Cadeirydd

Location
CF10 1EP, Cardiff
Salary
£400 y dydd
Posted
01 Feb 2018
Closes
25 Feb 2018
Ref
225380457-01
Contract Type
Permanent
Hours
Part Time

COMISIWN SEILWAITH CENEDLAETHOL CYMRU

Penodi'r Cadeirydd:

Cydnabyddiaeth ariannol:          £400 y dydd

Ymrwymiad amser:        5 diwrnod y mis

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) i roi cyngor annibynnol, a fydd yn seiliedig ar well gwybodaeth, ar strategaeth fwy hirdymor ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith a fydd yn ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau''r Dyfodol (Cymru) 2015.

Corff cynghori anstatudol yw CSCC. Ei gylch gwaith yw hoelio sylw ar anghenion Cymru o ran seilwaith economaidd ac amgylcheddol dros gyfnod o 5-30 mlynedd.  Bydd y Comisiwn hefyd yn ystyried y cysylltiadau rhwng yr anghenion hynny a 'seilwaith cymdeithasol'; megis ysgolion, ysbytai a thai. Fodd bynnag, ni fydd disgwyl i CSCC ystyried a rhoi cyngor manwl ar anghenion o ran seilwaith cymdeithasol. 

Bydd y cyngor a gynigir gan CSCC yn strategol ac yn ystyried anghenion y dyfodol. Ni fydd rhoi cyngor ar gynlluniau seilwaith sydd ar waith eisoes neu sydd ar fin cael eu gweithredu yn rhan o gylch gwaith y Comisiwn.

Bydd Cadeirydd CSCC yn cael cyfle unigryw i edrych ar anghenion hirdymor Cymru o ran seilwaith economaidd ac amgylcheddol, gan ddylanwadu ar rwydweithiau seilwaith y dyfodol drwy wneud argymhellion ffurfiol i Lywodraeth Cymru ar gysylltiadau, ffactorau rhyngddibynnol a blaenoriaethau strategol, gan gynnwys y berthynas â seilwaith cymdeithasol fel tai. Bydd y Cadeirydd yn mireinio rôl CSCC ac yn meithrin consensws â byd diwydiant a rhanddeiliaid eraill.

Bydd gan y Cadeirydd feddwl praff a bydd yn llais annibynnol ar seilwaith a fydd yn gweithio gyda grŵp amrywiol o Gomisiynwyr. Bydd gan y Cadeirydd broffil cyhoeddus amlwg. Bydd yn cyflwyno argymhellion CSCC yn gyhoeddus a hefyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a bydd yn gwirio bod yr argymhellion a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu gweithredu. 

Cyn penodi'r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer swydd y Cadeirydd, bydd Gwrandawiad Cyn Penodi yn cael ei gynnal gerbron Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 

Bydd disgwylir i'r sawl a benodir yn Gadeirydd fod yn aelod o'r panel recriwtio a fydd yn penodi'r Comisiynwyr.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 25 Chwefror 2018. Ni fyddwn yn ystyried ffurflenni cais a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwnnw. Disgwylir i gyfweliadau gael eu cynnal yn ystod misoedd 23/24 Ebrill 2018.