Swyddog Cefnogi Cyllid ac Adnoddau / Finance and Resources Support Officer

Location
Cardiff (Caerdydd)
Salary
Salary: £23,400 - £26,400
Posted
17 Aug 2017
Closes
08 Sep 2017
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

This is an advertisement for a Finance and Resources Support Officer for which the ability to communicate in Welsh and English is an essential requirement.

COMISIYNYDD Y GYMRAEG

SWYDD DDISGRIFIAD

Teitl y swydd: Swyddog Cefnogi Cyllid ac Adnoddau

Tîm: Cyllid ac Adnoddau

Graddfa: EO/Band C

Yn atebol i: Uwch Swyddog Cyllid ac Adnoddau

Wrth i waith Comisiynydd y Gymraeg ddatblygu, fe all gofynion y swydd newid.  Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu trafod a’u cytuno â deiliad y swydd ymlaen llaw.

_______________________________________________________________

PRIF DDYLETSWYDDAU

Darparu cefnogaeth gynhwysfawr i’r Tîm Cyllid ac Adnoddau a chynorthwyo aelodau’r Gyfarwyddiaeth yn ôl y gofyn.

PRIF DDYLETSWYDDAU

Darparu cefnogaeth gynhwysfawr i’r Tîm Cyllid ac Adnoddau a chynorthwyo aelodau’r Gyfarwyddiaeth yn ôl y gofyn.

DYLETSWYDDAU CYLLID

  1. Cofnodi archebion ac anfonebau ar y system gyfrifon cyfrifiadurol yn gywir ac yn amserol.  Prosesu taliadau i gyflenwyr.  Delio ag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud ag archebion, anfonebau neu daliadau.
     
  2. Prosesu a thalu treuliau swyddogion gan sicrhau eu bod wedi eu hawdurdodi’n briodol ac wedi eu hawlio yn unol â pholisi a gweithdrefnau’r Comisiynydd.
     
  3. Prosesu cyflogau swyddogion Comisiynydd y Gymraeg yn unol â’r nodyn cyngor a ddarparir gan yr Uwch Swyddog Adnoddau Dynol.  Sicrhau bod y gwybodaeth wedi ei phrosesu’n gywir, yn gyflawn ac yn amserol er mwyn talu swyddogion ar ddiwrnod gwaith olaf y mis.
     
  4. Dosbarthu a chasglu derbynebau cardiau pwrcasu yn fisol.  Cysoni’r gwariant a’i brosesu’n fisol.
     
  5. Cysoni datganiad Trainline/Diner’s Club a phrosesu’r gwariant i’r system gyllid yn fisol
     
  6. Prosesu’r asedau sefydlog i’r system Asedau Sefydlog.  Cynnal proses flynyddol o wirio bodolaeth yr asedau.
     
  7. Cysoni balansau rheoli’r cyfrifon yn gyfnodol, megis: Asedau, Credydwyr, Dyledwyr, y Banc a’r Cyflogau.  Gwirio unrhyw wahaniaethau amser neu barhaol. 
  8. Monitro balansau yn y cyfrifon banc wrth brosesu taliadau.  Paratoi rhagolwg o’r llifoedd arian yn fisol gan ragweld y trosglwyddiadau rhwng y cyfrifon sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod arian digonol ar gael i dalu  cyflenwyr/swyddogion.
     
  9. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Cyllid ac Adnoddau i baratoi’r adroddiadau Dalwyr Cyllideb a’r Adroddiad Cyllid misol i’w cyflwyno i’r Tîm Rheoli.
     
  10. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Cyllid ac Adnoddau i baratoi’r cyfrifon blynyddol,  yn ôl y galw.
     
  11. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Cyllid ac Adnoddau i baratoi’r Amcangyfrif ariannol blynyddol at sylw Gweinidogion Cymru a’r Gyllideb fanwl i’w chyflwyno i’r Tîm Rheoli, yn ôl y galw.
     
  12. Gwaith gweinyddol fel y gofyn megis trefnu ceir llog, ystafelloedd mewn gwestai, tocynnau trên ac awyren, archebu nwyddau swyddfa a chadw gorolwg ar y stordy nwyddau swyddfa ar lawr 2 i sicrhau bod trefn dderbyniol.
     
  13. Bod yn gyfrifol am lwytho dogfennau’r Tîm Cyllid ar y fewnrwyd.
     
  14. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Cyllid ac Adnoddau gyda hyfforddiant ac ymwybyddiaeth cyllid, yn ôl y galw.
     
  15. Cynorthwyo’r Uwch Swyddog Cyllid ac Adnoddau trwy fod yn gyfrifol am faterion gweinyddol a gweithredol cynnal gwasanaethau’r swyddfeydd.

DYLETSWYDDAU GWEINYDDOL CANOLOG

  • Ateb a throsglwyddo galwadau ffôn neu gymryd negeseuon ar sail trefn rota   a chofnodi’r wybodaeth yn unol â pholisïau mewnol.   Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymwelwyr i’r swyddfa yn ôl yr angen.
  • Cynorthwyo gyda’r trefniadau post; agor y post sy’n cyrraedd a’i drosglwyddo i’r swyddogion (neu’r timoedd) priodol; delio gyda’r post sy’n mynd allan o’r swyddfa gan sicrhau fod cyllid digonol yn y peiriant ffrancio bob amser a threfnu cyllid ychwanegol yn amserol. Cofnodi’r wybodaeth yn unol â pholisïau mewnol.
  • Fe rhan o dîm, bod yn gyfrifol, yn ôl y galw, am gynorthwyo gyda gwaith gweinyddol ar draws y sefydliad.

DYLETSWYDDAU CYFFREDINOL

  • Gweithredu’n gyson ac yn amserol yn unol â holl bolisïau a chanllawiau’r Comisiynydd.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol eraill yn ôl y galw.