Independent Office for Police Conduct
- Recruiter
- Veredus
- Location
- Cardiff, Cardiff (Caerdydd)
- Salary
- Up to £93,000 pa
- Posted
- 16 Jun 2017
- Closes
- 21 Jul 2017
- Sectors
- Public Sector
- Contract Type
- Permanent
- Hours
- Full Time
Independent Office for Police Conduct
Director, Wales
Up to £93,000 pa
Cardiff
The Independent Police Complaints Commission will become the Independent Office for Police Conduct (IOPC) in December 2017. The IOPC will investigate serious allegations against the police and other enforcement bodies, including corruption, deaths, serious injuries and other forms of misconduct. It will also act as an appellate body for complainants who are dissatisfied with local police investigations of their complaints.
In recent years, the IPCC has grown and made changes to its organisation, processes and structure, to enable it to investigate many more serious complaints independently of the police. The IOPC will need to build on these reforms, exercising effective oversight of the police complaints system as a whole and ensuring public confidence.
The Director, Wales will be the public face of the IOPC in Wales, working with the police and other stakeholders and dealing with the press and media. They will lead investigations of police complaints, conduct matters and serious incidents to high standards, building public confidence in the police complaints system and ensuring that learning is identified and used to improve policing practice. The Director, Wales will also be responsible for providing leadership and management to their staff and coordinating the effective use of resources in Wales, while also contributing across the UK-wide corporate whole.
The successful candidate will need the credibility, resilience and stamina to operate in a high-profile environment. Crucial to success in this role, too, will be a sophisticated understanding of the complexity of the Welsh public sector and political landscape, and the challenges of operating in two legislative frameworks. As such, ideal candidates will have strong and deep networks in Wales, and at the highest levels. They will need to work effectively with senior stakeholders, with the Deputy Director General Operations, the Regional Directors, and with their own team to lead and drive excellence in the operational work of the IOPC. This role presents a rare opportunity for the right candidate to shape the future of the IOPC and its working methods in Wales, and UK-wide. Welsh language skills would be beneficial, but are not essential.
For more information regarding the roles including details of how to apply, please visit our website by clicking apply and use reference 929883.
The closing date for applications is 12 noon on Friday, 21st July 2017.
Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu
Cyfarwyddwr, Cymru
Hyd at £93,000 y flwyddyn
Caerdydd
Daw Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu yn Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu fis Rhagfyr 2017. Bydd y Swyddfa Annibynnol yn ymchwilio i honiadau difrifol yn erbyn yr heddlu a chyrff gorfodi eraill gan gynnwys llygredd, marwolaethau, anafiadau difrifol a ffurfiau eraill o gamymddwyn. Bydd hefyd yn gweithredu fel corff apêl i rai sy’n anfodlon â'r ffordd y mae heddluoedd lleol wedi ymdrin â'u cwynion.
Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu wedi tyfu ac wedi cyflwyno newidiadau i'w sefydliad, ei brosesau a’i strwythur i'w alluogi i ymchwilio i lawer mwy o gwynion difrifol yn annibynnol ar yr heddlu. Bydd yn rhaid i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu adeiladu ar y newidiadau hyn, cael trosolwg effeithiol o system cwynion yr heddlu yn ei chyfanrwydd ac ennyn ymddiriedaeth y cyhoedd.
Y Cyfarwyddwr, Cymru, fydd wyneb cyhoeddus y Swyddfa Annibynnol yng Nghymru, gan weithio gyda'r heddlu a rhanddeiliaid eraill ac ymdrin â'r wasg a'r cyfryngau. Bydd yn arwain ymchwiliadau i gwynion yn erbyn yr heddlu ac ynghylch materion ymddygiad a digwyddiadau difrifol, a hynny i safon uchel, gan fagu hyder ymhlith y cyhoedd yn system cwynion yr heddlu a sicrhau y dysgir drwy brofiad i wella ymarfer yr heddlu. Bydd Cyfarwyddwr, Cymru, hefyd yn gyfrifol am arwain a rheoli staff ac am gydlynu’n effeithiol wrth ddefnyddio adnoddau yng Nghymru gan gyfrannu, yr un pryd, at waith y Swyddfa Annibynnol yn gorfforaethol ledled y DU.
Bydd yn rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â'r hygrededd, gwytnwch a’r dyfalbarhad i weithredu mewn swydd gyhoeddus, amlwg. Bydd llwyddiant yn y swydd hon yn dibynnu i raddau helaeth ar fod â dealltwriaeth soffistigedig o gymhlethdod byd y sector gyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru ac o’r heriau o weithio mewn dwy fframwaith ddeddfwriaethol. Felly, bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gysylltiadau cryf a dwfn yng Nghymru a hynny ar y lefelau uchaf. Bydd yn rhaid gweithio’n effeithiol gydag uwch randdeiliaid, gyda’r Is-gyfarwyddwr Gweithrediadau Cyffredinol a’r Cyfarwyddwyr Rhanbarthol a chyda’r tîm mewnol i arwain a datblygu rhagoriaeth yng ngwaith bob dydd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu. Mae’r swydd hon yn gyfle prin i’r ymgeisydd iawn ffurfio dyfodol y Swyddfa Annibynnol a’i ffordd o weithio yng Nghymru, a hefyd ledled y DU. Byddai gwybodaeth o’r Gymraeg o fantais, ond nid yn hanfodol.
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y swydd, gan gynnwys sut i ymgeisio, ar gael ar wefan www.veredus.co.uk. Defnyddiwch gyfeirnod 929883.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner ddydd Ddydd Gwener 21 Gorffennaf 2017.