Cynorthwyydd Gwasanaethau Darlithwyr Cyswllt

Location
Cardiff, Cardiff (Caerdydd)
Salary
£19,305 to £21,585
Posted
20 Mar 2018
Closes
03 Apr 2018
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Cynorthwyydd Gwasanaethau Darlithwyr Cyswllt

Cymorth Mynediad, Gyrfaoedd ac Addysgu (ACTS)

Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Lleolir yng Nghaerdydd

£19,305 to £21,585, Ref: 14528

Contract dros dro tan 31 Hydref 2019

Rydym yn chwilio am unigolyn dynamig, hunan-gymhellol ac arloesol i lenwi swydd Cynorthwyydd Cyfadran Darlithwyr Cyswllt. Byddwch yn darparu cymorth gweinyddol i aelodau o staff academaidd/gweinyddol y Brifysgol Agored fel rhan o dîm gyda Chynorthwywyr eraill yng Nghaerdydd a ledled y DU. Byddwch yn gyfrifol am ymdrin ag ymholiadau cyffredinol gan fyfyrwyr a Darlithwyr Cyswllt, yn darparu gwybodaeth a chyngor wrth gynorthwyo Tiwtoriaid Staff sawl cyfadran. Byddwch hefyd yn cynorthwyo digwyddiadau datblygu staff Darlithwyr Cyswllt a chynadleddau.

Bydd gennych brofiad gwaith perthnasol mewn sefydliad mawr a chymhleth ynghyd â safon dda o addysg gyffredinol gan gynnwys o leiaf TGAU/TAG lefel O gradd 'C' (neu gyfwerth e.e. NVQ lefel 2, BTEC) mewn amrywiaeth o bynciau gan gynnwys Saesneg a Mathemateg. Byddwch yn unigolyn rhagweithiol a hyblyg sy'n gweithio'n dda mewn tîm, gyda sgiliau trefnu a chyfathrebu cadarn a sgiliau TG gwych, ynghyd â phrofiad o ddefnyddio Microsoft Office a chronfeydd data eraill.

Dyddiad cau: Hanner dydd, 3 Ebrill 2018

Dyddiad y cyfweliad: 19 Ebrill 2018

Rydym yn hyrwyddo amrywiaeth mewn cyflogaeth ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned

More searches like this