Census Officers

Location
Various across Wales
Salary
£11.22 - £14.61
Posted
12 Jan 2021
Closes
09 Feb 2021
Sectors
Public Sector
Contract Type
Temporary

Census officers 

Contract duration

2nd intake; 16 March to 29 April 2021

3rd intake; 23 March to 29 April 2021

Hours

2nd intake; 15, 25 or 37 hours per week

3rd intake; 15 or 37 hours per week

Salary dependent on location

Band 1 - £14.61

Band 2 - £12.64

Band 3 - £11.22

Flexible working hours within these times:

Monday to Saturday: 9am – 8pm

Sundays and bank holidays: 10am – 4pm

60% of your hours must be between:

Monday to Friday: 4pm – 8pm

Saturday: 9am – 8 pm

Sunday: 10am – 4pm

Persuasive people make the census

The census is a survey of the entire population of England and Wales that happens every 10 years. It’s run by the Office for National Statistics (ONS) and gives us a picture of all the people and households in England and Wales.

The information we collect is used to make decisions that affect everyone – things like how many schools, surgeries and hospitals we need.

To make the census a success, we need a team of active, confident officers who can encourage people to complete the Census 2021 online questionnaire.

The role

In this important, temporary role, you will be given a daily workload of household addresses that are yet to complete a census questionnaire. You will visit the addresses and help householders complete their questionnaire – either yourself or by referring them to available support. This will usually happen on their doorstep, but you might also occasionally support your colleagues at community completion events.

Although you will work independently, you will be in a team, with a team leader who will help you settle in. You can fit your hours around other commitments, as long as you work within the hours specified.

About you

We’re looking for motivated individuals who can maintain accurate, timely records and keep the public’s information safe. You will need plenty of resilience because you will be knocking on doors and meeting people from all walks of life.

Some residents will have objections to filling in the questionnaire, and you will need to be confident, encouraging and engaging to help them overcome these barriers.

You will also have excellent customer service skills, be at ease using smartphones and apps, and be able to stay professional and calm in challenging situations.

You must be prepared to travel in this role, although the distance will vary depending on where you work. You might need a current, full UK driving licence and use of a motor vehicle that’s insured for business use. We will pay travel expenses for this.

For roles in Wales, knowledge of Welsh would be an advantage.

To be considered for the role, you must be available for intake 2 from 16 March to 29th April 2021 and for intake 3 from 23 March to 29 April 2021 inclusive.

People make the census. If you’re looking for temporary work, and you’re interested in making Census 2021 a success for everyone, apply for a census officer role

We can only employ you if you are eligible to work for the Civil Service. Find out more about the Civil Service nationality rules.

COVID-19

Your health, and that of our field staff, is very important to us. We’ll be following the government’s safety guidelines about the coronavirus (COVID-19). Appropriate PPE (Personal Protective Equipment) will be provided to all staff. Social distancing will be maintained throughout the operation.  

Swyddogion y cyfrifiad

Hyd y contract

Ail gylch; rhwng 16 Mawrth a 29 Ebrill 2021

Trydydd cylch; rhwng 23 Mawrth a 29 Ebrill 2021

Oriau 

Ail gylch; 15, 25 neu 37 awr yr wythnos

Trydydd cylch; 15 neu 37 awr yr wythnos

Cyflog yn ddibynnol ar leoliad

Band 1 – £14.61

Band 2 – £12.64

Band 3 – £11.22

Oriau gwaith hyblyg yn ystod yr amseroedd canlynol:

Rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn: 9am – 8pm

Dydd Sul a gwyliau banc: 10am – 4pm

Rhaid i chi gyflawni 60% o'ch oriau gwaith yn ystod yr amseroedd canlynol:

Rhwng dydd Llun a dydd Gwener: 4pm – 8pm

Dydd Sadwrn: 9am – 8 pm

Dydd Sul: 10am – 4pm

Pobl llawn perswâd sy'n gwneud y cyfrifiad

Arolwg o boblogaeth gyfan Cymru a Lloegr yw'r cyfrifiad, sy'n digwydd bob 10 mlynedd. Caiff ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ac mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.

Caiff y wybodaeth rydym yn ei chasglu ei defnyddio i wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bawb – pethau fel faint o ysgolion, meddygfeydd ac ysbytai sydd eu hangen arnom.

Er mwyn gwneud y cyfrifiad yn llwyddiant, mae angen tîm o swyddogion gweithredol a hyderus arnom a all annog pobl i lenwi holiadur ar-lein Cyfrifiad 2021.

Y rôl

Yn y rôl dros dro, bwysig hon, byddwch yn cael llwyth gwaith dyddiol o gyfeiriadau cartrefi sydd heb gwblhau'r cyfrifiad eto.  Byddwch yn ymweld â'r cyfeiriadau ac yn helpu deiliaid cartrefi i lenwi eu holiadur – naill ai eich hun neu drwy eu cyfeirio at y cymorth sydd ar gael. Bydd hyn fel arfer yn digwydd ar garreg eu drws, ond efallai y byddwch yn cefnogi eich cydweithwyr mewn digwyddiadau cwblhau'r cyfrifiad yn y gymuned o bryd i'w gilydd hefyd.

Er y byddwch yn gweithio'n annibynnol, byddwch yn rhan o dîm, gydag arweinydd tîm a fydd yn eich helpu i ymgyfarwyddo â'ch rôl. Gallwch weithio o amgylch ymrwymiadau eraill, ar yr amod eich bod yn gweithio o fewn yr oriau a nodwyd.

Amdanoch chi

Rydym yn chwilio am unigolion llawn cymhelliant sy'n gallu cadw cofnodion cywir ac amserol, yn ogystal â chadw gwybodaeth y cyhoedd yn ddiogel. Bydd angen i chi fod yn wydn, gan y byddwch yn curo ar ddrysau ac yn cwrdd â phobl o bob cefndir.

Bydd rhai pobl yn gwrthwynebu llenwi'r holiadur, a bydd angen i chi fod yn hyderus, gan eu hannog ac ymgysylltu â nhw i'w helpu i oresgyn y rhwystrau hyn.

Byddwch hefyd yn meddu ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog, yn hapus i ddefnyddio ffonau clyfar ac apiau, ac yn gallu aros yn broffesiynol ac yn ddigyffro mewn sefyllfaoedd heriol.

Rhaid i chi fod yn barod i deithio ar gyfer y rôl hon, er y bydd y pellter yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych yn gweithio. Mae'n bosibl y bydd angen i chi feddu ar drwydded yrru lawn gyfredol y Deyrnas Unedig a bod â cherbyd modur i'w ddefnyddio, sydd wedi'i yswirio at ddefnydd busnes. Byddwn yn talu treuliau teithio ar gyfer hyn.

Ar gyfer rolau yng Nghymru, byddai sgiliau Cymraeg yn fanteisiol.

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rôl, rhaid i chi fod ar gael, ar gyfer yr ail gylch rhwng 16 Mawrth a 29 Ebrill 2021 ac ar gyfer y trydydd cylch rhwng 23 Mawrth a 29 Ebrill 2021 yn gynhwysol.

Pobl sy'n gwneud y cyfrifiad. Os ydych chi'n chwilio am waith dros dro, ac os oes diddordeb gennych mewn gwneud Cyfrifiad 2021 yn llwyddiant i bawb, gwnewch gais am rôl swyddog y cyfrifiad

Gallwn ond eich cyflogi os ydych chi'n gymwys i weithio i'r Gwasanaeth Sifil. Dysgwch fwy am reolau cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil.

COVID-19

Mae eich iechyd chi, ynghyd ag iechyd ein staff maes, yn hollbwysig i ni. Byddwn yn dilyn canllawiau diogelwch y llywodraeth ar y coronafeirws (COVID-19). Bydd cyfarpar diogelu personol priodol yn cael ei ddarparu i'r holl staff. Bydd pawb yn cadw pellter cymdeithasol drwy gydol gweithrediad y cyfrifiad.  

More searches like this