Cadeirydd y Cyngor

Location
London / Manchester
Salary
£110k Per Annum
Posted
11 Apr 2018
Closes
09 May 2018
Contract Type
Permanent
Hours
Part Time

Cadeirydd y Cyngor

O ysbrydoli myfyrwyr meddygol sy'n dechrau arni ym maes meddygaeth, siarad ar y radio am y pwysau mae meddygon yn ei wynebu, i arwain newid er mwyn rhwystro niwed a chreu gwelliannau er lles cleifion, byddwch yn ymuno â ni ar gyfnod hanfodol yn y berthynas rhwng meddygon a'r pedair llywodraeth ym Mhrydain. Mae ein strategaeth gorfforaethol newydd – uchelgais dros newid, yn symud pwyslais ein gwaith o weithredu pan fydd pethau wedi mynd o le, i gefnogi pob meddyg i ddarparu gofal o'r safon uchaf. Dyma'r ffordd orau o gadw'r claf a'r meddyg yn ddiogel.

Mae'n gyfnod heriol i'r proffesiwn meddygol, ac o ran y ffordd rydyn ni'n rheoleiddio mewn system sydd o dan bwysau, felly bydd eich hygrededd personol, eich sgiliau diplomyddol cryf a'ch gallu i fod yn hyderus gyda grwpiau buddiant allweddol yn greiddiol i'ch gwaith gyda ni.

Rydyn ni'n gweithio'n galed i hyrwyddo proffesiynoldeb a diwylliant o ddysgu. Fodd bynnag, nid rhywbeth i feddygon yn unig yw dysgu a dod i ddeall - mae'n berthnasol i ni hefyd, ac mae'n sail i bopeth rydyn ni'n ei wneud er mwyn bod yn rheoleiddiwr mwy gweithgar a chymesur. Rydyn ni eisoes wedi newid pethau ym maes rheoleiddio, gan wthio deddfwriaeth hen ffasiwn i'r pen dros y pum mlynedd diwethaf drwy fod yn barod i nodi problemau a gweithio gyda'r proffesiwn er mwyn deall y cyd-destun maen nhw'n gweithio ynddo a'r pwysau sydd arnyn nhw.

Bydd yr Athro Syr Terence Stephenson yn rhoi'r gorau iddi ar ddiwedd 2018 ar ôl bod yn Gadeirydd am bedair blynedd. Rhaid i'w olynydd allu dangos profiad amlwg o arwain mewn rolau sylweddol a phrofiad helaeth wrth gadeirio ac ar lefel y bwrdd.

Os gallwch ddangos bod y sgiliau angenrheidiol gennych, waeth beth fo'ch cefndir, dylech ymgeisio am y swydd. Rydyn ni'n gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr meddygol a lleyg. Disgwylir mai'r ymrwymiad amser a'r taliad cydnabyddiaeth i'r Cadeirydd fydd 3 diwrnod yr wythnos a £110,000 y flwyddyn.

cysylltwch â'n hymgynghorydd Katrina Paget yn GatenbySanderson, drwy ffonio 0113 205 6092

Dyddiad cau: 5pm dydd Mercher 9 Mai 2018.

Mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn rhoi gwerth ar gydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae wedi ymrwymo i brosesau a gweithdrefnau sy'n deg, yn wrthrychol, yn dryloyw ac yn rhydd o ragfarn a gwahaniaethu anghyfreithlon. Mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (1089278), ac yn yr Alban (SC037750).

Gweithio gyda meddygon Gweithio dros gleifion