GYRRWR/WRAIG AILGYLCHU

Location
Caernarfon, Gwynedd
Salary
£14,625
Posted
05 Sep 2017
Closes
03 Oct 2017
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Mae Antur Waunfawr yn cynnig cyfleoedd gwaith a chyfleoedd hamdden i hyrwyddo Iechyd a Lles i oedolion ag anableddau dysgu ac eraill dan anfantais yn y gymuned.  Er mwyn sicrhau gwasanaeth o’r ansawdd uchaf rydym yn chwilio am unigolion blaengar i ymuno â’r Cwmni

GYRRWR/WRAIG AILGYLCHU (DILLAD A DODREFN)

Swydd llawn amser, 37.5 awr yr wythnos (dydd Llun i ddydd Sul - oriau hyblyg)

Cyflog : £14,625 (£7.50 yr awr) pro-rata y flwyddyn

Cytundeb: Parhaol

Lleoliad:  Warws Werdd, Caernarfon

Mae Antur Waunfawr yn chwilio am unigolion i roi gwasanaeth casglu Dillad a Dodrefn i fusnes ailgylchu ac ailddefnyddio’r Cwmni. Mae’r Warws Werdd yn rhan o dri Busnes Gwyrdd Antur Waunfawr

Mae’n hanfodol i’r ymgeiswyr llwyddiannus fod â thrwydded yrru ac yn berchen car.  Bydd unrhyw benodiad yn amodol i archwiliad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Huw Davies, Dirprwy Brif Weithredwr (Swydd Gyrrwr/wraig Ailgylchu) ar 01286 674155 neu Ellen Thirsk, Rheolwraig Adnoddau Dynol (Swydd Gweithiwr/wraig Cefnogol Iechyd a Llesiant) drwy ffonio 01286 650721 neu drwy e-bost huw@anturwaunfawr.cymru / ellen@anturwaunfawr.cymru.

Am becyn swydd cysylltwch â’r Adran Adnoddau Dynol ar 01286 650721  neu drwy e-bost swyddi@anturwaunfawr.cymru.  Mae modd hefyd lawr lwytho pecyn swydd ar www.anturwaunfawr.cymru

Dyddiad Cau ar gyfer y swyddi: Dydd Mercher 27 Medi 2017

(This is an advertisement for Recycling Drivers (Furniture and Textiles) and Health and Wellbeing Support Worker (Day) for which fluency in Welsh and English is essential.)