Deputy Clerk

Location
Cardiff Bay,
Salary
£27,725 - £37,647 (Management Band 2 – HEO)
Posted
05 Feb 2019
Closes
18 Feb 2019
Sectors
Public Sector
Contract Type
Temporary
Hours
Full Time

Post Reference: AC-064-18

Deputy Clerk (Various Posts)

Salary: £27,725 - £37,647 (Management Band 2 – HEO)

Location: Cardiff Bay

The Assembly is recruiting candidates to fill a number of temporary posts supporting committees, plenary and legislation services within the Assembly Business Directorate.

Candidates could be appointed on any of the following basis (candidates should indicate on the form the type of position they wish to apply for):

• We currently have three temporary positions available, two positions that require Courtesy Level Welsh skills, and one position that requires Level 3 Welsh language skills. Further information on the Welsh language criteria is available on page 7 of the job description.

Please note: All of the temporary positions have the possibility of becoming permanent, however we cannot guarantee this.

• We are also looking to appoint reserve candidates for permanent positions that may become available in the near future. If you wish to apply and meet the required standards, you will be held in reserve for the next 12 months and approached should such a position become available.

We also welcome applications on a secondment basis, provided you have your current employer’s permission in advance.

Candidates who do not fully demonstrate the required skills and experience at this grade may be appointed on a temporary basis as a development opportunity to help attain the required level, to assist them should a permanent position become available, which they would then need to apply for.

Service: Policy and Legislation Committee Service / Chamber and Committee Service (including Table Office)

Location: National Assembly for Wales, Tŷ Hywel, Cardiff Bay

Pattern of Working: This is a full time post. Applications from candidates interested in alternative work patterns will be considered, subject to meeting service needs. On occasions, late working may be required.

Security Clearance: This position has been assessed as requiring a ‘CTC’ level of security vetting. For candidates who do not currently possess this level of clearance, appointment would be subject to the successful completion of this level of security vetting.

This is an exciting opportunity to work at the heart of Welsh democracy within the Assembly’s Business Directorate. You will be working directly with Assembly Members, senior officials, stakeholders and the public during an important time for Welsh politics.

The roles are based within the two services that are responsible for supporting Assembly business in plenary and committees.

The post requires first-rate organisational skills; the ability to respond flexibly to changing priorities; strong interpersonal skills and political impartiality at all times.

The post-holder will be responsible for supporting the coordination and delivery of the team’s work, which for committees normally comprises the following roles, as well as the role of Deputy Clerk:

  • Clerk : Leads the team and provides strategic oversight and procedural expertise;
  • Second Clerk : Provides additional senior capacity within certain teams to enable multiple pieces of work to run in parallel; and
  • Team Support : Supports the organisation of the team’s work.

Roles supporting other Assembly Business functions are of a similar size and nature.

You will need to develop strong working relationships with colleagues from other service areas (such as researchers, lawyers, translators and communication specialists) as part of a high-performing multidisciplinary team.

Closing Date for applications: 10.00 18 February 2019

Cyfeirnod y swydd: AC-064-18

Teitl y swydd: Dirprwy Glerc (amryw swyddi)

Cyflog: £27,725 - £37,647 (Band Rheoli 2 – HEO)

Lleoliad: Bae Caerdydd

Mae'r Cynulliad yn recriwtio ymgeiswyr i lenwi nifer o swyddi dros dro yn cefnogi gwasanaethau'r pwyllgorau, y Cyfarfodydd Llawn a deddfwriaeth yng Nghyfarwyddiaeth Busnes y Cynulliad.

Gellid penodi ymgeiswyr ar unrhyw un o'r seiliau canlynol (dylai ymgeiswyr nodi ar y ffurflen y math o swydd y maent yn dymuno gwneud cais amdani):

  • Ar hyn o bryd mae tair swydd dros dro ar gael, mae angen sgiliau Cymraeg Cwrteisi ar gyfer dwy o’r swyddi hyn, a sgiliau Cymraeg lefel 3 ar gyfer y swydd arall. Mae rhagor o wybodaeth am y meini prawf o ran y Gymraeg ar dudalennau 7 a 8 o disgrifiad y swydd.

Noder: Mae posibilrwydd y gallai’r swyddi dros dro ddod yn barhaol, ond nid yw hyn wedi'i warantu.

  • Rydym hefyd yn gobeithio penodi ymgeiswyr wrth gefn ar gyfer swyddi parhaol a allai godi yn y dyfodol agos. Os hoffech ymgeisio, ac os ydych yn bodloni'r safonau gofynnol, byddwn yn eich cadw ar restr wrth gefn am y 12 mis nesaf ac yn cysylltu â chi os bydd rôl o'r fath yn codi.

Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau ar sail secondiad, ar yr amod eich bod wedi cael caniatâd eich cyflogwr presennol o flaen llaw.

Gellir penodi ymgeiswyr nad ydynt yn dangos y sgiliau a'r profiad angenrheidiol yn llawn ar y radd hon dros dro fel cyfle datblygu i'w helpu i gyrraedd y lefel ofynnol, i'w cynorthwyo pe bai swydd barhaol yn codi, a byddai angen iddynt wneud cais amdani.

Gwasanaeth: Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth / Gwasanaethau y Siambr a Phwyllgorau (gan gynnwys y Swyddfa Gyflwyno)

Lleoliad: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Tŷ Hywel, Bae Caerdydd

Patrwm gwaith: Swydd amser llawn yw hon. Ystyrir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn patrymau gwaith gwahanol, yn amodol ar ddiwallu anghenion y gwasanaeth. Gall fod angen gweithio'n hwyr ar adegau.

Cliriad diogelwch: Penderfynwyd bod angen fetio diogelwch ar lefel 'CTC' ar gyfer y swydd hon. O ran yr ymgeiswyr nad oes ganddynt gliriad ar y lefel hon ar hyn o bryd, byddent yn cael eu penodi yn amodol ar gwblhau'r fetio diogelwch yn llwyddiannus ar y lefel hon.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio wrth wraidd democratiaeth yng Nghymru yng Nghyfarwyddiaeth Busnes y Cynulliad. Byddwch yn gweithio'n uniongyrchol gydag Aelodau'r Cynulliad, uwch-swyddogion, rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn ystod cyfnod pwysig i wleidyddiaeth Cymru.

Mae'r rolau wedi'u lleoli yn y ddau wasanaeth sy'n gyfrifol am gefnogi busnes y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn a'r pwyllgorau.

Mae'r swydd yn gofyn am sgiliau trefnu o'r radd flaenaf; y gallu i ymateb yn hyblyg i flaenoriaethau sy'n newid; sgiliau rhyngbersonol cryf a didueddrwydd gwleidyddol bob amser.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gefnogi'r gwaith o gydgysylltu a chyflawni gwaith y tîm, sydd yn achos pwyllgorau fel arfer yn cynnwys y rolau canlynol, yn ogystal â rôl Dirprwy Glerc:

  • Clerc: Yn arwain y tîm ac yn darparu goruchwyliaeth strategol ac arbenigedd gweithdrefnol;
  • Ail Glerc: Yn darparu capasiti uwch ychwanegol mewn rhai timau er mwyn gallu gwneud darnau lluosog o waith ochr yn ochr â'i gilydd; a
  • Cymorth Tîm: Yn helpu i drefnu gwaith y tîm.

Mae'r rolau sy'n cefnogi swyddogaethau eraill y Cynulliad yn debyg o ran maint a natur.

Bydd angen i chi ddatblygu perthynas waith gref gyda chydweithwyr o wasanaethau eraill (fel ymchwilwyr, cyfreithwyr, cyfieithwyr ac arbenigwyr cyfathrebu) fel rhan o dîm amlddisgyblaethol effeithiol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10.00 18 Chwefror 2019

More searches like this