Cadeirydd y Cyngor

Location
Bangor, Gwynedd
Salary
Cystadleuol
Posted
18 Oct 2017
Closes
20 Nov 2017
Ref
225319685-01
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

CADEIRYDD Y CYNGOR

Sefydlwyd Prifysgol Bangor yn 1884 ac mae ganddi draddodiad hir o ragoriaeth o ran safonau academaidd a phrofiad myfyrwyr hefyd. Mae'r brifysgol yn ffynnu ar adeg anodd i Addysg Uwch. Ei chenhadaeth yw bod yn sefydliad cryf, hyderus a gydnabyddir yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel canolfan ragoriaeth ar sail ei bortffolio amrywiol o addysgu ac ymchwil, ac am y profiad unigryw, amlddiwylliannol a chynhwysol y mae'n ei roi i'w staff a'i fyfyrwyr.

Mae'r brifysgol yn chwilio am Gadeirydd o'r radd flaenaf i arwain ei Chyngor. Mae'r Cyngor yn chwarae rhan allweddol o ran gyrru'r sefydliad ymlaen ac mewn siapio'i gyfeiriad strategol a'i genhadaeth a sicrhau ei fod yn cael ei lywodraethu'n a'i reoli'n effeithiol.  Mae'r brifysgol yn chwilio am Gadeirydd gyda sgiliau cyfathrebu a dylanwadu o'r safon uchaf a dull cynhwysol, ond pendant, o weithredu.  Bydd gan y Cadeirydd brofiad o arwain ar lefel bwrdd a hynny yn y sectorau preifat a chyhoeddus/neu gyhoeddus. Bydd ganddo/ganddi ymrwymiad personol cryf i Addysg Uwch ac yn benodol i genhadaeth, gweledigaeth a gwerthoedd Prifysgol Bangor.

Mae Cyngor y Brifysgol yn cwrdd bum gwaith y flwyddyn a gwahoddir yr ymgeisydd llwyddiannus i wasanaethu hefyd ar rai pwyllgorau sefydlog.   Hefyd croesewir cefnogaeth yn ystod digwyddiadau yn y brifysgol, megis seremonïau graddio, darlithoedd a digwyddiadau cyhoeddus eraill. 

Cynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn ddwyieithog (gyda chyfleusterau cyfieithu) a dylai'r Cadeirydd fod yn gyfforddus yn cadeirio cyfarfodydd dwyieithog a dylai fod wedi ymrwymo’n llwyr i ddyletswydd y brifysgol i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg a medru gweithredu’n effeithiol yn y cyd-destun Cymreig. 

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae'r Cyngor yn annog ceisiadau gan bobl o bob rhan o'r gymuned, ac yn arbennig gan bobl o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, sy'n cynnwys merched, LGBT, pobl anabl a phobl o grwpiau ethnig lleiafrifol.

Mae aelodaeth y Cyngor yn debyg i gyfrifoldebau cyfarwyddwyr anweithredol cwmnïau, ac mae swydd y Cadeirydd yn debyg i un Cadeirydd Bwrdd.  Ni roddir cyflog am wneud y gwaith ond bydd y brifysgol yn talu treuliau rhesymol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 20 Tachwedd 2017. Mae manylion pellach am y swydd a sut i wneud cais ar gael ar y we-dudalen  www.bangor.ac.uk/about/council-recruitment/

More searches like this