Prif Weithredwr

Location
CF10 3NS, Cardiff
Salary
Cystadleuol
Posted
14 Feb 2018
Closes
14 Mar 2018
Ref
225384640-01
Sectors
Public Sector
Contract Type
Contract
Hours
Full Time

PRIF WEITHREDWR

Cyflog cystadleuol

35 awr yr wythnos, penodiad tymor penodol 3 blynedd

Cymdeithas Ddysgedig Cymru, sy’n uchel ei pharch fel llais awdurdodol, annibynnol a chredadwy ym mywyd cyhoeddus Cymru, yw Academi Genedlaethol Cymru. Mae hi’n Elusen Siarter Brenhinol gydag yn agos i 500 o Gymrodyr, sy’n tynnu rhai o’r bobl fwyaf llwyddiannus a thalentog sydd â chyswllt â Chymru at ei gilydd o bob maes dysg ac ysgolheictod. Ers ei sefydlu yn 2010, mae wedi ymrwymo i hyrwyddo pwysigrwydd ysgolheictod ac ymchwil a’u cyfraniad at fudd gwyddonol, diwylliannol, cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd Cymru.

Mae’r Gymdeithas am benodi Prif Weithredwr sydd â dealltwriaeth o Addysg Uwch a chymdeithas Cymru ynghyd â’r gallu i helpu i gynyddu effaith y Gymdeithas a chyflawni uchelgais y Gymdeithas o ran twf a chynaladwyedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn olynu’r Athro Peter Halligan yn dilyn ei benodi’n Brif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru.

Bydd y Prif Weithredwr yn

  • atebol i’r Cyngor ac yn arwain tîm o 5 cyflogai sy’n cyflawni cenhadaeth y Gymdeithas i ddathlu ysgolheictod a gwasanaethu’r genedl, a rhoi penderfyniadau’r Cyngor ar waith;
  • cynorthwyo’r Cyngor i osod cyfeiriad y Gymdeithas at y dyfodol;
  • cynorthwyo i gynyddu effaith a pherthnasedd y Gymdeithas drwy ddatblygu rhaglen arloesol o ymchwil, cyhoeddiadau a digwyddiadau sy’n meithrin trafodaeth gyhoeddus ac yn cyfrannu at wella a chreu polisi;
  • gweithio gyda’r Cyngor i sicrhau ymgysylltu effeithiol gyda phobl a sefydliadau – cyfathrebu, cydweithio a phartneru ac adeiladu capasiti;
  • gweithio gyda’r Cyngor i sicrhau cyflawni canlyniadau – gan gynnwys cynaladwyedd y sefydliad a chyflawni gwerth drwy ddefnydd effeithiol o adnoddau’r Gymdeithas;
  • atebol am berfformiad ariannol a gweithrediadol y sefydliad, a bydd disgwyl datblygu sefyllfa ariannol y Gymdeithas drwy godi arian yn rhagweithiol a datblygu ffrydiau incwm amrywiol;
  • gallu cyfathrebu’n fedrus gyda lefel uchel o ymwybyddiaeth wleidyddol a meddylfryd masnachol;
  • cynnal rhwydwaith o randdeiliaid allweddol ar draws academia, diwydiant, cymunedau gwleidyddol a meysydd eraill o fywyd Cymru;
  • llysgennad hynod gredadwy a hyrwyddwr y Gymdeithas, gydag addysg i lefel gradd o leiaf, a dealltwriaeth ragorol o faterion addysgol, economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol ac yn brofiadol yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ar lefel uchel, delio â’r cyfryngau a siarad cyhoeddus;
  • rheolwr effeithiol ar staff y Gymdeithas.

Cyflog cychwynnol deniadol a chystadleuol fydd yn agored i’w drafod

Swydd lawn amser yw hon am dair blynedd ond gyda phosibilrwydd ei hestyn.

I gael rhagor o wybodaeth ac I wneud cais ewch i: www.learnedsociety.wales/jobs neu cysylltwch 02920 376956  

Dyddiad Cau: 14 Mawrth 2018 Cyfweliadau: 11 Ebrill 2018 

More searches like this