Rheolwr Llinell Gofal

Location
Llanelli
Salary
£30,153- £33,437 (Gradd I)
Posted
21 Sep 2017
Closes
01 Oct 2017
Ref
225300437-02
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Adran Cymunedau
Llinell Gofal - Eastgate, Llanelli

Rheolwr Llinell Gofal

  • £30,153- £33,437 (Gradd I)
  • Cyf.: 1/013099

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn awdurdod lleol sy’n perfformio yn uchel, yn fywiog ac yn flaengar sy’n edrych i wella yn gyson, ac mae’n ymrwymedig i gynnal ei henw da am ddarparu gwasanaethau o’r radd flaenaf.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i berson â sgiliau rheoli ac arwain rhagorol i ymuno â ni a chwarae rhan allweddol wrth fynd â’n gwasanaeth Llinell Ofal ymlaen.

Mae’r gwasanaeth Llinell Ofal yn ddarparu gwasanaeth 24x7 i drigolion ledled Sir Gaerfyrddin a De Orllewin Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth rownd y cloc i ddefnyddwyr larwm cymdeithasol hŷn a bregus sydd angen help a chefnogaeth. Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu gwasanaeth ymateb brys y tu allan i oriau ac ystod o wasanaethau gan gynnwys atgyweiriadau tai cyngor a materion priffyrdd.

Yn ddiweddar, mae’r gwasanaeth wedi dod yn un pwynt cyswllt ar gyfer gwybodaeth, cyngor a chymorth mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol a Lles, am y rheswm hwn, byddwn yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd â gwybodaeth neu brofiad o weithio mewn Gofal Cymdeithasol, Iechyd neu Dai.

Ar hyn o bryd, mae gennym swydd wag i reolwr Llinell Ofal i arwain tîm o tua 40 o staff yn ystod cyfnod uchelgeisiol o newid wrth i ni anelu at ddod yn ganolfan arloesi i’r DU.

Mae angen Cymraeg llafar i gyflawni’r swydd hon. Gellir estyn cymorth ar ôl y penodiad i gyrraedd y lefel hon.

Gwnewch gais ar-lein ar ein gwefan gan y botwm “Ymgeisio” ar y dudalen hon.

Dyddiad Cau: 1af o Hydref 2017