Independent Board Members

Location
Wales
Salary
Competitive
Posted
21 Mar 2018
Closes
02 Apr 2018
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

APPOINTMENT OF INDEPENDENT MEMBERS TO NHS WALES HEALTH BOARDS AND TRUSTS

We have some exciting opportunities to help shape the future of health care in NHS Wales through undertaking the role of an Independent Member to a Health Board or Trust, so why not show that you have the ability to make a real difference in health service provision to the people of Wales.

We are recruiting for 4 Independent Member roles, details of which are below.  If you have a genuine desire to play a full and active role in the governance of a Health Board or NHS Trust and to make a real difference to the lives of the people of Wales, we would like to hear from you.

We are looking to recruit Independent Board Members with specialist expertise in the areas of Community, the Third Sector, ICT and Trade Unions. Primarily, you will have a clear knowledge and understanding of your area of expertise and the ability to apply this knowledge and understanding in a strategic board environment. You will also play a full and active role in the corporate and clinical governance of the health board, work closely with other public, private and voluntary organisations and contribute to the “governance and finance” of the Health Board ensuring its openness and honesty by contributing fully to the board’s decision making processes.

Why not utilise your skills and experience to make a contribution? NHS Wales is currently looking for Independent Members to undertake the following roles:-

Independent Members

  • Betsi Cadwaladr University Health Board – Serving Anglesey, Gwynedd, Conwy, Denbighshire, Flintshire and Wrexham.  (4 posts) – Community (x2), Third Sector and Trade Union Independent Member
  • Powys Teaching Health Board Serving Powys – (2 posts) ICT  and Trade Union Independent Member
  • Cwm Taf University Health Board Serving Merthyr Tydfil, Rhondda Cynon Taff, Upper Rhymney Valley, South Powys, North Cardiff and the Western Vale – (2 posts) Third Sector and Trade Union Independent Member

Appointments will be made on merit although consideration will be given to the need to establish a balanced skills mix.

The Independent Members will be appointed for up to a four (4) year period. The posts of Independent Members are based on a notional time commitment of a minimum of four (4) days per month subject to organisational demands, but is often higher then the minimum requirement.

We are particularly interested in hearing from under-represented groups such as women, disabled people and ethnic minority individuals and the skills you have to make a contribution in these roles.

For more information or to apply go to our website.

Please note that the closing date is 2nd April 2018. A large print, Braille or audio version of this advert can be obtained on request from 029 2082 5454.

 

 

PENODI AELODAU ANNIBYNNOL I  FYRDDAU AC YMDDIRIEDOLAETHAU GIG CYMRU

Mae gennym rai cyfleoedd cyffrous i helpu i lywio dyfodol gofal iechyd yn GIG Cymru drwy ymgymryd â rôl Aelod Annibynnol i Fwrdd Iechyd neu Ymddiriedolaeth. Felly, beth am ddangos bod gennych y gallu i wneud gwahaniaeth o bwys ym maes darparu gwasanaethau iechyd i bobl Cymru.

Rydym yn recriwtio ar gyfer pedair rôl Aelod Annibynnol ac mae'r manylion isod.  Os oes gennych awydd dilys i chwarae rhan lawn yn llywodraethiant Bwrdd Iechyd neu Ymddiriedolaeth y GIG, ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Cymru, fe hoffem glywed oddi wrthych.

Rydym yn anelu at recriwtio Aelodau Bwrdd Annibynnol ag arbenigedd ym maes y Gymuned, y Trydydd Sector  TGCh a'r Undebau Llafur. Yn bennaf, byddwch yn meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth glir o faes eich arbenigedd, ynghyd â'r gallu i ddefnyddio'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth hon ar lefel bwrdd strategol. Byddwch hefyd yn chwarae rhan lawn a gweithgar yn llywodraethiant corfforaethol a chlinigol y bwrdd iechyd, yn gweithio'n agos gyda chyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol eraill ac yn cyfrannu at "lywodraethiant a chyllid" y Bwrdd Iechyd gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest drwy gyfrannu'n llawn at brosesau'r bwrdd ar gyfer gwneud penderfyniadau.

Felly, beth am ddefnyddio'ch sgiliau a'ch profiad i gyfrannu at waith y Bwrdd? Mae GIG Cymru wrthi'n chwilio am Aelodau Annibynnol i gyflawni'r rolau canlynol:-

Aelod Annibynnol

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – yn gwasanaethu Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.  (4 swydd) – y Gymuned (x2)  y  Trydydd Sector a'r Undeb Llafur -  Aelod Annibynnol
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gwasanaethu Powys – (2 swydd) TGCh a'r Undeb Llafur Aelod Annibynnol
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf  Yn gwasanaethu Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Blaenau Cwm Rhymni, De Powys, Gogledd Caerdydd a Gorllewin Bro Morgannwg – (2 swydd) y Trydydd Sector a'r Undeb Llafur  Aelod Annibynnol

 

 

Gwneir y penodiadau ar sail teilyngdod ond rhoddir ystyriaeth i'r angen i gael amrywiaeth gytbwys o sgiliau.

Penodir yr Aelodau Annibynnol am gyfnod o hyd at bedair (4) blynedd. Mae swyddi Aelodau Annibynnol yn seiliedig ar ymrwymiad amser tybiedig o bedwar (4) diwrnod y mis o leiaf, ond bydd hynny'n amodol ar ofynion y sefydliad, ac mae hynny'n aml yn fwy na'r isafswm gofynnol.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, megis menywod, pobl anabl, ac unigolion o leiafrifoedd ethnig, ac am y sgiliau sydd gennych i gyfrannu at y rolau hyn.

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais, ewch i.

Noder mai 2 Ebrill 2018 yw'r  dyddiad cau. I gael fersiwn print bras, Braille neu sain o'r hysbyseb hon, ffoniwch 029 2082 5454