COMISIYNYDD Y GYMRAEG

Location
Caerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin neu Ruthun
Salary
Cyflog: £29,100 - £34,750
Posted
27 Jul 2017
Closes
15 Aug 2017
Sectors
Public Sector
Contract Type
Temporary
Hours
Full Time

This is is an advertisement for a Compliance Officer for which the ability to
communicate in Welsh and English is an essential requirement.

COMISIYNYDD Y GYMRAEG

SWYDDOG CYDYMFFURFIO

AMODAU A THELERAU

Contract: Contract cyfnod mamolaeth neu secondiad

Cyflog:  Y raddfa gyflog flynyddol ar gyfer y swydd hon yw £29,100 i £34,750. Caiff y cyflog ei dalu’n fisol, fel rheol ar y diwrnod olaf yn y mis

Trefniadau Pensiwn Mae Comisiynydd y Gymraeg yn gweithredu Cynllun Pensiwn

y Gwasanaeth Sifil. Yn unol â Deddf Pensiynau 2008 mae’n ofynnol i ni  eich cofrestru’n awtomatig – os ydych am eithrio eich hunan o’r cynllun pensiwn bydd gofyn i chi ein hysbysu yn ysgrifenedig.

Oriau Gwaith: Yr oriau amodol ar gyfer staff sy’n gweithio llawn-amser yw 37 awr yr wythnos, heb gynnwys toriadau prydau bwyd.  Oriau arferol yw 9.00 tan 5.00

Oriau hyblyg: Mae’n rhydd i staff Comisiynydd y Gymraeg ddewis gweithio oriau hyblyg. O dan y cynllun, mae’n rhaid i unigolyn weithio cyfanswm o 37 awr yr wythnos (yn ddarostyngedig i’r hawl i gario amser drosodd)

Gwyliau: Yn flynyddol cewch 31 diwrnod y flwyddyn o wyliau gyda chyflog.  Yn ogystal cewch 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint.

Cyfnod Prawf: Bydd eich swydd gyda Chomisiynydd y Gymraeg ar brawf am 6 mis

Ysmygu ac Iechyd: Yn unol â deddfwriaeth genedlaethol, ni chaniateir ysmygu yn unrhyw ran o swyddfeydd Comisiynydd y Gymraeg

Dyddiad cau: 12.00 canol dydd, 15 Awst 2017

Cyfweliadau: Wythnos yn cychwyn 28 Awst 2017

I geisio am y swydd hon, ewch i’n gwefan am ffurflen gais:

http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/cymraeg/Pages/Swyddi.aspx

More searches like this