Vice President - Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Location
Wales
Salary
Competitive
Posted
24 Jun 2022
Closes
01 Aug 2022
Sectors
Management
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Vice President - Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

We are seeking:

  • An experienced and diplomatic leader who has experience of operating at a senior level in a complex, multi-disciplinary organisation;

  • Someone who is passionate about Wales and its culture, and convinced of the positive impact Amgueddfa Cymru can have on the wellbeing and identity of a nation;

  • Someone who will both support and help drive the development of a national, high-profile cultural institution in a way which enhances its potential and reach and relevance in Wales, across the UK, and internationally.

Commitment: A minimum of 12 days per year for a four-year term. This includes attendance at board meetings, events, deputising for the President, and serving on sub-committees.

~ ~ ~ ~ ~ ~ ~ ~ ~

The Welsh Government is seeking an exceptional individual to take on the role of Vice President of Amgueddfa Cymru.

Our ideal candidate will have proven leadership, governance and relationship management skills, combined with a strategic mind set and a passion for culture in Wales.

All applicants should be able to demonstrate a genuine interest in the Museum’s activities and its future development, as well an understanding of the responsibilities of being a trustee and Vice President.

The ideal candidate will understand the diverse communities of Wales and will be committed to ensuring that they can all participate in and enjoy the benefits of engaging with Amgueddfa Cymru’s work, and its collections.

All trustees have individual and collective responsibility to the Welsh Government through the Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip.

The full person specification and essential criteria are included in the applicants’ information pack.

The ability to speak Welsh fluently is essential for this role. We welcome applications from people who could be fluent within 12months of appointment, including with additional support/training.

If you would like an informal discussion about the role of Vice President, please contact Nicola Guy, Deputy Director, Culture Division, Welsh Government Nicola.Guy@gov.wales or Catrin Hughes, Head of Sponsorship, Culture Division, Welsh Government, Catrin.Hughes@gov.wales

It is the policy of the Welsh Government and Amgueddfa Cymru – National Museum Wales to promote and integrate equality of opportunity and diversity into all aspects of their business, including appointments to public bodies. Applications are welcomed and encouraged from all groups and we ensure no eligible candidate for public office will receive less favourable treatment on the grounds of age, disability, sex, marital status, sexual orientation, gender reassignment, race, religion or belief, or pregnancy or maternity.

We guarantee to interview anyone who is disabled whose application meets the minimum criteria for the post. By ‘minimum criteria’ we mean that you must provide us with evidence in your application which demonstrates that you generally meet the level of competence for the role and any qualifications, skills or experience defined as essential.

If you would like a guaranteed interview, please contact Public.appointments@gov.wales

Closing date: 01 August 2022 at 12:00. We will not consider any applications received after this date and time.

Applicants invited for interview will be notified at least two weeks prior to the interview date.

A large print, Braille or audio versions of this advert can be obtained by request from publicappointments@gov.wale

Rydym yn edrych am:

  • Arweinydd profiadol a diplomyddol sydd â phrofiad o weithredu ar lefel uwch mewn sefydliad cymhleth, amlddisgyblaethol;

  • Rhywun sy’n angerddol am Gymru a’i diwylliant, ac yn argyhoeddedig o’r effaith gadarnhaol y gall Amgueddfa Cymru ei chael ar les a hunaniaeth cenedl;

  • Rhywun a fydd yn cefnogi ac yn helpu i lywio datblygiad sefydliad diwylliannol cenedlaethol, proffil uchel mewn ffordd sy'n gwella ei botensial a'i gyrhaeddiad a'i berthnasedd yng Nghymru, ar draws y DU, ac yn rhyngwladol.

Ymrwymiad: Ymrwymiad ar gyfartaledd o 12 diwrnod y flwyddyn am 4 blynedd yn y swydd. Mae hyn yn cynnwys presenoldeb mewn cyfarfodydd bwrdd, digwyddiadau, dirprwyo ar ran y Llywydd, a gwasanaethu ar is-bwyllgorau.

~ ~ ~ ~ ~ ~ ~ ~ ~ ~

Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am unigolyn eithriadol i ymgymryd â rôl Is-lywydd Amgueddfa Cymru.

Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol sgiliau arwain, llywodraethu a rheoli perthnasoedd profedig, ynghyd â meddylfryd strategol ac angerdd am ddiwylliant yng Nghymru.

Dylai pob ymgeisydd allu dangos diddordeb gwirioneddol yng ngweithgareddau’r Amgueddfa a’i datblygiad yn y dyfodol, yn ogystal â dealltwriaeth o’r cyfrifoldebau o fod yn ymddiriedolwr ac yn Is-lywydd.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn deall cymunedau amrywiol Cymru ac yn ymroddedig i sicrhau y gallant oll gymryd rhan yng ngwaith Amgueddfa Cymru, a’i chasgliadau, a mwynhau’r buddion o ymwneud ag ef.

Mae gan bob ymddiriedolwr gyfrifoldeb unigol a chyfunol i Lywodraeth Cymru drwy’r Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip.

Mae’r fanyleb person lawn a’r meini prawf hanfodol wedi’u cynnwys ym mhecyn gwybodaeth yr ymgeisydd.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl a allai fod yn rhugl o fewn 12 mis i gael eu penodi, gan gynnwys gyda chymorth/hyfforddiant ychwanegol.

Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am rôl yr Is-lywydd, cysylltwch â Nicola Guy, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Ddiwylliant, Llywodraeth Cymru Nicola.Guy@llyw.cymru neu Catrin Hughes, Pennaeth Noddi, Is-adran Diwylliant, Llywodraeth Cymru, Catrin. Hughes@llyw.cymru

Mae’n bolisi gan Lywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru i hyrwyddo cyfle cyfartal a’i integreiddio i bob agwedd ar eu busnes gan gynnwys penodiadau i gyrff cyhoeddus. Croesewir ac anogir ceisiadau gan bob grŵp a sicrheir na chaiff unrhyw ymgeisydd cymwys am swydd gyhoeddus ei drin yn llai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, beichiogrwydd neu famolaeth.

Rydym yn gwarantu cyfweld unrhyw un anabl lle mae eu cais yn bodloni isafswm meini prawf y swydd. Wrth ‘feini prawf gofynnol’ rydym yn golygu bod yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i ni yn eich cais sy’n dangos eich bod yn gyffredinol yn bodloni’r lefel cymhwysedd ar gyfer y rôl ac unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiad a ddiffinnir yn hanfodol.

Os hoffech gael cyfweliad gwarantedig, cysylltwch â PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12:00, 1af o Awst 2022. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Byddwch yn cael eich hysbysu a ydych yn cael eich gwahodd i gyfweliad ai peidio o leiaf bythefnos cyn cynnal y cyfweliadau.

I gael fersiwn print bras, Braille neu sain o'r hysbyseb hon, ffoniwch 02920 825454

More searches like this