- Ref
- BLUR65829
- Sectors
- Education & Teaching
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Full Time
Parhaol, Llawn Amser
Ein cleient yw un o golegau mwyaf Prydain ac mae’n cyflogi dros 1450 o staff ar 5 safle sydd wedi'u lleoli'n gyfleus yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac sy'n hawdd cyrraedd atynt o Ogledd Cymru, Swydd Amwythig, Cilgwri, Glannau Merswy a Swydd Gaer.
Gan ymuno â ni fel Rheolwr Cymraeg Gwaith, byddwch yn arwain ac yn rheoli rhaglenni Cymraeg Gwaith yn effeithiol, er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth gwricwlwm yn ateb gofynion dysgwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill. Bydd yn ofynnol i chi sicrhau bod darpariaeth y cwricwlwm o'r ansawdd gorau posibl o ran canlyniadau dysgwyr a bodlonrwydd dysgwyr / cyflogwyr a'i bod yn
cyd-fynd â gweledigaeth, cenhadaeth, nodau a gwerthoedd y Coleg.
I lwyddo yn y swydd hon, mae’n hanfodol bod gennych radd berthnasol (neu gymhwyster cyfwerth) a phrofiad o weithio yn y sector addysg. Gyda hanes y gellir ei brofi o arwain tîm, byddwch yn gwybod am ffrydiau cyllido gwahanol ac yn eu deall. Bydd gennych hanes diweddar o ymgysylltu’n llwyddiannus â chyflogwyr a phrawf o hynny. Byddem hefyd yn hoffi petaech yn gallu gweithio i derfynau amser a than bwysau a bod gennych sgiliau rheoli prosiectau cadarn, yn ogystal â gallu ysgogi a chanfod cyfleoedd datblygu priodol ar gyfer aelodau tîm.
Byddai’n dra manteisiol petai gennych gymhwyster dysgu neu asesu.
Mae’n hanfodol eich bod yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl.
Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd.
Dyddiad Cau: 11/07/2018
Mae hon yn swydd wag Blue Octopus Recruitment Ltd. sy'n gweithredu fel asiantaeth gyflogi. Unwaith y byddwch wedi clicio i wneud cais am y swydd hon, byddwn yn anfon e-bost atoch chi gyda rhagor o wybodaeth am y swydd a chopi o'r ffurflen gais.