Swyddog Cefnogi Cyllid ac Adnoddau / Finance and Resources Support Officer
- Recruiter
- WELSH LANGUAGE COMMISSIONER
- Location
- Cardiff, Cardiff (Caerdydd)
- Salary
- £23,400 - £26,400
- Posted
- 14 Nov 2017
- Closes
- 08 Dec 2017
- Ref
- 225337850
- Sectors
- Accountancy, Public Sector
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Full Time
COMISIYNYDD Y GYMRAEG
SWYDD DDISGRIFIAD
Teitl y swydd: Swyddog Cefnogi Cyllid ac Adnoddau
Tîm: Cyllid ac Adnoddau
Graddfa: EO/Band C
Yn atebol i: Uwch Swyddog Cyllid ac Adnoddau
Wrth i waith Comisiynydd y Gymraeg ddatblygu, fe all gofynion y swydd newid. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu trafod a’u cytuno â deiliad y swydd ymlaen llaw.
This is an advertisement for a Finance and Resources Support Officer for which the ability to communicate in Welsh and English is an essential requirement.
PRIF DDYLETSWYDDAU
Darparu cefnogaeth gynhwysfawr i’r Tîm Cyllid ac Adnoddau a chynorthwyo aelodau’r Gyfarwyddiaeth yn ôl y gofyn.
DYLETSWYDDAU CYLLID
- Cofnodi archebion ac anfonebau ar y system gyfrifon cyfrifiadurol yn gywir ac yn amserol. Prosesu taliadau i gyflenwyr. Delio ag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud ag archebion, anfonebau neu daliadau.
- Prosesu a thalu treuliau swyddogion gan sicrhau eu bod wedi eu hawdurdodi’n briodol ac wedi eu hawlio yn unol â pholisi a gweithdrefnau’r Comisiynydd.
- Prosesu cyflogau swyddogion Comisiynydd y Gymraeg yn unol â’r nodyn cyngor a ddarparir gan yr Uwch Swyddog Adnoddau Dynol. Sicrhau bod y gwybodaeth wedi ei phrosesu’n gywir, yn gyflawn ac yn amserol er mwyn talu swyddogion ar ddiwrnod gwaith olaf y mis.
- Dosbarthu a chasglu derbynebau cardiau pwrcasu yn fisol. Cysoni’r gwariant a’i brosesu’n fisol.
- Cysoni datganiad Trainline/Diner’s Club a phrosesu’r gwariant i’r system gyllid yn fisol
- Prosesu’r asedau sefydlog i’r system Asedau Sefydlog. Cynnal proses flynyddol o wirio bodolaeth yr asedau.
- Cysoni balansau rheoli’r cyfrifon yn gyfnodol, megis: Asedau, Credydwyr, Dyledwyr, y Banc a’r Cyflogau. Gwirio unrhyw wahaniaethau amser neu barhaol.
- Monitro balansau yn y cyfrifon banc wrth brosesu taliadau. Paratoi rhagolwg o’r llifoedd arian yn fisol gan ragweld y trosglwyddiadau rhwng y cyfrifon sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod arian digonol ar gael i dalu cyflenwyr/swyddogion. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Cyllid ac Adnoddau i baratoi’r adroddiadau Dalwyr Cyllideb a’r Adroddiad Cyllid misol i’w cyflwyno i’r Tîm Rheoli. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Cyllid ac Adnoddau i baratoi’r cyfrifon blynyddol, yn ôl y galw. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Cyllid ac Adnoddau i baratoi’r Amcangyfrif ariannol blynyddol at sylw Gweinidogion Cymru a’r Gyllideb fanwl i’w chyflwyno i’r Tîm Rheoli, yn ôl y galw. Gwaith gweinyddol fel y gofyn megis trefnu ceir llog, ystafelloedd mewn gwestai, tocynnau trên ac awyren, archebu nwyddau swyddfa a chadw gorolwg ar y stordy nwyddau swyddfa ar lawr 2 i sicrhau bod trefn dderbyniol. Bod yn gyfrifol am lwytho dogfennau’r Tîm Cyllid ar y fewnrwyd. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Cyllid ac Adnoddau gyda hyfforddiant ac ymwybyddiaeth cyllid, yn ôl y galw. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Cyllid ac Adnoddau trwy fod yn gyfrifol am faterion gweinyddol a gweithredol cynnal gwasanaethau’r swyddfeydd.
DYLETSWYDDAU GWEINYDDOL CANOLOG
- Ateb a throsglwyddo galwadau ffôn neu gymryd negeseuon ar sail trefn rota a chofnodi’r wybodaeth yn unol â pholisïau mewnol. Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymwelwyr i’r swyddfa yn ôl yr angen. Cynorthwyo gyda’r trefniadau post; agor y post sy’n cyrraedd a’i drosglwyddo i’r swyddogion (neu’r timoedd) priodol; delio gyda’r post sy’n mynd allan o’r swyddfa gan sicrhau fod cyllid digonol yn y peiriant ffrancio bob amser a threfnu cyllid ychwanegol yn amserol. Cofnodi’r wybodaeth yn unol â pholisïau mewnol.
Fe rhan o dîm, bod yn gyfrifol, yn ôl y galw, am gynorthwyo gyda gwaith gweinyddol ar draws y sefydliad.
DYLETSWYDDAU CYFFREDINOL
- Gweithredu’n gyson ac yn amserol yn unol â holl bolisïau a chanllawiau’r Comisiynydd. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol eraill yn ôl y galw.