Member of the Welsh Food Advisory Committee
- Recruiter
- FOOD STANDARDS AGENCY
- Location
- Wales
- Salary
- £3,885 per annum
- Posted
- 19 Nov 2020
- Closes
- 14 Dec 2020
- Sectors
- Management, Public Sector
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Part Time
Aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Ceisiadau erbyn: 14/12/2020
Cyflog: £3,885 y flwyddyn. Bydd yr holl gostau rhesymol ar gyfer teithio a chynhaliaeth yn cael eu had-dalu.
Lleoliad: Unrhyw le yng Nghymru. Fel rheol, cynhelir y cyfarfodydd pwyllgor yng Nghaerdydd. Oherwydd y cyfyngiadau COVID-19 parhaus, mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar Microsoft Teams ar hyn o bryd.
Disgrifiad swydd
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn chwilio am bedwar aelod newydd ar gyfer Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (y Pwyllgor).
Rôl a chyfrifoldebau
Sefydlwyd y Pwyllgor yn 2000 i roi cyngor i'r ASB ar feysydd fel diogelwch bwyd, safonau bwyd a phryderon defnyddwyr yng Nghymru.
Mae’r Pwyllgor yn cynghori’r Asiantaeth ar ystod o bynciau. Bob blwyddyn, mae hyd at bedwar cyfarfod agored yng Nghymru wedi'u hategu gan gyfarfodydd busnes, diwrnodau hyfforddi a digwyddiadau rhanddeiliaid.
Manyleb y person
Sgiliau a gwybodaeth hanfodol
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth gyfredol a pharhaus o faterion diogelwch a safonau bwyd, gan gynnwys datblygu polisi a thirwedd rhanddeiliaid yng Nghymru.
- Sgiliau dadansoddi, strategol a gwneud penderfyniadau cryf, yn gallu pwyso a mesur tystiolaeth gymhleth ac egluro sail y cyngor.
- Bod yn graff ei farn/barn, gyda lefel uchel o onestrwydd a chyfrifoldeb cyhoeddus, ynghyd â'r gallu i gyfrannu at wneud penderfyniadau anodd.
- Y gallu i ddehongli a chyfathrebu gwybodaeth yn effeithiol ar lafar, yn ysgrifenedig a thrwy ystod o gyfryngau.
- Y gallu i wasanaethu un ai heb wrthdaro buddiannau neu i ddangos sut y byddant yn ymdrin â gwrthdaro buddiannau posibl, boed y rheiny yn rhai go iawn neu'n rhai tybiedig.
- Y gallu i ystyried a deall cyngor, tystiolaeth a dadleuon gwyddonol.
- Ymrwymiad i faterion defnyddwyr neu ddod â mewnwelediadau bwyd/defnyddwyr o fewn cyd-destun Cymru.
- Mae’r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer un o'r swyddi.
- Dangos profiad perthnasol yn un (neu fwy) o'r canlynol:
- Gwyddoniaeth – er enghraifft Microbioleg, Meddygol, Epidemioleg, Milfeddygol, Iechyd y Cyhoedd neu Wyddorau Cymdeithasol, newid ymddygiad yn benodol.
- Polisi Bwyd – Llywodraethu, safonau a sicrwydd y system fwyd.
- Cyfraith Bwyd – Gorfodi cyfraith bwyd.
- Addysg/Academia – er enghraifft systemau bwyd a diogelwch.
- Cyfathrebu – er enghraifft ymgysylltu â defnyddwyr drwy ystod o gyfryngau, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasu/blogio.
- Cynhyrchu Bwyd/Lletygarwch – Cefndir cynhyrchu/diwydiant bwyd/arlwyo.
- Cyrff cyhoeddus perthnasol – er enghraifft diogelu defnyddwyr, gorfodi cyfraith bwyd, twyll bwyd, iechyd y cyhoedd.
- Arall – er enghraifft diwydiant bwyd neu'r sector arlwyo/bwytai/gwestai, mentrau bwyd cymunedol, ymchwil defnyddwyr, llunio polisi mewn meysydd perthnasol.
Rydym ni’n croesawu ceisiadau yn arbennig gan bobl o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, menywod, pobl o dan 30 oed, pobl anabl a phobl sy'n nodi eu bod yn LGBT+. Byddwn ni’n ceisio sicrhau aelodaeth gytbwys o ran amrywiaeth, arbenigedd a phrofiad.
Ymrwymiad amser
Mae'r rôl yn cynnwys ymrwymiad amser o 21 diwrnod y flwyddyn, gan gynnwys cyfarfodydd Pwyllgor ac amser paratoi.
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i: www.llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus
Member of the Welsh Food Advisory Committee
Apply by: 14/12/2020
Salary: £3,885 per annum. All reasonable expenses for travel and subsistence will be reimbursed.
Location: Anywhere in Wales. Committee meetings are usually held in Cardiff. Due to the ongoing restrictions surrounding COVID-19, meetings are currently taking place by Microsoft Teams.
Job description
The Food Standards Agency (FSA) is looking for four new members of the Welsh Food Advisory Committee (WFAC).
Role and responsibilities
The WFAC was established in 2000 to provide advice to the FSA on areas such as food safety, food standards and consumer concerns in Wales.
The Committee provide advice to the Agency on a variety of topics. Each year it holds up to four open meetings in Wales and these are supplemented by business meetings, training days and stakeholder events.
Person specification
Essential skills and knowledge:
- Demonstrate a current and continuing knowledge and understanding of food safety and standards issues, including policy development and the stakeholder landscape in Wales.
- Strong analytical, strategic and decision-making skills, able to weigh complex evidence and explain the basis for the advice.
- Have good judgement, a high level of integrity and public responsibility, coupled with the ability to participate in making difficult decisions.
- Ability to interpret and communicate information effectively orally, in writing and through a variety of media channels.
- Ability to serve either without conflict of interest or to demonstrate how they would deal with any potential real or perceived conflict.
- Ability to consider and understand scientific advice, evidence and argument.
- Commitment to consumer issues or bring food/consumer insights within the Wales context.
- Ability to communicate fluently in the Welsh language is essential for one of the posts.
- Demonstrate relevant experience in one (or more) of the following:
- Science - e.g. Microbiology, Medical, Epidemiology, Veterinary, Public Health or Social Science particularly behaviour change.
- Food Policy – Food system governance, standards and assurance.
- Food Law – Food law enforcement.
- Education/Academia - e.g. Food systems and safety.
- Communications - e.g. Engagement with consumers through various channels, including social media/blogging.
- Food Production/Hospitality - Food production/industry background/catering.
- Relevant public bodies - e.g. Consumer protection, food law enforcement, food fraud, public health.
- Other - e.g. feed industry or catering/restaurant/hotel sector, community food initiatives, consumer research, policy making in related areas.
We particularly welcome applications from people from Black, Asian and minority ethnic communities, women, people under 30 years of age, disabled people and people who identify as LGBT+. We will seek to achieve a balanced membership in terms of diversity, expertise, and experience.
Time commitment
The role involves a time commitment of 21 days per annum, including Committee meetings and preparation time.
For more information and to apply visit: www.gov.wales/publicappointments