Nyrs Gofrestredig

Location
UK Wide
Salary
annual allowance of £14,724
Posted
30 Apr 2018
Closes
29 May 2018
Contract Type
Permanent
Hours
Part Time

Aelod sy'n Gofrestrai:  Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth

Deyrnas Unedig

Arwain y ffordd o ran diogelwch y cyhoedd a diogelwch cleifion

Mae gennym gyfle cyffrous i nyrs neu fydwraig gofrestredig ymuno â'n Cyngor.

Ein gwaith ni yw diogelu'r cyhoedd.  Rydym yn gwneud hyn trwy reoleiddio nyrsys a bydwragedd mewn ffordd effeithiol.  Gydag oddeutu 690,000 o nyrsys a bydwragedd ar ein cofrestr, ni yw'r rheolydd proffesiynol mwyaf yn y DU.

Ein huchelgais yw bod yn rheolydd dynamig, deallus a blaenllaw.  Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio ar siapio nyrsys a bydwragedd y dyfodol, gan bennu cyfeiriad strategol newydd ar gyfer y ffordd yr ydym yn ystyried addasrwydd i wneud gwaith a pharatoi ar gyfer rheoleiddio rôl newydd y cydymaith nyrsio.

Fel aelod o'r Cyngor, byddwch yn cyflawni rôl hanfodol wrth gryfhau gweithgarwch rheoleiddio nyrsio a bydwreigiaeth er mwyn gwella diogelwch y cyhoedd a diogelwch cleifion.  Bydd angen ymagwedd strategol arnoch, ynghyd â doethineb a'r gallu i weithio fel aelod o dîm er mwyn gwneud penderfyniadau hollbwysig.  Yn ddelfrydol, bydd gennych chi rywfaint o brofiad o weithio ar lefel bwrdd neu o gyfrannu at brosiectau neu fentrau cenedlaethol.  Rydym yn croesawu diddordeb gan ymgeiswyr sy'n meddu ar brofiad o arweinyddiaeth ar lefel uwch neu o ddarparu gwasanaethau nyrsio cymunedol.

Gallwch fod yn byw neu'n gweithio yn unrhyw un o bedair gwlad y DU.  Bydd angen i chi ymrwymo'ch sgiliau, eich egni a'ch profiad i CNB am oddeutu tri diwrnod y mis a byddwch yn cael lwfans blynyddol o £14,724.

Y dyddiad cau er mwyn cyflwyno ceisiadau yw:  canol dydd, 29 Mai, 2018.  Cynhelir cyfweliadau yn Llundain ar 23 Gorffennaf 2013, gyda'r nod o benodi rhywun yn gynnar ym mis Medi 2018.

Rydym yn dymuno i aelodaeth ein Cyngor adlewyrchu'r amrywiaeth mewn cymdeithas.  Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sy'n meddu ar gymwysterau addas ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael eu trin mewn ffordd deg, gyda pharch a heb duedd.