Arweinydd Porth Data / Data Portal Lead

Recruiter
Social Care Wales
Location
Cardiff
Salary
£41122 - £46194 per annum
Posted
05 Aug 2022
Closes
02 Sep 2022
Ref
JDAQT1409-SG
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Arweinydd Porth Data
Caerdydd neu Llanelwy (gyda gwaith hybrid)

Y cwmni

Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol ac arbenigedd mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr.

I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.

Rydym nawr yn chwilio am Arweinydd Porth Data i gefnogi arloesiadau newydd cyffrous a’r defnydd o Borth Data Gofal Cymdeithasol Cymru.

Y Manteision

- Cyflog o £41,122 - £46,194 y flwyddyn
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â Gwyliau Banc (cynyddu gyda hyd gwasanaeth)
- Diwrnodau ychwanegol i ffwrdd rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Gweithio hybrid
- Polisi absenoldeb teuluol

Y Rôl

Fel Arweinydd Porth Data, byddwch yn arwain y gwaith parhaus o ddatblygu a chynnal ein Porth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol. Byddwch yn datblygu’r Porth i gyflawni ein huchelgeisiau i fod y man cyswllt cyntaf i unrhyw un sy’n ceisio data a mewnwelediad ar ofal cymdeithasol yng Nghymru.

Byddwch yn creu cynnwys ystyrlon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y cyhoedd, ymchwilwyr a’r cyfryngau i annog defnydd o’r porth.

Gan ddefnyddio dull dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, byddwch yn chwilio am ffynonellau newydd o ddata gofal cymdeithasol i’w defnyddio ar y llwyfan ac yn creu dadansoddiadau a delweddiadau ystyrlon a pherthnasol i’w cyhoeddi. Byddwch hefyd yn darparu cyd-destun i ddata sy'n bodoli eisoes, yn dal gofynion defnyddwyr parhaus ac yn datblygu swyddogaethau ychwanegol.

Amdanat ti

I gael eich ystyried yn Arweinydd Porth Data, bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad mewn rôl delweddu data, newyddiaduraeth data neu ddatblygu cymwysiadau.
- Profiad o integreiddio data, delweddu data, warysau data, ETL/ELT, prosiectau data mawr
- Profiad o ddatblygu amgylcheddau data ar-lein mewn amrywiaeth o ieithoedd rhaglennu
- Gwybodaeth am ddelweddu data, dadansoddi data uwch a pheirianneg data
- Gwybodaeth am ddatblygu cymwysiadau, a datblygu APIs
- Gwybodaeth am egwyddorion dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
- Gwybodaeth am systemau data perthynol ac MDM a/neu RDM
- Y gallu i gyfleu mewnwelediadau data ar draws gwahanol lefelau o lythrennedd data

Byddai'r swydd hon yn addas ar gyfer rhywun sydd â diddordeb mewn rheoli data, ymchwil ac ystadegau.

Dyddiad cau: hanner nos 4/9/22

Gallai sefydliadau eraill alw’r rôl hon yn Rheolwr Data, Rheolwr Porth, Arweinydd Rheoli Data, Arweinydd Ymchwil Data, neu Arweinydd Ystadegau.

Felly, os gallwch gynyddu hygyrchedd fel Arweinydd Porth Data, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.

Data Portal Lead
Cardiff or St Asaph (with hybrid working)

The Company

At Social Care Wales, we provide national leadership and expertise in social care and early years in Wales.

Our vision is to make a positive difference to care and support for children, adults and their families and carers.

To do this, we lead on developing and regulating the social care workforce, service improvement, data and research to improve care.

We are now seeking a Data Portal Lead to support exciting new innovations and uptake of the Social Care Wales Data Portal.

The Benefits

- Salary of £41,122 - £46,194 per annum
- 28 days’ holiday plus Bank Holidays (increasing with length of service)
- Extra days off between Christmas and New Year
- Local government pension scheme
- Flexi work policy
- Hybrid working
- Family leave policy

The Role

As a Data Portal Lead, you will lead the ongoing development and maintenance of our National Social Care Data Portal. You’ll develop the Portal to meet our ambitions to become the first port of call for anyone seeking data and insight on social care in Wales.

You’ll create meaningful content for people working in social care, the public, researchers and the media to encourage the use of the portal.

Using a user-centred design approach, you will seek out new sources of social care data for use on the platform and create meaningful and relevant analyses and visualisations for publication. You will also provide context to existing data, capture ongoing user requirements and develop additional functionality.

About You

To be considered as a Data Portal Lead, you will need:

- Experience in a data visualisation, data journalism or application development role.
- Experience of data integration, data visualisation, data warehousing, ETL/ELT, big data projects
- Experience of developing online data environments in a variety of programming languages
- Knowledge of data visualisation, advanced data analysis and data engineering
- Knowledge of application development, and the development of APIs
- Knowledge of user centred design principles
- Knowledge of relational data systems and MDM and/or RDM
- The ability to communicate data insights across different levels of data literacy

This position would be suited to somebody with an interest in data management, research and statistics.

Closing date: midnight 4/9/22

Other organisations might call this role Data Manager, Portal Manager, Data Management Lead, Data Research Lead, or Statistics Lead.

So, if you can increase accessibility as a Data Portal Lead, please apply via the button shown. This vacancy is being advertised by Webrecruit. The services advertised by Webrecruit are those of an Employment Agency.