Bilingual Sight Loss Advisor

Recruiter
RNIB
Location
Aberystwyth, Ceredigion (Sir Ceredigion)
Salary
£24,860 per annum
Posted
19 Oct 2017
Closes
31 Oct 2017
Ref
225320959
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Bilingual Sight Loss Advisor (Cardiff or Colwyn Bay) – Ref. 9092-1

Hours: 36 hours per week

Salary: £24,860 per annum

Location: Wales (Flexibility to work from home with a requirement to be based in our offices in either Colwyn Bay or Cardiff for part of the week)

Contract type: Permanent

This is an exciting job opportunity for a friendly professional fluent in both written and oral Welsh language to join RNIB’s newly established UK Wide Sight Loss Advice Service as a Sight Loss Advisor. The post holder will have flexibility to work from home with a requirement to be based in our offices in either Colwyn Bay or Cardiff for part of the week.

RNIB's Advice Service is a crucial component of our telephone and online based National Advice and Specialist Services. Providing immediate and effective support, we offer invaluable first-time and in-depth advice to people with sight loss, their family friends and carers.

As a Sight Loss Advisor you'll provide fast, relevant advice on a wide range of issues. From welfare rights, social care and employment, to education, leisure and daily living - making sure our customers have the information they need to live life to the full.

We are seeking individuals with a proven background in providing Welfare Rights advice alongside a number of different subject areas, specifically to include:

  • Assessing the welfare needs of clients and making referrals internally or externally as required.
  • Providing assistance on welfare issues.
  • Maximising clients' income by undertaking benefit checks, better off calculations and identifying other means of practical support.

Highly organised, and calm under pressure, you will competently cope with staffing a busy telephone advice service, whilst actively managing a caseload to achieve positive results for our customers. Positive, empathic and motivated, you'll work on your initiative and as part of a supportive team.

In exchange we offer a competitive salary, a stimulating and supportive working environment and a benefits package including:

  • 26 days holiday per year (plus bank holidays), which increase with service
  • Excellent pension schemes

If you would like to apply for this great job opportunity please click the apply button.

This role requires an enhanced criminal record check which includes a check of the children’s and adults barred list as the role holder will provide advice to children which relates to their physical and emotional well being and advice or guidance to adults with sight loss in relation to personal care.

We’re the Royal National Institute of Blind People (RNIB) and we’re here for everyone affected by sight loss. Working for us means working for one of the UK’s biggest charities, supporting almost two million people living with sight loss in the UK.

Closing date for applications is at midnight on Tuesday, 31st October 2017.

Interviews will be held on Thursday, 9th November and Friday, 10th November 2017.

Cynghorydd Colli Golwg Dwyieithog (Caerdydd neu Fae Colwyn) - Cyfeirnod 9092-1

Oriau: 36 awr yr wythnos

Cyflog: £24,860 y flwyddyn

Lleoliad: Cymru (Hyblygrwydd i weithio o gartref, a bydd gofyn iddynt gael eu lleoli yn ein swyddfeydd naill ai ym Mae Colwyn neu Gaerdydd am ran o’r wythnos.

Math o Gontract: Parhaol

Dyddiad cau: Hanner nos, dydd Mawrth 31 Tachwedd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol cyfeillgar, sy'n rhugl yn y Gymraeg yn ysgrifenedig ac ar lafar, ymuno â Gwasanaeth Cyngor ar Golli Golwg y DU newydd RNIB yng Nghaerdydd neu Fae Colwyn fel Cynghorydd Colli Golwg. Bydd gan ddeiliaid y swydd hyblygrwydd i weithio o gartref, a bydd gofyn iddynt gael eu lleoli yn ein swyddfeydd naill ai ym Mae Colwyn neu Gaerdydd am ran o’r wythnos.

Mae Gwasanaeth Cyngor RNIB yn elfen hollbwysig o'n Gwasanaethau Arbenigol a Chyngor Cenedlaethol sydd ar gael dros y ffôn ac ar-lein. Gan ddarparu cyngor uniongyrchol ac effeithiol, rydym yn cynnig cyngor am y tro cyntaf a chyngor manwl i bobl sy'n colli eu golwg, eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u gofalwyr.

Fel Cynghorydd Colli Golwg byddwch yn rhoi cyngor cyflym a pherthnasol ar amrywiaeth eang o faterion. O hawliau lles, gofal cymdeithasol a chyflogaeth, i addysg, hamdden a bywyd bob dydd - gan sicrhau bod gan ein cwsmeriaid y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i fyw bywyd boddhaus.

Rydym yn chwilio am unigolion sydd â chefndir da mewn rhoi cyngor ar Hawliau Lles ynghyd â nifer o feysydd pwnc gwahanol, gan gynnwys y canlynol yn benodol:

  • Asesu anghenion lles cleientiaid ac atgyfeirio yn fewnol neu'n allanol yn ôl yr angen.
  • Rhoi cymorth mewn perthynas â materion lles.
  • Cynyddu incwm cleientiaid drwy gynnal gwiriadau budd-daliadau, gwneud cyfrifiadau 'gwell eu byd' a nodi mathau eraill o gymorth ymarferol.

Gan fod yn drefnus iawn a pheidio â chynhyrfu o dan bwysau, byddwch yn ymdopi yn dda â staffio gwasanaeth cyngor dros y ffôn prysur, tra'n rheoli llwyth achos yn weithredol er mwyn cyflawni canlyniadau cadarnhaol ar gyfer ein cwsmeriaid. Byddwch yn gweithio ar eich liwt eich hun ac fel rhan o dîm cefnogol mewn modd cadarnhaol, empathetig ac ysgogol.

Yn gyfnewid am hyn rydym yn cynnig cyflog cystadleuol, amgylchedd gwaith ysgogol a chefnogol a phecyn o fuddiannau gan gynnwys:

  • 26 diwrnod o wyliau'r flwyddyn (a gwyliau banc), sy'n cynyddu gyda gwasanaeth.
  • cynlluniau pensiwn ardderchog

Am ragor o fanylion a ffurflen gais cliciwch ar y botwm gwneud cais (apply).

Mae'n rhaid cynnal gwiriad cofnodion troseddol manwl ar gyfer y rôl hon sy'n cynnwys gwiriad o restrau pobl sydd wedi'u gwahardd rhag gweithio gyda phlant ac oedolion, gan y bydd deiliad y rôl yn darparu cyngor i blant sy'n ymwneud â'u lles corfforol ac emosiynol ac yn rhoi cyngor neu arweiniad i oedolion sy'n colli eu golwg ar ofal personol.

Ni yw Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) ac rydym yma i bawb y mae colled golwg yn effeithio arnynt. Mae gweithio i ni yn golygu gweithio i un o elusennau mwyaf y DU, gan gefnogi bron i ddwy filiwn o bobl sy'n byw gyda cholled golwg yn y DU.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos, nos Mawrth  31 Tachwedd.

Caiff y cyfweliadau eu cynnal ddydd Iau 9fed o Dachwedd a dydd Gwener 10 fed o Dachwedd, 2017.