Lecturer in First Aid

Recruiter
Blue Octopus
Location
Northop, Mold
Salary
£22,827 to £38,629, pro-rata / £20.40 - £34.52 per hour (includes holiday pay)
Posted
24 May 2018
Closes
21 Jun 2018
Ref
BLUL64590
Contract Type
Contract

Our client is one of the UK’s largest colleges employing more than 1450 staff in over five campuses, all conveniently located in North East Wales, offering easy accessibility from within North Wales, Shropshire, Wirral, Merseyside and Cheshire.

They are looking for a self-confident, creative and imaginative individual to join them as Lecturer in First Aid at their Northop campus. The delivery for this course will be in Welsh, therefore the ability to speak fluent Welsh is essential. This is a casual, hourly paid role.

Displaying energy and enthusiasm in the learning environment, you will perform scheduled teaching, prepare learning materials, mark students’ work, liaise with awarding bodies and exam invigilation as required. Whilst acting as a personal tutor, providing educational guidance, support and counselling for all students, you will liaise with tutors from other business areas with regard to resources, curriculum development, student reports and other related matters, and complete and produce documentation such as registers, schemes of work, records of work, course review, course analysis documentation and student reports.

You will be qualified to at least Level 4 in a relevant specialist subject area and possess or be working towards a teaching qualification such as Cert Ed, PGCE or City & Guilds 7407. Able to prepare effective written and visual teaching materials, you will be able to identify, interpret and apply specific knowledge to practice and be a dedicated team player who can establish effective working relationships.

With an awareness of the importance of quality standards within teaching, you will have knowledge of a broad range of learning needs and how to support these needs within a learning environment and demonstrate and understanding of current developments within your own specialist area. You should be open and responsive to the needs of others and be able to quickly adapt to changing circumstances and new ideas.

A DBS Disclosure will be requested from the successful applicant being offered the position and you will also be required to register with the Education Workforce Council.

Closing Date: 21/06/2018

This is a Blue Octopus Recruitment Ltd vacancy who are operating as an employment agency. Once you have clicked to apply for this vacancy, we will then send you more information on the role including a copy of the application form via email.

Darlithydd Cymorth Cyntaf
Llaneurgain
Cyflog £22,827 to £38,629 y flwyddyn / £20.40 - £34.52 yr awr (sy’n cynnwys tâl gwyliau) yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol
Swydd achlysurol sy’n cael ei thalu fesul awr

Ein cleient yw un o golegau mwyaf Prydain, gan gyflogi dros 1450 o staff ar 5 safle sydd wedi'u lleoli'n gyfleus yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac sy'n hawdd cyrraedd atynt o Ogledd Cymru, Swydd Amwythig, Cilgwri, Glannau Merswy a Swydd Gaer.

Rydym yn chwilio am unigolyn hunanhyderus, creadigol a llawn dychymyg i ymuno â ni fel Darlithydd Cymorth Cyntaf ar ein safle Llaneurgain. Bydd y cwrs hwn yn cael ei ddarparu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac felly mae’n hanfodol eich bod yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl. Mae hon yn swydd achlysurol sy’n cael ei thalu fesul awr.

Gan ddangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchfyd dysgu, byddwch yn addysgu yn ôl yr amserlen, paratoi deunyddiau dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, cysylltu â chyrff dyfarnu a goruchwylio arholiadau yn ôl y galw. Wrth i chi weithredu fel tiwtor personol, gan roi arweiniad addysgol, cynorthwyo a chwnsela ar gyfer pob myfyriwr, byddwch yn cysylltu â thiwtoriaid meysydd eraill y coleg o ran adnoddau, datblygu’r cwricwlwm, adroddiadau myfyrwyr a materion cysylltiedig eraill, yn ogystal â chwblhau a chynhyrchu dogfennau fel cofrestri, cynlluniau gwaith, cofnodion gwaith, adolygiadau cyrsiau, dogfennau dadansoddi cyrsiau ac adroddiadau myfyrwyr.

Bydd gennych gymhwyster Lefel 4 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol yn ogystal â chymhwyster dysgu fel Tystysgrif Addysg, TAR neu City & Guilds 7407 neu’n gweithio tuag at hynny. Byddwch yn gallu paratoi deunyddiau addysgu ysgrifenedig a gweledol effeithiol a byddwch yn gallu canfod, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol i’w chyflwyno a’ch bod yn aelod cadarn o dîm sy’n gallu meithrin perthnaseddau gwaith effeithiol.

Byddwch yn gwybod am bwysigrwydd safonau ansawdd mewn addysgu. Bydd gennych wybodaeth am ystod eang o anghenion dysgu a sut i gynorthwyo i ddiwallu’r anghenion hynny mewn amgylchfyd dysgu a byddwch yn gallu dangos a deall datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol chi eich hun. Dylech fod yn agored ac yn ymatebol i anghenion pobl eraill ac yn gallu addasu'n gyflym i amgylchiadau sy'n newid a syniadau newydd.

Byddwn yn gofyn am ddatgeliad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. A bydd gofyn i chi gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg.

Dyddiad cau: 21/06/2018

Mae hon yn swydd wag Blue Octopus Recruitment Ltd., sy'n gweithredu fel asiantaeth gyflogi. Unwaith y byddwch wedi clicio i wneud cais am y swydd hon, byddwn yn anfon e-bost atoch chi gyda rhagor o wybodaeth am y swydd a chopi o'r ffurflen gais.