Uwch Swyddog Achos

Location
Cardiff, Cardiff (Caerdydd)
Salary
£26,500 - £32,200 y flwyddyn
Posted
30 May 2017
Closes
30 Jun 2017
Sectors
Legal
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Sbarduno Newid i Bobl Hŷn ledled Cymru

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn hyrwyddwr ac yn llais annibynnol ar ran pobl hŷn ledled Cymru.

Uwch Swyddog Achos (Cyfnod Penodol o 15 mis).

£26,500 - £32,200 y flwyddyn

Mae'r gallu i siarad Cymraeg ar gyfer y rôl hon yn hanfodol.

Mae’r Tîm Lles a Grymuso’n cyfrannu at ddatblygu a chyflwyno rhaglen waith y Comisiynydd drwy cyflawni gwaith achos amserol a chadarn o safon uchel.

Bydd yr Uwch Swyddog Achos yn atebol i Arweinydd y Rhaglen Diogelu a Mynediad at Gyfiawnder. Mi fydd yr unigolyn yn gyfrifol am ddatblygu a darparu gwasanaeth gwaith achos eithriadol, sy’n cyflawni canlyniadau cadarnhaol i bobl hŷn a’u teuluoedd yng Nghymru.

Bydd deiliad y swydd yn darparu cefnogaeth a gwaith achos cymhleth i bobl hŷn a’u teuluoedd dros y ffôn, drwy e-bost ac mewn cyfarfodydd, er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl hŷn a’u teuluoedd yn cael eu clywed a’u deall gan bobl sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru (gan gynnwys mewn perthynas â achosion amddiffyn oedolion).

Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

I gael rhagor o wybodaeth a manylion ymgeisio, ewch i http://www.olderpeoplewales.com/wl/about/Vacancies.aspx neu anfonwch e-bost i recruitment@olderpeoplewales.com

Dyddiad Cau: 26 Mehefin 2017 5.00y.p. Os byddwch chi ar y rhestr fer, mae’n rhaid i chi fod ar gael i ddod i gyfweliad ar 5 Gorffennaf 2017.

More searches like this