Pastoral Coach

Recruiter
Blue Octopus
Location
Deeside, Flintshire (Sir y Fflint)
Salary
£20,194 to £21,832 per annum
Posted
15 Mar 2018
Closes
12 Apr 2018
Ref
BLUP61443
Contract Type
Contract
Hours
Part Time

Our client is one of the UK’s largest colleges employing more than 1450 staff in over five campuses, all conveniently located in North East Wales, offering easy accessibility from within North Wales, Shropshire, Wirral, Merseyside and Cheshire.

They are now looking for a Pastoral Coach to join them at their Deeside campus on a fixed term, part time basis (86.47%).

Within the role, you will support students in their identified groups on their learning journey, ensuring they feel safe in college, are happy and successful.  Using the PSE programme, you will support learners in their online learning programme and use the college’s student monitoring tool to ensure that all students are well-tracked as they progress through the college.  Above all you will value each student as a precious individual and provide the support, guidance and care to enable them to achieve their maximum potential.

As a Pastoral Coach for Kick Start learners you will need to ensure that you case load priority learners in danger of disengaging and support them directly ensuring they have the appropriate support and resources in place to maximise their learning experience.  Close working relationships with the TRAC team will be essential.

This role demands an individual who is educated to Degree level (or the equivalent Level 3 qualification) in a relevant subject area and who has experience of working within a learning support environment. With effective written literacy skills and the ability to manage multiple tasks in a fast-paced environment, you will understand the range of needs of learners at college and be able to demonstrate experience of coaching and mentoring learners.

With a pro-active and self-motivated approach, you will have excellent communication and interpersonal skills and be able to connect with young people in both group and one to one situations. You will be prepared to use initiative to resolve problems and be competent in the use of MS Office (Excel, Word and PowerPoint) and Google applications. Those who have experience of working within a Youth Work setting would be advantageous, as would those who hold a recognised coaching qualification.

The ability to speak fluent Welsh is highly desirable.

A DBS Disclosure will be requested from the successful applicant being offered the position.

Closing Date: 12/04/2018

This is a Blue Octopus Recruitment Ltd vacancy who are operating as an employment agency. Once you have clicked to apply for this vacancy, we will then send you more information on the role including a copy of the application form via email.

Anogwr Bugeiliol

Glannau Dyfrdwy

Cyflog £20,194 - £21,832 y flwyddyn

Contract Cyfnod Penodol tan 31 Gorffennaf 2019, Rhan-amser (86.47%)

Ein cleient yw un o golegau mwyaf y DU ac mae’n cyflogi dros 1450 o staff ar 5 safle cyfleus yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, sy'n hawdd eu cyrraedd o Ogledd Cymru, Sir Amwythig, Cilgwri, Glannau Merswy a Sir Gaer.

Yma yng Ngholeg Cambria, rydym yn chwilio am Anogwr Bugeiliol i ymuno â ni ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy mewn swydd ran-amser (86.47%) am gyfnod penodol.

Yn y swydd hon, byddwch yn cynorthwyo myfyrwyr yn eu grwpiau dynodedig ar eu llwybrau dysgu, gan sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel yn y coleg a’u bod yn hapus ac yn llwyddiannus. Gan ddefnyddio'r rhaglen ABCh byddwch yn cynorthwyo’r dysgwyr gyda’u rhaglen ddysgu ar-lein ac yn defnyddio rhaglen fonitro myfyrwyr y coleg i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu tracio a’u cynorthwyo’n dda yn ystod eu hamser yn y coleg.  Yn anad dim, byddwch yn gwerthfawrogi pob myfyriwr fel unigolyn gwerthfawr ac yn rhoi’r cymorth, yr arweiniad a'r gofal iddynt i'w galluogi i gyflawni eu potensial gorau bosibl.

Fel Anogwr Bugeiliol i ddysgwyr Hwb i Yrfa, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cymryd dysgwyr sy’n flaenoriaeth at eich llwyth gwaith, sef y dysgwyr hynny sydd yn agos at ymddieithrio, a’u cynorthwyo yn uniongyrchol i sicrhau fod ganddynt y cymorth ac adnoddau addas i gael y profiad dysgu gorau posibl.  Bydd yn hanfodol meithrin perthnasau gwaith agos gyda’r tîm TRAC.

Mae’r swydd hon yn gofyn am unigolyn sydd wedi derbyn addysg hyd at lefel gradd (neu gymhwyster Lefel 3 cyfatebol) mewn maes pwnc perthnasol, a phrofiad o weithio mewn amgylchfyd cynorthwyo dysgu.  Bydd gennych chi sgiliau llythrennedd ysgrifenedig effeithiol a byddwch yn gallu amldasgio mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym, yn ogystal â deall ystod anghenion dysgwyr y coleg.  Byddwch hefyd yn gallu dangos bod gennych brofiad o annog a mentora dysgwyr.

Bydd gennych ymagwedd ragweithiol a hunangymhellol, sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol a byddwch yn gallu ymgysylltu â phobl ifanc yn unigol ac mewn grwpiau. Byddwch yn fodlon bod yn flaengar wrth ddatrys problemau.  Byddwch yn gallu defnyddio rhaglenni MS Office (Excel, Word a PowerPoint) a rhaglenni Google.  Byddai’n fanteisiol petai gennych brofiad o weithio ym maes Gwaith Ieuenctid a bod gennych gymhwyster annog cydnabyddedig.

Byddai’n dra dymunol petaech yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl.

Byddwn yn gofyn am Ddatgeliad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd.

Dyddiad Cau: 12/04/2018

Mae hon yn swydd wag Blue Octopus Recruitment Ltd., sy'n gweithredu fel asiantaeth gyflogi. Unwaith y byddwch wedi clicio i wneud cais am y swydd hon, byddwn yn anfon e-bost atoch chi gyda rhagor o wybodaeth am y swydd a chopi o'r ffurflen gais.