Independent Member - Community

Location
Bangor, Gwynedd
Salary
£15,936 based on time commitment of 4 days per month
Posted
15 Jul 2021
Closes
06 Aug 2021
Ref
226116544
Sectors
Public Sector
Contract Type
Permanent
Hours
Part Time

Betsi Cadwaladr University Health Board

Appointment of Independent Member - Community Remuneration for this post is £15,936 based on time commitment of 4 days per month, subject to
organisational demands, but is often higher than the minimum requirement.

We are recruiting to Betsi Cadwaladr University Local Health Board, the largest health organisation in Wales, serving Anglesey, Gwynedd, Conwy, Denbighshire, Flintshire and Wrexham. Details of the role are set out below.

If you are a dynamic individual who shares our vision to provide a patient centred service, have a genuine desire to play a full and active role in the governance of the Health Board, and want to make a real difference to the lives of the people of north Wales, we would like to hear from you. This is a pivotal time for you to join a forward thinking organisation which continues to respond to the COVID-19 pandemic and its impact, including work to reinstate our planned care pathways and to begin to tackle the waiting list position. We will also be focusing on primary and community care services,
improving unscheduled and emergency care, and mental health services.

We have recently been de-escalated from Special Measures to Targeted
Intervention status and our new Chief Executive and I are keen to drive through the further improvements needed for the benefit of our patients and service users.

This Board is made up of a number of Executive and Independent Members. Each Independent Member role has a specific remit. For this vacancy we are looking to recruit an Independent Member who can represent the community across north Wales. Primarily, you will have knowledge and experience in this area and the ability to apply this knowledge and understanding strategically for the benefit of the Board.

You will also need to play a full and active role in the corporate and clinical
governance of the Health Board, work closely with the public, our patients and stakeholders, and make sure that the views of our patients, carers and families are fully involved in helping to shape, develop and improve services.

The successful applicant will also display the right values and behaviours - for example impartiality, openness and honesty.

The appointment will be made on merit, although we are particularly interested to hear from all under-represented groups.

Currently, the majority of our meetings are being held virtually, and moving forward, we intend to have a blended approach between face-to-face and virtual meetings. It is the policy of the Welsh Government to promote and integrate equality of opportunity into all aspects of its business including appointments to public bodies.

Applications are welcomed and encouraged from all groups and we ensure that no eligible candidate for public office receives less favourable treatment on the grounds of age, disability, gender, marital status, sexual orientation, gender reassignment, race, religion or belief, or pregnancy and maternity.

The principles of fair and open competition will apply and appointments will be made on merit.

The closing date for receipt of applications is 6 August at 16:00. Application
forms received after this date will not be considered. It is expected to hold interviews during September.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Penodi Aelod Annibynnol - Cymunedol Y tâl ar gyfer y swydd hon yw £15,936 yn seiliedig ar ymrwymiad amser o bedwar diwrnod y mis, yn amodol ar anghenion y sefydliad, ond yn aml, mae'n uwch na'r gofyniad lleiaf.

Rydym yn recriwtio i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, sef y sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, yn gwasanaethu Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae manylion am y rôl wedi'u hamlinellu isod. Os ydych yn unigolyn deinamig sy'n rhannu ein gweledigaeth i ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gleifion, bod gennych ddymuniad gwirioneddol i gyflawni rôl lawn a gweithgar o ran llywodraethu'r Bwrdd Iechyd, a’ch bod am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Ngogledd Cymru, hoffem glywed gennych chi. Mae hon yn adeg hollbwysig i chi ymuno â sefydliad blaengar sy'n parhau i ymateb i bandemig COVID-19 a'i effaith, gan gynnwys gwaith i adfer ein llwybrau gofal wedi'i gynllunio ac i ddechrau mynd i'r afael â'r sefyllfa gyda rhestrau
aros. Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar wasanaethau gofal cychwynnol a
chymunedol, gwella gofal heb ei drefnu a gofal brys, a gwasanaethau iechyd
meddwl.

Rydym wedi'n hisgyfeirio yn ddiweddar o Fesurau Arbennig i statws Ymyrraeth wedi'i

Thargedu ac rwyf i a'n Prif Weithredwr newydd yn awyddus i yrru'r gwelliannau pellach sydd eu hangen ymlaen er budd ein cleifion a'n defnyddwyr gwasanaeth.

Mae'r Bwrdd yn cynnwys nifer o Aelodau Gweithredol ac Aelodau Annibynnol. Mae i bob rôl Aelod Annibynnol gylch gwaith penodol. Ar gyfer y swydd wag hon, rydym yn awyddus i recriwtio Aelod Annibynnol sy'n gallu cynrychioli'r gymuned ar draws Gogledd Cymru. Yn bennaf, bydd gennych wybodaeth a phrofiad yn y maes hwn a'r gallu i gymhwyso'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth hon ar lefel strategol er budd y Bwrdd.

Bydd angen hefyd i chi gyflawni rôl lawn a gweithgar o ran llywodraethu corfforaethol a chlinigol y Bwrdd Iechyd, gweithio'n agos gyda'r cyhoedd, ein cleifion a'n rhanddeiliaid, a sicrhau bod safbwyntiau ein cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn o ran helpu i lunio, datblygu a gwella gwasanaethau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn dangos y gwerthoedd a'r ymddygiad cywir - er enghraifft, didueddrwydd, didwylledd a gonestrwydd.

Caiff y penodiad ei wneud ar sail teilyngdod, ond mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan yr holl grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.

Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o'n cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithiol, ac wrth symud ymlaen, rydym yn bwriadu mabwysiadu ymagwedd gyfunol rhwng cyfarfodydd wyneb yn wyneb a rhai rhithiol.

Polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru yw hybu ac integreiddio cyfle cyfartal ym mhob agwedd ar ei busnes gan gynnwys penodiadau i gyrff cyhoeddus.

Croesewir ac anogir ceisiadau gan yr holl grwpiau ac rydym yn sicrhau na fydd yr un ymgeisydd cymwys am swydd gyhoeddus yn cael ei drin yn llai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth.

Bydd egwyddorion cystadlu teg ac agored yn berthnasol a chaiff penodiadau eu gwneud ar sail teilyngdod.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 6 Awst i 16:00. Ni chaiff ffurflenni cais a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn eu hystyried. Y disgwyliad yw cynnal y cyfweliadau yn ystod Medi.

More searches like this