Animal Care Technician BLUA77504
- Recruiter
- Coleg Cambria
- Location
- Northop, Mold
- Salary
- £18,002 – £19,256 per annum, based on a salary assessment and relevant experience
- Posted
- 01 Feb 2019
- Closes
- 26 Feb 2019
- Contract Type
- Contract
- Hours
- Flexible Hours
12 Month Fixed Term Contract, Casual, Hourly Paid
Here at Coleg Cambria, we are now looking for an Animal Care Technician to join us at our Northop campus. This is a casual, hourly paid role mainly covering evenings and weekends.
As our Animal Care Technician, you will provide support for the safe and effective operation of the Animal Centre. Being pro-active in keeping the Animal Centre clean and tidy, particularly with tools, equipment and component storage, you will provide husbandry and medical care for the animals on the unit and maintain the accommodation for the variety of animals being cared for.
So, if you hold a Level 2 qualification (or equivalent) in Animal Care and have experience of working in a relevant animal care environment, caring for a broad range of animal species, then we would love to hear from you.
Able to work safely with minimum supervision, you will have strong practical and organisational skills along with experience of maintaining stock, carrying out stock audits and liaising with various suppliers within a similar environment. You’ll have excellent communication and team working skills, the ability to prioritise and organise own workload and demonstrate good attention to detail.
Experience in farming, birds or aquatics would be distinct advantage, however this is not essential.
In return for your hard work and dedication we can promise you; an excellent pension scheme, generous annual leave entitlement, discounts of a range of college evening courses, a contribution of up to 1/3 towards professional course fees, discounted gym membership and much more!
A DBS Disclosure will be requested from the successful applicant being offered the position.
About Us
Coleg Cambria is one of the UK’s largest colleges employing more than 1450 staff in over five campuses, all conveniently located in North East Wales, offering easy accessibility from within North Wales, Shropshire, Wirral, Merseyside and Cheshire.
Closing Date: 15/02/2019
This is a Blue Octopus Recruitment Ltd vacancy who are operating as an employment agency. Once you have clicked to apply for this vacancy, we will then send you more information on the role including a copy of the application form via email.
Technegydd Gofal Anifeiliaid
Llaneurgain
£18,002 - £19,256 y flwyddyn yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol
Contract cyfnod penodol am 12 mis, swydd achlysurol a delir fesul awr
Rydym yn chwilio am Dechnegydd Gofal Anifeiliaid i ymuno â ni ar ein safle yn Llaneurgain.
Mae hon yn swydd achlysurol a delir fesul awr gan weithio min nos ac ar benwythnosau’n bennaf.
Fel ein Technegydd Gofal Anifeiliaid, byddwch yn cynorthwyo gyda gweithredu'r Ganolfan Anifeiliaid yn ddiogel ac yn effeithiol. Byddwch yn rhagweithiol wrth gadw'r Ganolfan Anifeiliaid yn lân a thaclus, yn enwedig o ran yr offer, cyfarpar ac wrth gadw cydrannau. Byddwch yn darparu gofal hirdymor a gofal meddygol ar gyfer anifeiliaid yr uned ac yn cynnal a chadw’r llety ar gyfer y gwahanol anifeiliaid sy'n derbyn gofal.
Felly, os oes gennych gymhwyster Lefel 2 (neu gymhwyster cyfwerth) mewn Gofal Anifeiliaid a bod gennych brofiad o weithio mewn amgylchedd gofal anifeiliaid perthnasol, gan ofalu am ystod eang o rywogaethau anifeiliaid, yna byddem wrth ein bodd yn cael clywed gennych.
Byddwch yn gallu gweithio'n ddiogel gydag cyn lleied o oruchwyliaeth ag sy’n bosibl. Bydd gennych sgiliau ymarferol a threfnu cadarn, yn ogystal â phrofiad o gynnal a chadw stoc nwyddau, cynnal archwiliadau stoc a chysylltu â chyflenwyr amrywiol, mewn swydd debyg. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a gweithio mewn tîm ardderchog, ac yn gallu blaenoriaethu a threfnu eich baich gwaith eich hun, gan roi sylw da i fanylion.
Byddai profiad o ffermio, neu o weithio gydag adar neu bysgod yn fantais fawr, ond nid yw hynny’n hanfodol.
Yn gyfnewid am eich gwaith caled a’ch ymroddiad, gallwn addo i chi; gynllun pensiwn ardderchog, hawl gwyliau blynyddol hael, gostyngiadau ar ystod o gyrsiau nos y coleg, cyfraniad o hyd at 1/3 at ffioedd cyrsiau proffesiynol, disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd a llawer mwy!
Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd.
Amdanom Ni
Coleg Cambria yw un o golegau mwyaf Prydain ac mae’n cyflogi dros 1450 o staff ar 5 safle sydd wedi'u lleoli'n gyfleus yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac sy'n hawdd cyrraedd atynt o Ogledd Cymru, Swydd Amwythig, Cilgwri, Glannau Merswy a Swydd Gaer.
Dyddiad Cau: 15/02/2019
Mae hon yn swydd wag Blue Octopus Recruitment Ltd., sy'n gweithredu fel asiantaeth gyflogi. Unwaith y byddwch wedi clicio i wneud cais am y swydd hon, byddwn yn anfon e-bost atoch chi gyda rhagor o wybodaeth am y swydd a chopi o'r ffurflen gais.