Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant

Location
Carmarthen
Salary
Hyd at £123,218
Posted
06 Sep 2017
Closes
25 Sep 2017
Ref
225288866-01
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant

Cyflog: Hyd at £123,218

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn awdurdod lleol uchel ei berfformiad, bywiog a blaengar ac mae wedi ymrwymo i gynnal ei enw rhagorol am gyflwyno gwasanaethau o’r radd flaenaf.

Ai chi yw’r ymgeisydd cywir ar gyfer y swydd uchod?

Os ydych, bydd gennych phrofiad llwyddiannus o arwain a rheoli’n strategol. Byddwch yn gwybod beth yw gwasanaethau o’r radd flaenaf a sut i helpu eich staff i gyflawni’r safonau hyn o fewn amgylchedd sy’n gofyn llawer. Mae Sir Gar yn sir ddwyieithog bydd yn ofynnol i chi weithio’n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Gellir darparu cymorth wedi i chi gael eich penodi er mwyn cyrraedd y lefel ofynnol.

I gael pecyn ymgeisio, ewch i’n gwefan gan y botwm “Ymgeisio” ar y dudalen hon.

Ar ôl llenwi’r ffurflen gais, dylid ei hanfon at: Paul Thomas, Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad), Adeilad 14, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3HB.

Dyddiad Cau: 25ain Medi 2017