Lecturer in A Level History

Recruiter
Blue Octopus
Location
Deeside, Flintshire (Sir y Fflint)
Salary
£22,827- £38,629 per annum based on a salary assessment and relevant experience
Posted
22 Mar 2018
Closes
09 Apr 2018
Ref
BLUL61772
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Our clients students are at the heart of everything they do and they enjoy exclusive use of their ultra-modern, state-of-the-art facilities. The £14.6 million centre which opened in August 2016 is a joint development between Coleg Cambria, local schools and Flintshire City Council.

They are now looking for an experienced A Level teacher to deliver A Level History from August 2018. You will be required to teach AS & A2 Level History and a Skills Challenge group.

Within the role, you will perform scheduled teaching, prepare learning materials, mark students’ work, liaise with awarding bodies and exam invigilation as required. Acting as a personal tutor, you will provide educational guidance, support and counselling for all students whilst participating in the marketing, planning, assessment and evaluation of course provision.

As one of their Lecturers, you will also liaise with other tutors from other business areas with regard to resources, curriculum development, student reports and other related matters, whilst completing and producing the agreed deadlines documentation such as; registers, schemes of work, records of work, course review, course analysis documentation, student reports and absence reports.

They are looking for an individual who is qualified to Degree Level (or equivalent Level 6 qualification) in a relevant subject area and who holds a teaching qualification such as Cert Ed, PGCE or C&G 7407. Creative, innovative and imaginative, you will be able to develop and use a range of teaching and learning techniques and have the ability to assess the outcomes of learning and learner achievements.

With energy and enthusiasm in the learning environment, you will demonstrate an understanding of current developments within your own specialist area and be able to identify, interpret and apply specific knowledge to practice.

The successful candidate will share their aim of providing the highest standards in teaching and learning so that all students exceed their potential and have the opportunity for positive progression outcomes. If this sounds like you, then they would love to hear from you.

The ability to speak fluent Welsh is highly desirable.

In return they can offer an unrivalled working environment where you will be encouraged to take your ambitions and aspirations to the next level and provide learners with an experience that is second to none.

A DBS Disclosure will be requested from the successful applicant being offered the position and you will be required to register with the Education Workforce Council.

Closing Date: 6 April 2018

This is a Blue Octopus Recruitment Ltd vacancy who are operating as an employment agency. Once you have clicked to apply for this vacancy, we will then send you more information on the role including a copy of the application form via email.

Darlithydd Hanes Safon Uwch

Glannau Dyfrdwy

Cyflog £22,827- £38,629 y flwyddyn yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol

Parhaol, Llawn amser

Mae ein myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn yn Chweched Glannau Dyfrdwy ac maent yn cael defnyddio ein cyfleusterau tra modern o’r radd flaenaf.  Mae’r ganolfan £14.6 miliwn, a agorodd ym mis Awst 2016 yn ddatblygiad ar y cyd rhwng Coleg Cambria, ysgolion lleol a Chyngor Sir y Fflint.

Yma yn Chweched Glannau Dyfrdwy, rydym yn chwilio am athro Safon Uwch profiadol i gyflwyno Hanes Safon Uwch o fis Awst 2018.  Bydd gofyn i chi ddysgu Hanes UG ac A2 a grŵp Her Sgiliau.

Yn y swydd hon, byddwch yn addysgu yn ôl yr amserlen, paratoi deunyddiau dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, cysylltu â chyrff dyfarnu cymwysterau a goruchwylio arholiadau yn ôl y galw.  Gan weithredu fel tiwtor personol, byddwch yn rhoi arweiniad addysgol, cymorth ac yn cynghori myfyrwyr yn ogystal â chymryd rhan mewn marchnata, cynllunio, asesu a gwerthuso darpariaeth cyrsiau.

Fel un o’n darlithwyr, byddwch hefyd yn cysylltu â thiwtoriaid meysydd busnes eraill ynglŷn ag adnoddau, datblygu cwricwlwm, adroddiadau myfyrwyr a materion cysylltiedig eraill ac yn cynhyrchu ac yn cwblhau dogfennau erbyn y terfynau amser y cytunwyd arnynt fel: cofrestri, cynlluniau gwaith, cofnodion gwaith, adolygiadau cyrsiau, dogfennau dadansoddi cyrsiau, adroddiadau myfyrwyr ac adroddiadau absenoldeb.

Rydym yn chwilio am unigolion gyda chymwysterau lefel gradd (neu gymhwyster cyfwerth â Lefel 6) mewn maes pwnc perthnasol, yn ogystal â chymhwyster dysgu fel Tystysgrif Dysgu, TAR neu C&G 7407.  Yn greadigol, arloesol ac yn llawn dychymyg, byddwch yn gallu llunio a defnyddio ystod o dechnegau addysgu a dysgu, yn ogystal â gallu asesu deilliannau dysgu a chyflawniadau dysgwyr.

Byddwch yn egnïol ac yn frwdfrydig yn yr amgylchedd dysgu a byddwch yn dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun ac yn gallu canfod, dehongli ac addasu gwybodaeth benodol i’w harfer.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhannu ein nod o gyflwyno’r safonau uchaf mewn addysgu a dysgu fel bod pob un o’n myfyrwyr yn rhagori ar eu potensial a’u bod yn cael cyfle i symud ymlaen yn gadarnhaol.  Os yw hyn yn debyg i chi, yna hoffem gael clywed gennych.

Byddai’n dra dymunol petaech yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl.

Yn gyfnewid am hyn, gallwn gynnig amgylchedd gwaith heb ei ail, lle byddwch yn cael eich annog i ddatblygu eich uchelgais a’ch dyheadau i'r lefel nesaf a rhoi profiadau heb eu hail i’r dysgwyr.

Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd a  bydd gofyn i chi gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg.

Dyddiad Cau: 6 Ebrill 2018

Mae hon yn swydd wag Blue Octopus Recruitment Ltd., sy'n gweithredu fel asiantaeth gyflogi. Unwaith y byddwch wedi clicio i wneud cais am y swydd hon, byddwn yn anfon e-bost atoch chi gyda rhagor o wybodaeth am y swydd a chopi o'r ffurflen gais