Policy Engagement Manager

Location
Cardiff
Salary
£33,658 - £37,263
Posted
22 May 2017
Closes
05 Jun 2017
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time

Policy Engagement Manager/Rheolwr Ymgysylltu â Pholisi

Location: Cardiff
Salary: £33,658

NUS Wales exists to promote, defend and extend the rights of students, and develop strong students’ unions. It is politically autonomous from NUS and sets its own political direction within the context of a devolved Welsh Assembly and Government.

About the role

As Policy Engagement Manager, you will orchestrate NUS Wales’ policy development and governance practices, which includes taking the political direction of NUS Wales’ full-time elected officer team, the delivery of events, and focusing on the priorities and strategic objectives of the organisation and students’ unions. This role is key to developing locally evidenced based approaches to national policy narratives and consultations.

The successful candidate will have the experience to be able to lead a team that develops NUS Wales’ policy, events and governance practices. You should be adept in conducting both qualitative and quantitative policy research and analysis, and able to interpret complex subjects and present them in an engaging way. You will be able to manage projects effectively and have excellent influencing skills. You should have a good an understanding of current affairs within Welsh politics.

This role will include travel within Wales and the UK, with travel time beyond normal working hours.

Benefits

In addition to your basic salary we also offer a generous benefits package which includes:

27 days holiday (plus 1 extra day each year to a maximum of 30) plus 4 days over the Christmas period as well as public holidays

Childcare voucher scheme with a further childcare allowance to support parents

Flexible working options

An individual health cash plan

Employee assistance scheme including a GP advice line, virtual doctor, counselling, medical information and legal advice

A generous pension scheme (employer matched up to a maximum of 6% of basic salary)

Access to learning and development opportunities

How to apply

For more information please read the role profile or to apply please complete the application form and diversity monitoring form, both available on our website

Please note we do not accept CVs or pdf documents

Deadline for applications is 5th June 2017

Interviews will be held on 19th or 20th June 2017

Completed applications should be returned to recruitment@nus.org.uk

NUS is committed to being an inclusive employer and having a diverse workforce. We particularly welcome and encourage applications from Black, Asian and minority ethnic background.

Mae UCM Cymru'n bodoli er mwyn hyrwyddo, amddiffyn ac ymestyn hawliau myfyrwyr a datblygu undebau myfyrwyr cryf. Mae'n wleidyddol hunan-reolus o UCM ac mae'n gosod ei gyfeiriad gwleidyddol ei hun o fewn cyd-destun Llywodraeth a Chynulliad datganoledig Cymru.

Ynglŷn â'r rôl

Yn rôl y Rheolwr Ymgysylltu â Pholisi, byddwch yn arwain datblygiad polisi a llywodraethiant UCM Cymru, sy'n cynnwys cyfeiriad gwleidyddol tîm swyddogion etholedig llawn amser UCM Cymru, cynnal digwyddiadau a chanolbwyntio ar flaenoriaethau ac amcanion strategol y mudiad ac undebau myfyrwyr. Mae'r rôl hon yn hollbwysig o ran datblygu ymagweddau sy'n seiliedig ar dystiolaeth tuag at drafodaethau ac ymgynghoriadau polisi cenedlaethol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o fod yn gallu arwain tîm sy'n datblygu polisi, digwyddiadau ac arferion llywodraethu UCM Cymru. Dylech fod yn medru cynnal ymchwil ansoddol a mesurol, ynghyd â dehongli pynciau cymhleth a'u cyflwyno mewn ffordd sy'n ennyn diddordeb. Byddwch yn gallu rheoli prosiectau'n effeithiol a bydd gennych chi sgiliau dylanwadu ardderchog. Dylech fod yn meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o faterion cyfoes o fewn gwleidyddiaeth Cymru.

Bydd y swydd yn cynnwys teithio o fewn Cymru a'r DU, gydag amser teithio'r tu hwnt i oriau gwaith cyffredin.

Buddion

Ynghyd â'ch cyflog sylfaenol, rydym hefyd yn cynnig pecyn buddion hael sy'n cynnwys:

27 diwrnod o wyliau (hefyd 1 diwrnod ychwanegol bob blwyddyn hyd at uchafswm o 30 diwrnod) hefyd 4 diwrnod ychwanegol dros gyfnod y Nadolig, ynghyd â gwyliau cyhoeddus

Cynllun taleb gofal plant gyda lwfans gofal plant pellach i gynorthwyo rhieni

Opsiynau gweithio hyblyg

Cynllun ariannol iechyd unigol

Cynllun cymorth i aelodau staff, gan gynnwys llinell-gyngor at feddyg teulu, meddyg rhithwir, cwnsela, gwybodaeth feddygol a chyngor cyfreithiol

Cynllun pensiwn hael (mae'r cyflogwr yn cynnig hyd at 6% o'r cyflog sylfaenol)

Cyfleoedd am ddysgu a datblygiad

Sut i gyflwyno cais

Am fwy o wybodaeth, darllenwch y proffil rôl, neu os ydych am ymgeisio a fyddech cystal â chwblhau'r ffurflen gais a'r ffurflen fonitro amrywioldeb; mae'r naill a'r llall ar gael ar ein gwefan

Dylech nodi nad ydyn ni'n derbyn CV na dogfennau pdf

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5 Mehefin 2017

Cynhelir cyfweliadau ar 19 neu 20 Mehefin 2017. Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau at recruitment@nus.org.uk

Mae UCM wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol a chynnal gweithlu amrywiol. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan y rheiny sy'n Groenddu, Asiaidd neu o gefndir lleiafrifol ethnig.