Rheolwr Cyffredinol
- Recruiter
- Corwen Farmers Ltd*
- Location
- Nghorwen
- Salary
- Hyd at £40k+ gyda Char a Buddiannau (pensiwn a.y.y.b)
- Posted
- 26 Jul 2017
- Closes
- 23 Aug 2017
- Ref
- 225248206-01
- Sectors
- Management
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Full Time
Rheolwr Cyffredinol – Corwen Farmers Cyf
Cyflog hyd at £40k+ gyda Char a Buddiannau (pensiwn a.y.y.b) ar gael yn ddibynnol ar brofiad a chymwysterau.
Mae cyfle cyffrous ar gael i berson uchelgeisiol reoli Cymdeithas Amaethyddol Gydweithredol sydd yn broffidiol ac sydd ag enw da yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
Mae gan Corwen Farmers Cyf. (sydd â’i phencadlys yng Nghorwen) drosiant o dros £6m y flwyddyn ac mae’n gwneud elw cyson bob blwyddyn.
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos dealltwriaeth dda o fasnachu amaethyddol yn ogystal â dealltwriaeth o ffermio a bywyd gwledig yr ardal. Bydd hefyd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus allu rheoli ac ysgogi staff, a rheoli arian, enw da’r busnes, a meddu ar graffter masnachol cryf i brynu a phrisio’r cynnyrch sy’n cael ei werthu fel ei fod yn gystadleuol ac yn broffidiol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn adrodd yn uniongyrchol i fwrdd bychan o gyfarwyddwyr, sydd wedi eu hethol yn ddemocrataidd, a bydd angen iddo/iddi reoli llywodraethiant y busnes a sicrhau cydymffurfiaeth â phob mater rheoleiddio (e.e. FIAS, UFAS, BASIS, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i enwi dim ond rhai).
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol.
I wneud cais am y swydd hon, anfonwch eich CV llawn a manwl gan y botwm "Gwneud cais" ar y dudalen hon.