Swyddog Cymorth Cyfryngau Cymdeithasol / Social Media Support Officer

Recruiter
Social Care Wales
Location
Cardiff
Salary
£25264 - £27962 per annum
Posted
08 Aug 2022
Closes
05 Sep 2022
Ref
JDAOL2508/SG
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Swyddog Cymorth Cyfryngau Cymdeithasol Gofalwn Cymru
Cymru gyda gweithio hybrid ac ymweliadau â’n swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llanelwy

Y manteision

- Cyflog o £25,264 - £27,962 y flwyddyn
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc (cynyddu gyda hyd gwasanaeth)
- Diwrnodau ychwanegol i ffwrdd rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Gweithio hybrid
- Polisi absenoldeb teuluol

Y rôl

Byddwch yn rhan o dîm cyffrous sy’n chwarae rhan allweddol yn yr ymgyrch denu a recriwtio cenedlaethol ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru. Mae Gofalwn Cymru a lansiwyd yn 2019 wedi esblygu i fod yn ymgyrch denu a recriwtio i’r sectorau gofal. Gan ddefnyddio teledu darlledu, cyfryngau cymdeithasol ac amrywiaeth o sianeli cyhoeddusrwydd (fel hysbysfyrddau, bysiau ac ati) mae’r gwaith wedi ennill momentwm wrth helpu pobl yng Nghymru i ddeall a gwerthfawrogi gyrfaoedd mewn gofal yn well. Fel Swyddog Cymorth Cyfryngau Cymdeithasol Gofalwn Cymru, byddwch yn arwain y sianeli cyfryngau cymdeithasol (Facebook, Instagram a Twitter), gan ddatblygu negeseuon cyfryngau cymdeithasol a chynghori ar gyfleoedd eraill i hyrwyddo gwaith Gofalwn Cymru.

Byddwch yn defnyddio dadansoddeg i fesur gweithgaredd ac ymgysylltiad y sianeli i helpu i siapio'r gwaith parhaus yn well ac archwilio'r ffordd orau o dargedu grwpiau cynulleidfa amrywiol.

Ochr yn ochr â’ch dyletswyddau cyfryngau cymdeithasol, byddwch yn cefnogi’r gwaith o gydlynu gweinyddiaeth fewnol ac allanol ar gyfer tîm Gofalwn Cymru, gan gefnogi cyfarfodydd priodol, gan gynnwys lleoliadau, trefniadau teithio a llety.

Amdanoch Chi

I gael eich ystyried fel ein Swyddog Cymorth Cyfryngau Cymdeithasol Gofalwn Cymru, bydd angen y canlynol arnoch chi:

- Profiad o reoli sianeli cyfryngau cymdeithasol mewn amgylchedd busnes
- Profiad o weinyddu busnes, gan gynnwys gweinyddu cyfarfodydd
- Profiad o ddefnyddio Zoom, Skype for Business a Microsoft Teams
- Gwybodaeth am reoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys ymateb i ymholiadau a dadansoddeg
- Gwybodaeth am y sectorau gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant
- Sgiliau TG rhagorol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a'r Saesneg

Byddai profiad o gefnogi prosiectau neu raglenni a gwybodaeth am Hootsuite, Canva, Later, Eventbrite, OneDrive, a SharePoint hefyd o fudd i'ch cais.

Byddai NVQ Lefel 3 (neu gyfwerth) mewn Gweinyddu Busnes o fantais hefyd.

Y dyddiad cau yw 11:59 dydd Sul 4ydd Medi 2022. Cyfweliadau i fod ar 12 neu 13 Medi.

Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Cynorthwyydd Cyfryngau Cymdeithasol, Cynorthwyydd Cyfathrebu, Gweinyddwr Cyfathrebu, Gweinyddwr Cyfathrebu Digidol, Cynorthwyydd Marchnata, Cydlynydd Marchnata, Cydgysylltydd Cyfryngau Cymdeithasol, neu Gynorthwyydd Marchnata Digidol.

Felly, os ydych yn chwilio am gyfle newydd fel Swyddog Cymorth Cyfryngau Cymdeithasol Gofalwn Cymru, gwnewch gais drwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.

WeCare Wales Social Media Support Officer
Wales with hybrid working and visits to our offices in Cardiff & St Asaph

The benefits

- Salary of £25,264 - £27,962 per annum
- 28 days’ holiday plus bank holidays (increasing with length of service)
- Extra days off between Christmas and New Year
- Local government pension scheme
- Flexi work policy
- Hybrid working
- Family leave policy

The role

You will be part of an exciting team playing a key role in the national attraction and recruitment campaign for social care and childcare in Wales. WeCare Wales launched in 2019 has evolved to become the attraction and recruitment campaign into the care sectors. Utilising broadcast television, social media and a range of publicity channels (such as billboards, buses etc) the work has gained momentum in helping people in Wales better understand and value careers in care. As the WeCare Wales Social Media Support Officer, you will lead the social media channels (Facebook, Instagram and Twitter), developing social media messages and advising on other opportunities to promote the work of WeCare Wales.

You will be utilising analytics to measure activity and engagement of the channels to help better shape the ongoing work and exploring how best to target various audience groups.


Alongside your social media duties, you will support the co-ordination of internal and external administration for the WeCare Wales team, supporting appropriate meetings, including venues, travel and accommodation arrangements.

About you

To be considered as our WeCare Wales Social Media Support Officer, you’ll need:

- Experience of managing social media channels in a business environment
- Experience of business administration, including meeting administration
- Experience in the use of Zoom, Skype for Business and Microsoft Teams
- Knowledge of managing social media accounts, including replying to queries and analytics
- Knowledge of the social care, early years and childcare sectors
- Excellent IT skills
- Excellent communications skills in both Welsh and English

Experience supporting projects or programmes and knowledge of Hootsuite, Canva, Later, Eventbrite, OneDrive, and SharePoint would also be beneficial to your application.

An NVQ Level 3 (or equivalent) in Business Administration would also be an advantage.

The closing date is 11:59 on Sunday 4th September 2022. Interviews to be on 12 or 13 September.

Other organisations may call this role Social Media Assistant, Communications Assistant, Communications Administrator, Digital Communications Administrator, Marketing Assistant, Marketing Co-ordinator, Social Media Co-ordinator, or Digital Marketing Assistant.

So, if you’re looking for a new opportunity as the WeCare Wales Social Media Support Officer, please apply via the button shown. This vacancy is being advertised by Webrecruit. The services advertised by Webrecruit are those of an Employment Agency.