Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau a'r Pwyllgor Cynghori ar Bobl Hŷn a Phobl Anabl
- Recruiter
- Communications Consumer Panel
- Location
- Cardiff, Cardiff (Caerdydd)
- Salary
- Good Rates of Pay
- Posted
- 28 Nov 2017
- Closes
- 10 Dec 2017
- Ref
- 225347567
- Sectors
- Management
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Part Time
Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau a'r Pwyllgor Cynghori ar Bobl Hŷn a Phobl Anabl - Aelod i gynrychioli Cymru
Mae’r Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau’n gweithio i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau defnyddwyr, dinasyddion a microfusnesau yn y sector cyfathrebiadau, gan gynnwys gwasanaethau post. Mae’r Panel yn gweithio mewn amgylchedd deinamig, heriol, sy'n symud yn gyflym, lle mae cyfleoedd newydd yn ogystal â risgiau newydd o ran diogelu defnyddwyr.
Rydyn ni eisiau penodi aelod newydd ar y Panel, yn amodol ar gymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol, a fydd yn gweithredu fel aelod o’r Pwyllgor Cynghori ar Bobl Hŷn a Phobl Anabl (ACOD). Mae'r ACOD yn cynghori Ofcom ynghylch buddiannau a safbwyntiau pobl hŷn a phobl anabl sy’n byw yn y Deyrnas Unedig.
Er mwyn ymuno â’r Panel Defnyddwyr ac ACOD, bydd angen y canlynol arnoch chi:
- Dealltwriaeth dda o faterion sy’n effeithio ar y sector cyfathrebiadau yng Nghymru, neu’r gallu i ddysgu am hynny’n gyflym;
- Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o'r cyd-destun gwleidyddol a chyfansoddiadol yng Nghymru
- Gallu deall materion cymhleth sy’n ymwneud â defnyddwyr, dinasyddion, microfusnesau, rheoleiddio, yr economi a busnes yn ehangach;
- Diddordeb brwd mewn profiadau defnyddwyr, gan ganolbwyntio’n benodol ar bobl hŷn a phobl anabl yng Nghymru
- Sgiliau cyfathrebu cadarn er mwyn cyfrannu’n effeithiol at drafodaethau corff cyhoeddus lefel uchel;
- Integriti personol uchel iawn; a
- Dim gwrthdaro oherwydd unrhyw fuddiannau masnachol neu wleidyddol.
Profiad/Sgiliau Dymunol
- Y gallu i siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg.
Rhaid datgan unrhyw wrthdaro posibl rhwng buddiannau o safbwynt ariannol neu fusnes, a rhaid trafod hynny yn y cyfweliad.
Pedwar diwrnod y mis yw’r ymrwymiad o ran amser.
Mae Ofcom yn gyflogwr cyfle cyfartal. Mae’n dymuno adlewyrchu amrywiaeth cymdeithas gyfoes y DU ac felly mae’n mynd ati’n frwd i recriwtio aelodau o bob grŵp oedran a chefndir diwylliannol ac ethnig yn ogystal â’r rheini sydd ag anabledd. Rydyn ni’n gwarantu y bydd pob ymgeisydd anabl sy’n bodloni holl feini prawf hanfodol y disgrifiad swydd yn cael cyfweliad.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac ni fydd unrhyw geisiadau a gyflwynwyd yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na’r rhai hynny a gyflwynwyd yn Saesneg.
Y dyddiad cau ydy'r 10 o Ragfyr 2017. Bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal yng Nghaerdydd ar y 18 o Ragfyr 2017