Grŵp Cynefin*

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Adfywio

Location
Denbigh & Penygroes
Salary
£72,250 y flwyddyn + buddion
Posted
29 Aug 2017
Closes
21 Sep 2017
Ref
225286235-01
Sectors
Public Sector
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Cynigir cyfle i unigolyn sy’n awyddus i ddatblygu gyrfa mewn awyrgylch Gymreig lle mae’r amodau gwaith yn flaengar a chyfeillgar i’r teulu.

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Adfywio

  • Cyflog: £72,250 y flwyddyn + buddion
  • 35 awr yr wythnos
  • Lleoliad: Dinbych & Penygroes  

Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai elusennol sy’n cyflogi dros 200 o staff ac yn gweithredu ar draws ffiniau saith Awdurdod Lleol yng ngogledd a chanolbarth Cymru. Gan ddarparu gwasanaethau rhagorol i dros 4,500 o gartrefi, mae gan Grŵp Cynefin enw da am ei gwir ymrwymiad i’r cymunedau hynny y mae’n gweithredu ynddynt ynghyd â chynlluniau cadarn i dyfu a datblygu.

Fel y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Adfywio byddwch yn cyfrannu’n arweiniol a strategol fel aelod o’r Tim Arweinyddiaeth at gyflawni gweledigaeth, nodau ac amcanion cynllun busnes Grŵp Cynefin a sicrhau sefydliad cadarn ei lywodraeth a’i sylfaen ariannol.

Rydym yn ymroddedig i gydraddoldeb ac amrywiaeth a gwahoddir ceisiadau o bob sector o’r gymuned. Am becyn gwybodaeth a ffurflen gais, ewch i'n gwefan gan y botwm "Ymgeisio" ar y dudalen hon.

Dyddiad Cau: Hanner Dydd 21/09/2017

This is an advertisement for a Regeneration Services Director for which effective communication in Welsh and English is essential.

Mae Grŵp Cynefin yn Gymdeithas Dai a gofrestrwyd o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Budd
Cymunedol 2014 (Rhif 21194R) a gyda Llywodraeth Cymru (Rhif LO29)

More searches like this