Recycling Advisors / Team Leaders - Cynghorwyr Ailgylchu/Arweinwyr Tîm

Location
Bangor
Salary
£8.00 per hour plus holiday pay
Posted
17 Aug 2017
Closes
14 Sep 2017
Ref
OR/MEL/TLRA/GWYNEDD
Contract Type
Contract
Hours
Full Time

Recycling Advisors / Team Leaders
Our client is looking to recruit three teams of enthusiastic Food Waste Recycling Advisors and Team Leaders to work on a Recycle for Wales project on behalf of WRAP Cymru.

The positions and areas of work are set out below.
Council Area: Gwynedd
Areas: Blaenau Ffestiniog, Y Felinheli, Penrhosgarnedd, Hirael and Bangor
No. Of Team Leader Positions: 2
No. Of Recycling Advisor Positions: 2

The campaign is running for up to 4 weeks from late September to end of October 2017. They are looking for people with excellent communication skills, who are positive, friendly, outgoing and enjoy outdoor working conditions. Previous experience of working with the general public in a customer service, canvassing or sales and marketing role will be an advantage but not essential as full training will be provided. This is an excellent opportunity to get experience working with the public and also in the waste and environmental field. Ability to speak Welsh language is essential.

Recycle for Wales is a communications campaign that aims to raise awareness of recycling and encourages the public to participate in local recycling services to help meet the Welsh Government's ambitious targets of increasing overall recycling rates to 70% by 2025. In particular, the priority is to increase amount of food waste recycled. By making people aware of their local food recycling service and how to participate, your positive attitude you can make a significant contribution and help encourage people to get involved.

Main duties and responsibilities of the advisors:

• To visit door to door and speak to residents in pre-selected areas about the Council’s kerbside food recycling services.
• To educate residents about the food recycling services available, focusing on what can and cannot be recycled and provide them with promotional materials.
• To encourage residents to take part in and use the recycling services more.
• To achieve set individual daily/weekly targets to ensure the project is completed on time.

Core hours are 11am - 7pm, Tuesday to Saturday. Pay is based on an hourly rate of £8.00 per hour plus holiday pay (totalling to £8.97 per hour) for 35 hours a week, with £5 travel allowance a full day worked for the Advisors position. Team Leader pay is based on an hourly rate of £9 per hour plus holiday pay (totalling to £10.09 per hour) for 35 hours a week, with £10 travel allowance a full day worked, with all being paid on a monthly basis.

Cynghorwyr Ailgylchu/Arweinwyr Tîm
Mae M·E·L Research am recriwtio tri thîm o Gynghorwyr Ailgylchu Gwastraff Bwyd ac Arweinwyr Tîm brwdfrydig i weithio ar brosiect Ailgylchu dros Gymru ar ran WRAP Cymru.

Mae’r swyddi a’r ardaloedd gwaith wedi’u gosod allan isod.
Ardal Cyngor: Gwynedd
Ardaloedd detholedig: Blaenau Ffestiniog, Y FELINHELI, Penrhosgarnedd, Hirael a Bangor
Nifer o swyddi Arweinydd Tîm: 2
Nifer o swyddi Cynghorydd Ailgylchu: 2

Cynhelir yr ymgyrch am hyd at 6 wythnos o ganol mis Medi hyd ddiwedd mis Hydref 2017. Rydym yn chwilio am bobl gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol, sydd yn gadarnhaol, yn gyfeillgar a chlên, ac yn mwynhau gweithio mewn amgylchiadau awyr agored. Bydd profiad blaenorol o weithio gyda’r cyhoedd mewn rôl gwasanaeth cwsmer, canfasio, neu werthu a marchnata o fantais ond nid yw’n hanfodol gan y darperir hyfforddiant llawn. Mae hwn yn gyfle gwych i gael profiad o weithio gyda’r cyhoedd a hefyd o weithio ym meysydd gwastraff ac amgylcheddol. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.

Ymgyrch cyfathrebu yw Ailgylchu dros Gymru, sydd yn anelu at godi ymwybyddiaeth am ailgylchu ac yn annog y cyhoedd i ddefnyddio gwasanaethau ailgylchu lleol er mwyn helpu i gwrdd â thargedau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i gynyddu cyfraddau ailgylchu cyffredinol i 70% erbyn 2025. Yn arbennig, y flaenoriaeth yw cynyddu lefelau ailgylchu gwastraff bwyd. Drwy wneud pobl yn ymwybodol o’u gwasanaeth ailgylchu bwyd lleol a sut mae cymryd rhan, gall eich agwedd gadarnhaol chi wneud cyfraniad sylweddol a helpu i annog pobl i gymryd rhan.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau’r cynghorwyr:

• Galw o ddrws i ddrws a siarad gyda phreswylwyr mewn ardaloedd wedi’u dethol o flaen llaw am wasanaethau ailgylchu bwyd ar garreg y drws y Cyngor.
• Addysgu preswylwyr am y gwasanaethau ailgylchu bwyd sydd ar gael, yn canolbwyntio ar y pethau y gellir ac na ellir eu hailgylchu a darparu deunyddiau hyrwyddo.
• Annog preswylwyr i gymryd rhan yn a defnyddio mwy ar y gwasanaethau ailgylchu.
• Cyflawni targedau dyddiol/wythnosol unigol er mwyn sicrhau y cwblheir y prosiect ar amser.

Yr oriau craidd yw 11yb – 7yh, dydd Mawrth i ddydd Sadwrn. Mae’r cyflog wedi’i seilio ar gyfradd o £8.00 fesul awr gyda thâl gwyliau wedi’i ychwanegu (sydd yn rhoi cyfanswm o £8.97 fesul awr) am 35 awr yr wythnos, gyda lwfans teithio o £5 am bob diwrnod llawn a weithiwyd ar gyfer y swydd Cynghorydd. Seilir cyflog Arweinydd Tîm ar gyfradd o £9 fesul awr gyda thâl gwyliau wedi’i ychwanegu (sydd yn rhoi cyfanswm o £10.09 fesul awr) am 35 awr yr wythnos, gyda lwfans teithio o £10 am bob diwrnod llawn a weithiwyd, gyda’r cwbl yn cael ei dalu yn fisol.