Swyddog Gwaith Achos
- Recruiter
- Ombudsman For Wales
- Location
- Pencoed, Bridgend
- Salary
- £19,431 - £21,963
- Posted
- 09 Oct 2017
- Closes
- 06 Nov 2017
- Sectors
- Public Sector
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Full Time
Swyddog Gwaith Achos
£19,431 - £21,963
Rydym yn awyddus i benodi Swyddogion Gwaith Achos, a fydd yn gweithio yn nhîm delio â chwynion rheng flaen yr Ombwdsmon. Croesewir ceisiadau gan y rheini sydd â diddordeb mewn swyddi llawn amser neu ran-amser.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am ystyried ac ymateb i gwynion ar ran yr Ombwdsmon. Bydd Swyddogion Gwaith Achos yn gyfrifol am eu baich achosion eu hunain ac mae gallu rheoli gwaith achos yn hanfodol. Mae sgiliau cyfathrebu llafar ardderchog yn hanfodol, gan fod y rôl yn cynnwys cyswllt uniongyrchol dros y ffôn a phersonol ag achwynwyr a chynrychiolwyr cyrff o fewn awdurdodaeth yr Ombwdsmon.
Mae gallu amsugno a chofio ystod eang o wybodaeth am awdurdodaeth yr Ombwdsman yn hanfodol, yn yr un modd â gallu cyfeirio aelodau'r cyhoedd at wasanaethau priodol eraill.
Rydym yn awyddus i benodi un swydd barhaol ac un swydd cyfnod penodol. Bydd angen gallu cyfathrebu yn Gymraeg ar gyfer un o’r swyddi hyn.
Bydd y cyflog cychwynnol ar ôl penodi yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad perthnasol.
I gael pecyn ymgeisio, ewch i’n gwefan http://www.ombudsman-wales.org.uk/cy-GB.aspx
Rhaid cyflwyno ffurflenni cais erbyn hanner dydd ar ddydd Llun 6 Tachwedd 2017.
Ni fydd ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried.
Mae’r Ombwdsmon wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.