Datblygydd Systemau a Thechnoleg Gwybodaeth
- Recruiter
- Coleg Cymraeg Cenedlaethol*
- Location
- Caerfyrddin neu Gaerdydd. Gellir hefyd ystyried Bangor fel lleoliad i’r ymgeisydd iawn.
- Salary
- £29,799 - £33,518
- Posted
- 30 Nov 2017
- Closes
- 14 Dec 2017
- Sectors
- Education & Teaching, IT
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Full Time
Datblygydd Systemau a Thechnoleg Gwybodaeth
Lleoliad: Caerfyrddin neu Gaerdydd. Gellir hefyd ystyried Bangor fel lleoliad i’r ymgeisydd iawn.
Bydd y Datblygydd Systemau a Thechnoleg Gwybodaeth yn gyfrifol am weithredu, cynnal a datblygu rhaglenni a rhyngwynebau’r Coleg ac am ddatblygiadau gwe a systemau mewnol. Bydd yn cydweithio gyda chontractwyr allanol i roi cymorth i staff y Coleg ar bob agwedd o dechnoleg gwybodaeth. Bydd gennych sgiliau technoleg gwybodaeth cadarn ynghyd â dealltwriaeth eang o dechnolegau ar-lein a phrofiad diweddar ym maes datblygu gwe, technoleg gwybodaeth a systemau. Bydd Gradd neu gyfystyr mewn pwnc perthnasol megis cyfrifiadureg yn hanfodol, ynghyd â sgiliau dwyieithog da, a bydd cymhwyster megis ITIL neu MCP yn fanteisiol.
Dylid cyflwyno ceisiadau trwy gwblhau’r ffurflen gais a’r ffurflen fonitro cyfle cyfartal sydd ar wefan y Coleg. Ni fydd ceisiadau trwy CV yn dderbyniol. Rhaid i bob cais gyrraedd erbyn 14.00 o’r gloch ar 14 Rhagfyr 2017. Cynhelir cyfweliadau yng Nghaerfyrddin ar ddydd Gwener 12 Ionawr 2018.
Ewch i wefan y Coleg i weld manylion llawn y swydd ac i wneud cais: www.colegcymraeg.ac.uk/swyddi.
*Gallwn hefyd ystyried penodi person newydd-raddedig dan hyfforddiant gyda chyflog cyfatebol, gyda’r bwriad o’i d/ddatblygu dros gyfnod i lefel y swydd uchod.